Clwb Rygbi Pwllheli,
Parc Bodegroes,
Efailnewydd,
Pwllheli,
Gwynedd LL53 5TH
Rhif Ffon 01758 613676 |
e-bost:
ccpwll2@tiscali.co.uk
gwefan:
www.pwllhelirfc.com
|
Tîm Cyntaf : Adran 4 Gogledd
Ail Dîm : Cynghrair Gwynedd
Ieuenctid : Adran 1 Gogledd Cymru
Tim Cyngewri
Timau o dan 16, 15, 14, 13, 12 11, 10 , 8 a 7 oed.
Merched. |

Cliciwch yma i weld map o leoliad y Clwb.
NOSWEITHIAU YMARFER.
Tîm Cyntaf ag Ail Dîm : Nos Fawrth a Nos Iau 7.00 - 9.00
Ieuenctid : Nos Fawrth a Nos Iau 6.30 - 8.00
Timau merched : Nos Iau 6.00 - 7.00
Plant iau: Nos Fawrth 6.00-7.00
(Chwaraeir gêmau iau ar fore Sul)
***************
MAE MAES CHWARAE BOB TYWYDD AR GAEL I'W HURIO.
Cysylltwch a'r clwb am fanylion.
Mae'r Clwb yn awyddus i ymestyn croeso cynnes i aelodau newydd ac mae'r adeiladau ar gael i unrhyw un sydd angen trefnu cyfarfod, parti penblwydd neu ddathliad arbennig. Gyda cyfleusterau'r Clwb wedi gwella llawer dros y blynyddoedd diwethaf mae'n lle delfrydol i gynnal pob math o weithgaredd a cewch dipyn o waith ei guro. Cysylltwch â'r Stiward - John Hodgson i gael sgwrs ac i drafod eich gofynion. Hurio yn rhag ag am ddim.
Gobeithir yn fawr y gwnewch fwynhau cynnwys y wefan a cheisiwn gadw'i fyny gyda datblygiadau ar y cae ac o fewn y Clwb yn gyffredinol, gyda newyddion cyfoes a diddorol. Croesawir cyfraniadau ganddoch i'w cynnwys ar y safle.
Mae'n bwysig nodi o'r cychwyn fod bodolaeth a datblygiad y Clwb i'r dyfodol yn ddibynnol arnoch chi'r cefnogwyr. Gall hyn fod drwy dâl aelodaeth, bod yn noddwr, dod i gefnogi gemau rygbi, cytuno i fod yn is-lywydd neu drwy hysbysebu yn ein rhaglen yn flynyddol. Mae pob cyfraniad yn werthfawr a rydym yn ddiolchgar iawn amdan pob un.
Fel y gallwch fentro mae cyfraniadau oddiwrth Gwmniau lleol yn sylweddol a hoffwn eich annog chi pan yn bosib i wneud defnydd o'r cwmniau hyn, sydd yn buddsoddi cymaint yn rygbi ar y Lleyn.
Os oes gennych sylwadau neu syniadau gweddol gall a chyfreithlon byddwn yn fwy na pharod i'w hystyried a'u rhoi ar y safle hon.
|