Logo Clwb Rygbi Pwllheli

Ail Dim '05-'06 , '06-'07 a '07-'08

Dyma oedd yn mynd ymlaen yn yr ail dim mewn tymhorau blaenorol.

TYMOR 2007-2008.

Rhagfyr 17eg 2007
Mae'r ail dim yn sefyll yn y bedwerydd safle yn y Gynghrair efo pedair gem i fynd cyn i'r ply-offs gael eu penderfynu. Mae'r tim wedi cael hwyl dda ar bethau yn ddiweddar ac yn obeithiol iawn o orffen yn y pedwar uchaf ar gyfer y play-offs.

Mehefin 30ain 2007
Mae Mark Roberts ynghyd a nifer o gyn-chwaraewyr hyn y Clwb am ganolbwyntio ar ddatblygu'r Ail Dîm yn ystod y tymor yma fel tîm datblygu ar gyfer y Tîm Cyntaf.

Elfen bwysig o'r ffocws bendant yam fydd gwobrwyo gallu ag ymroddiad. Er mwyn sicrhau llwyddiant y llwybr hwn mae'n hanfodol derbyn ymroddiad gan bob unigolyn i fynychu ymarferion a thrwy hyn gynnal pwysau parhaol ar chwaraewyr y Tîm Cyntaf.

Mae Dilwyn Jones unwaith eto wedi cytuno i fod yn rheolwr. Mae croeso i chi gysylltu a Dilwyn yn uniongyrchol gydag unrhyw gwestiynnau, ond byddwch amyneddgar a peidiwch a defnyddio geiriau rhy fawr!!!!!!!!!


TYMOR 2006-2007.

Ebrill 22ain 2007 - GEMAU TERFYNOL CWPAN ERYRI.
Gyda thri tîm Pwllheli wedi cyrraedd y rowndiau terfynol ym Modegroes ddydd Sul diwethaf roedd gobeithion yn uchel a wnaeth yr hogia ddim siomi hefo dau allan o'r tri yn curo.

O dan 12, Pwllheli 19 Nant Conwy 0
Gall yr hyfforddwr John "Hotpoint" Ellis fod yn falch iawn yn dilyn y perfformiad yma. Mae'r Clwb yn gwerthfawrogi amser mae John a phob un arall yn rhoi i fewn i helpu'r plant ymlaen.

O dan 14, Pwllheli 10 Caernarfon 22
Collodd Pwllheli i dîm cryf iawn y Cofis ond dim heb gwffio'n galed. Mae'r gwelliant yn safon y chwarae drwy'r tymor yn amlwg a gall Simon Butterworth deimlo'n fodlon iawn ar ddiwedd tymor.

O dan 16, Pwllheli 23 Bae Colwyn 12
Sgoriodd Pwllheli dri chais - drwy Jack Roberts, Ben Taylor a'e canolwr Gwilym Jones, dau drosiad a chic adlam wych yn agos i ddiwedd y gêm. Mae yna sawl seren ymysg y tîm, gwobr deilwng iawn i'r hyfforddwr Mark Roberts, yn dilyn llawer blwyddyn o waith .

Ebrill 21ain 2007 - Ieuenctid Llangefni 5 Ieuenctid Pwllheli 16
Cafodd Pwllheli ganlyniad gwych yn erbyn Llangefni nos Wener wrth guro o 16-5.

Roedd gan Langefni hogia mawr cryf ond roedd trefn a strwythur solat yr hogia’n amlwg o'r dechrau. Roedd Pwllheli wedi paratoi'n drylwyr, ac yn dipyn mwy cyfforddus ar y bêl na'u gwrthwynebwyr gyda phawb yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau. Mae’r datblygiad amlwg sydd wedi cymryd lle yn ystod y tymor yn deyrnged i’r tîm rheoli sydd wedi gweithio’n ddiflino dros y blywddyn diwethaf.

Sgoriodd Huw hen gais yn yr ail hanner gyda gweddill y pwyntiau yn dod o esgid Gethin Bodlas, ac yn cynnwys dwy gic cosb o bellter.‘Mae gan y boi na gic fel mul.’ oedd sylw un gwyliwr.

Gêm gwerth ei gweld a noson ddifyr iawn. Mae pethau’n argoeli’n dda am y dyfodol.

 

Mawrth 31ain 2007 - Pwllheli 7 Nant Conwy 41

Cliciwch uchod i weld mwy o luniau.

