Logo Clwb Rygbi Pwllheli

Tim Ieuenctic '06-'07 a '07-'08

Ebrill 12fed 2008

Gyda buddugoliaeth wych ddoe yn erbyn Ieuenctid Bro Ffestiniog daeth teitl Adran 2 Gogledd Cymru i Bwllheli. Llongyfarchiadau calonog i bawb sydd wedi bod yn ymwneud a'r tim drwy'r tymor. Yn arbennig felly, rydym yn ddyledus i'r hyfforddwr, Mark Roberts ag Edwin Jones y rheolwr gweithgar.

 

*************************

 

Chwefror 1af 2008

 

Mae ymgyrch ar fin cychwyn rhwng Hybu Iechyd Cymru ag URC. Y bwriad

yw codi ymwybyddiaeth ymysg chwaraewyr rygbi ifanc o'r pwysigrwydd o

gadw'n ffit a bwyta'n iach.

Caiff Ieuenctid Pwllheli'r cyfle i gyfarfod Mile Phillips mewnwr rhyngwladol

Cymru pan fydd yn ymweld a Bodegroes bnawn Sul Mawrth 2ail 2008 am 1.30

 

********************

 

Rhagfyr 18fed 2007

Mae'r tîm Ieuenctid yn cael tymor da iawn ac ar hyn o bryd ar frig eu Cynghrair. Mae'r hogia'n ifanc iawn a bydd y profiad y maent yn ennill eleni yn siwr o ddwyn ffrwyth yn y dyfodol.

Mae rôl Edwin Jones fel rheolwr yn allweddol i rygbi Ieuenctid ym Mhwllheli ac mae'n haeddu pob cefnogaeth bosib.

 

*****************

 

Medi 6ed 2007

Mae'r Clwb wirioneddol angen cymorth rhieni ar gyfer gemau i ffwrdd o gartref. Rhywun i helpu efo kit, poteli dwr a'r tebyg. Dyna'r oll sydd ei angen. Os fedrwch chi fod ar gael petai dim ond am un gêm mewn tymor rhowch ganiad i Edwin Jones y Rheolwr Ieuenctid ar 0783 654 3438. Gwerthfawrogir unrhyw fath o help.

 

*****************

 

Gorffennaf 26ain 2007

 

Undeb Rygbi Cymru

Cynghrair Ieuenctid Gogledd Cymru

Adran GC2N

08/09/07    Bae Colwyn Ff
22/09/07    Llangefni Ff
29/09/07    Bethesda C
13/10/07    Abergele Ff
27/10/07    Fflint
10/11/07    Bro Ffestiniog C
17/11/07    Bangor Ff
08/12/07    Bae Colwyn C
22/12/07    Llangefni C
12/01/08    Bethesda Ff 
19/01/08    Abergele C
26/01/08    Fflint Ff
23/02/08    Bro Ffestiniog Ff
15/03/08    Bangor C

 

*******************

 

Mehefin 30ain 2007

Mae trefniadau ar gyfer y tymor o'n blaenau eisoes wedi cychwyn.

Rydym wedi cysylltu gyda'r Undeb i gadarnhau'r bwriad i gystadlu yn y Sgarlets, Adran 2 Gogledd.

Rydym yn ffodus fod Edwin Jones wedi cytuno i fod yn rheolwr unwaith eto a gyda dyrchafiad David Martin i'r Tîm Cyntaf mae Mark Roberts yn fodlon cynorthwyo Edwin gyda'r hyfforddi.

Bydd Edwin yn paratoi cofrestriadau gyda'r Undeb yn yr wythnosau nesaf. Cysylltwch ag ef os oes arnoch angen unrhyw wybodaeth.

Y bwriad ar hyn o bryd yw canolbwyntio ymarferion ar noswiethiau Iau o ddechrau mis Medi ymlaen. Mae croeso fodd bynnag i chi fynychu sesiwn ymarfer cyffredinol yn y Clwb bnawn Sadwrn Mehefin 30ain ac hefyd bob nos Fawrth a Iau yn dilyn hyn.

 

**************

 


 

TYMOR 2006-2007

** Am ganlyniadau cyn mis Rhagfyr 2006 edrycher ar dudalen yr Ail dîm. **

 

Mae dymuniadau gorau pawb yn mynd i Euron Jones, capten y tîm yn dilyn ei anaf diweddar yn y Clwb.

Mae'r garfan yn cryfhau a chriw da yn mynychu'r sessiynnau ymarfer. Clod i bawb am yr ymdrech ddangosir.

 

RHAGFYR 16, 2006.

Mae Bro Ffestiniog wedi tynnu allan o'r Gynghrair felly ni chwaraeir y yma. Rydym yn ymdrechu i drefnu gêm arall yn y cyfamser.

 

RHAGFYR  9, 2006.

Bae Colwyn 27 Pwllheli 32

Ennill eto oedd hanes y tîm ieuenctid. Mae'r fuddugoliaeth yma'n symud yr hogia i fyny i'r drydedd safle yn y gynghrair hefo gemau mewn llaw dros y timau uwch ein pen.

 

Mae dyddiad y gêm yn erbyn Bala wedi'i hail threfnu ar gyfer pnawn Sadwrn Rhagfyr 23ain ym Modegroes.

TACHWEDD 19, 2006

o dan 16     Nant Conwy 12 Pwllheli 17

o dan 13     Nant Conwy 5 Pwllheli 15

o dan 12     Pwllheli 24(4 cais) Bro Ffestiniog 12(2cais)

o dan 10     Pwllheli 7 cais Bro Ffestiniog 0 cais

o dan   8    Pwllheli 11cais  Bro Ffestiniog 2 cais

 

TACHWEDD 5, 2006

o dan 16     Llangefni 10 Pwllheli 44

o dan 14     Llangefni 30 Pwllheli 19

o dan 12     dim gêm

o dan 11     Pwllheli 1 cais Llandudno 6 cais

o dan 10     Pwllheli 1 cais  Llandudno 4 cais

o dan   9    Pwllheli o cais Llandudno 2 cais

                Pwllheli 1 cais Llandudno 2 cais

o dan 8      Pwllheli 6 cais Llandudno 3 cais