Ionawr 13eg 2007
Ail dîm adref i Gaernarfon
Ieuenctid adref i Fachanlleth

Rhagfyr 9fed 2006
Ail dîm Pwllheli 12 Borth 26

Rhagfyr 2ail 2006
Gohiriwyd y gêm yn erbyn Bro Ffestiniog gan fod y cae yn anffit i chwarae.

Ieuenctid Pwllheli 38 Ieuenctid Y Drenewydd 6
Perfformiad da gan dîm ifanc Pwllheli. Mae'r hogia yn datblygu ac yn ymateb yn gadarnhaol i'r rhaglen hyfforddi sydd ar gael.

Bangor 3 Pwllheli 36
Sgoriodd y tîm chwe cais wrth drechu Bangor.

Tachwedd 4ydd 2006
Gohiriwyd y gêm ar gais Bala.

Hydref 28ain 2006
Gohiriwyd y gêm yn erbyn Prifysgol Bangor oherwydd cyflwr y cae.

Hydref 21ain 2006
Llandudno yn methu codi tîm yn erbyn yr ail dîm.

Ieuenctid Rhyl yn methu trafeilio - canslo'r gêm.

Hydref 14eg 2006
Benllech 5 Ail dîm Pwllheli 35
Roedd gan Pwllheli garfan gryf yn erbyn Benllech a chafwyd buddugoliaeth haeddiannol gyda Geraint Martin yn sgorio pedwar ar ddeg o'r pwyntiau efo cais, cic gosb a tri trosiad. Sgoriodd y flancyr newydd, Mark West gais hefyd.

Ieuenctid Pwllheli 45 Ieuenctid Llangefni 25
Mae datblygiad y tîm yn parhau a gyda carfan o 29 mae pethau'n dechrau cymryd siap gyda'r chwaraewyr yn gweithio ar y gwendidau. Er mwyn rhoi cyfle i'r garfan mae gêm yn erbyn Rhyl wedi'i threfnu ar gyfer nos Wener Hydref 20fed 2006.

Hydref 7fed 2006
Ieuenctid Pwllheli 22 Ieuenctid Wrecsam 22

Pan gyrhaeddodd Wrecsam dri chwaraewr yn fyr bu rhaid i Bwllheli chwarae gyda deuddeg, a dryswyd cynlluniau'r tîm oherwydd hyn. Aeth Pwllheli ar y blaen cyn i Wrecsam frwydro'n ôl i unioni'r sgôr.

Medi 30ain 2006
Clwb Rygbi Porthmadog 6 Ail dîm Pwllheli 55

Llwyddodd yr ail dîm i gael eu tymor yn ôl ar y tracs gyda buddugoliaeth gyfforddus.

Ieuenctid Pwllheli 24 Cobra 15
Buddugoliaeth galed ond haeddiannol i gadw hyder y têm yn uchel. Llwyddodd y tîm i greu digon o gyfleuon ond methwyd a chymryd mantais o hyn ddwy neu dair gwaith.

Medi 16eg 2006
Methodd  Harlech ag anfon tîm i chwarae'r ail dîm.

Dechreuodd tymor yr Ieuenctid i ffwrdd gyda colled i ffwrdd i Fachynlleth o 16-7.

Mae'r tîm hyfforddi yn ffyddiog y gwnaiff y tîm ddysgu o'r profiad yma.

Medi 9fed 2006
Ail dîm Pwllheli 52 Ail dîm Dolgellau 7

Buddugoliaeth ysgubol i'r tîm gyda cymysgedd o'r hen a'r ifanc yn cyd-chwarae'n effeithiol. Mae'r gwaith ffitrwydd yn ystod yr haf i'w weld wedi gweithio.


TYMOR 2005-2006.

Ebrill 29ain 2006
Buddugoliaeth wych i'r ail dîm o 45-20 ym Mhorthaethwy. Roedd chwarae Neil Harries yn enwedig yn sefyll allan gyda dau gais. Un chwaraewr sydd yn siwr o fod yn agos i garfan y tîm cyntaf y tymor nesaf.

Ebrill 23ain 2006
Tîm dan 17 oed yn gorffen y tymor wrth guro Telford yn rhwydd o 57-0.

Ebrill 1af 2006
Cafodd y tîm Ieuenctid eu curo'n rhwydd yn erbyn Llandudno. Roedd y tîm yn hollol ddi-brofiad yn erbyn tîm yn cynnwys pump o chwaraewyr o'r ail dîm. Mae'n rhaid canmol y tîm am eu dycnwch ac un peth sy'n sicr yw, fod y rhod yn troi.

Methodd ail dîm Llandudno a chodi tîm felly gohiriwyd y gêm.

Mawrth 25ain 2006
Colled i'r Ieuenctid i ffwrdd yn erbyn Nant Conwy. Gwnaeth yr hogia'n dda o gysidro eu hoed a'r diffyg profiad.

Ionawr 25ain 2006
Ieuenctid Dinbych 13 Ieuenctid Pwllheli 25
Pum cais yn erbyn un oedd canlyniad y gêm hon. Perfformiad disgybledig gan y tîm.

Gwych hogia.

Ionawr 14eg 2006
Mae'r ffuddugoliaeth yma o 51-10 adref yn erbyn Bethesda yn rhoi'r ail dîm mewn sefyllfa gryf iawn ar gyfer y bencampwriaeth. Er i Festhesda frwydro'n galed yn yr hanner cyntaf daeth profiad Pwllheli drwodd yn y diwedd i ennill y gêm yn rhwydd.

Ionawr 7fed 2006
Yn dilyn y siomedigaeth o ohiriad munud diwethaf y gêm yn erbyn Nant Conwy ar Ragfyr 28ain pleser oedd gweld yr Ieuenctid yn chwarae eto. Perfformaid carpiog braidd yn erbyn Harlech a cholli yn y diwedd o 11-5.

Gohiriwyd gêm yr ail dîm pan ffoniodd Caergybi fore Sadwrn i ganslo.

Rhagfyr 3ydd 2005
Ennill i ffwrdd i Ddolgellau o 32-19 a sgorio pum cais. Dau gais gan Darren Matulla, un gan Gethin Dobson a dau gan yr hen ddyn Colin "Cheese" Jones.

Chwaraewyd y gêm ohiriedig yn erbyn Ieuenctid Bethesda a cholli o un cais mewn amgylchaidau trychinebus. Carfan ddi-brofiad sydd gan Pwllheli eleni ac fe wnant yn dda i efelychu safon y tymor diwethaf. Er y diffyg profiad mae'r talent yn amlwg a byddent yn sicr o wella fel yr â'r tymor yn ei flaen. Mae'r hyffoddwr a'r rheolwr, David Martin ag Edwin Jones yn hollol ymroddeig i'r tîm ac mae gwell i ddod yn siwr.

Tachwedd 12fed 2005
Tîm Ieuenctid Dinbych oedd yr ymwelwyr ac er i'r tîm golli mae pethau'n edrych yn addawol. Cafodd Dafydd Anwyl gêm i'w chofio ac roedd perfformiad yr ail hanner yn galonogol dros ben.

Gêm gartref yn erbyn Coleg Prifysgol Bangor oedd gan yr ail dîm. Roedd profiad a maint chwaraewyr megis Euros Hughes, Ian Studt ag Aled yn y rheng flaen, Cheese a Gareth Parry yn yr ail reng a Tom Meyerattken yn rhif wyth yn ddigon i ennill y dydd. Danghosodd Dylan Morris ei ddawn yn y canol wrth sgorio pedwar cais mewn perfformaid gwych.

Tachwedd 9fed 2005
Sgoriodd yr ail dîm saith cais mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Bro Ffestiniog. Bydd rhaid i'r tîm atgyfnerthu eu safle yn hanner uchaf y tabl os am gymhwyso eu hunain ar gyfer fformat newydd yn ail hanner y tymor.

Hydref 1af 2005
Ail dîm adref i Borth.                                                                                       

Fe fydd gan y dorf gryn ddiddordeb yn ymgeision Huw Morlais i gyfieithu ar ran Radim Pavlasek, mewnwr Czech yr ail dim. Mae'r ddau yn sgwrsio yn rhugl hefo'i gilydd a mawr obeithir y bydd gwaith caled Huw yn datrys y broblem ieithyddol sy'n bodoli.

Nodir pwysicrwydd chwaraewyr i gysylltu a'r hyffoddwyr os nad ydynt ar gael i chwarae mewn gemau penodol.

N.B.MAE'N AMLWG FOD CYFARTHREBU RHWNG RADIM A HUW WEDI LLWYDDO GAN FOD Y TIM WEDI CURO TIM CRYF O'R BORTH. RADIM YN SGORIO CAIS PWERUS A HUW YN DISGLEIRIO YN OL YR ARFER.