Logo Clwb Rygbi Pwllheli

Newyddion

AdrefNewyddionTim CyntafGemau NesafCanlyniadauAil Dim a IeuenctidTim IeuenctidHanesY Tim HociGwasanaethauTocynnau a TheithiauNoddwyrCysylltu

 

TYMOR 2006-07

 

Mehefin 15fed 2007

 

Mwy o luniau o'r daith i wlad Pwyl a'r Weriniaeth Czech.

 

**********************************

 

Mehefin 10fed 2007

 

Sesiwn ymarfer yn y Clwb

Pnawn Sadwrn Mehefin 9fed.

Cliciwch ar y llun.

**************************

Mehefin 6ed 2007

CINIO BLYNYDDOL A NOSON WOBRWYO.

Nos Wener

Awst 3ydd 2007 am 7.30pm

yn y Clwb.

Cinio 3 cwrs - £15.00

(i gynnwys cyfraniad tuag at Apêl Bryan Davies

Clwb Rygbi'r Bala)

Gŵr Gwadd

Dilwyn Morgan

Y Bala

 

Cyn chwaraewr rygbi i'r Bala,

digrifwr a chyflwynydd Noson Lawen.

Cysylltwch â Wil Martin neu Geraint Parry am fanylion pellach.

 

*******

 

Mai 24ain 2007

Mae lluniau o gemau'r daith i Wlad Pwyl a'r Weriniaeth Czech ynghyd

ar hanes wedi symud i'r adran Tocynnau a Teithiau.

*****

 

Mai 23ain 2007

Mae pawb o gwmpas Pwllheli a'r ardal yn siwr o fod wedi clywed am y drychineb ddaeth i ran Bryan Davies o Glwb Rygbi'r Bala yn ddiweddar. Efallai nad yw'r rhai ohonoch sy'n byw i ffwrdd yn gwybod y cafodd Bryan anaf difrifol yn ei gêm olaf i'r Clwb, anaf sydd yn ôl pob tebyg wedi'i barlysu o'i wddf i lawr.

Mae ffrindiau Bryan yng Nghlwb Rygbi'r Bala wedi agor apel i gynorthwyo Bryan a'r teulu. Cliciwch ar y llun i symyd i'r safle wê lle y gallwch gyfrannu. Hefyd mae Dilwyn Morgan cyn gyd-chwaraewr gyda Bryan wrthi'n trefnu i reidio beic o Land's End i John O'Groats i godi arian at yr achos.

Mae pawb o Glwb Rygbi Pwllheli yn meddwl amdanat ti Bryan, Sue a'r plant.

 

*******

 

Mai 2ail 2007

 

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

Mai 1af 2007

Gwelwyd presenoldeb gref iawn yn y Clwb nos Fawrth 1af Mai 2007 ar gyfer y Cyfarfod Blynyddol. Beth oedd yn galonogol oedd y nifer uchel o chwaraewyr wnaeth yr ymdrech i fod yn bresennol i gyfrannu i'r trafodaethau.

Yn naturiol ddigon mae yna ymdeimlad o siomedigaeth o fewn y Clwb yn dilyn hynt y Tîm Cyntaf yn disgyn o Adran IV o Gynghrair Rygbi Gogledd Cymru, yn arbennig felly yn dilyn perfformiad grymus bnawn Sadwrn yn Rhuthun pan wnaed digon i ennill y gêm. Yn ei anerchiad roedd Wil Martin yn llawn canmoliaeth o’r ymroddiad ddangosodd y chwaraewyr, hyfforddwyr a’r pwyllgor drwy gydol y tymor ac yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth mwy na 80 o gefnogwyr ddaeth i wylio’r gêm yn Rhuthun.

 

Ymhell o fod yn ddigalon mae’n ymddangos fod y chwaraewyr a phawb arall sy’n ymwneud a’r Clwb yn barod am yr her ac yn edrych ymlaen yn barod am y tymor nesaf.

 

Yn ystod rhan ffurfiol o’r cyfarfod ail etholwyd yr oll o’r Swyddogion yn ddi-wrthwynebiad.

 

Mae’r Pwyllgor Rygbi wedi argymell y dylai’r hyfforddwr/wyr a’r capteiniaid gael eu penodi oddi fewn y Clwb ar gyfer y tymor nesaf. Yn sgil hyn Hyfforddwr y Clwb fyddai a chyfrifoldeb llwyr am ddewis y tîm. Cafodd y cynigion hyn eu cymeradwyo gan y cyfarfod. Bydd manylion yr apwyntiadau ar gael cyn dechrau mis Mehefin. Mae’r Clwb wedi penderfynu hefyd i beidio mynd allan yn bwrpasol i chwilio am chwaraewyr tramor.

 

Bydd yna ymdrech ymwybodol i gydlynu hyfforddi drwy wahanol dimau o’r Ieuenctid reit drwodd i’r tîm cyntaf gan sefydlu sustem o dracio chwaraewyr fel nad oes neb yn disgyn drwy’r rhwyd a thrwy hynny hwyluso pethau i’r hyfforddwr newydd.

 

Er gwaethaf y trawma hitiodd y Tîm Cyntaf, mae yna le i ymfalchïo ym mherfformiadau’r timau eraill o fewn y Clwb. Gorffennodd yr Ail Dîm yn y drydydd safle yng Nghynghrair Gwynedd a gwelwyd datblygiadau clir a phendant o fewn yr Ieuenctid.

 

Uchafbwynt y tymor heb os oedd perfformiadau’r timau Iau wrth i’r tri thîm gyrraedd rownd derfynol Cwpan Eryri. Ennillodd y tîm o dan 12 a 16 eu gemau hwy yn erbyn Nant Conwy a Bae Colwyn gyda’r hogia o dan 14 oed yn colli i dîm cryf o Gaernarfon.

 

Cadarnhaodd Wil Martin ar ddiwedd y cyfarfod fod Pavel Indrak a Radim Fajkus yn dychwelyd adref i’r Weriniaeth Czech yn fuan. Roedd yn fwy na pharod i gydnabod cyfraniad aruthrol y ddau ac roedd cymeradwyaeth y cyfarfod yn ategiad haeddiannol o hyn. Mae dymuniadau gorau’r Clwb yn mynd i’r ddau tuag at y dyfodol.

*****

Mai 1af 2007

Ar ôl methu’r gêm yn erbyn Rwsia bythefnos yn ôl mae Pavel Indrak wedi’i gynnwys yng ngharfan y Weriniaeth Czech i chwarae Sbaen gartref y Sadwrn nesaf. Dyma fydd y drydedd waith i’r ddwy wlad gyfarfod o fewn y flwyddyn ddiwetha’.

Chwaraewyd y ddwy gêm gyntaf ym mis Medi'r llynedd - gemau rhagbrofol ar gyfer Cwpan y Byd eleni. Er i’r Weriniaeth golli dwywaith aent i mewn i’r gêm hon gyda siawns realistic o ennill.

Gorwedd Sbaen ddau safle uwchben y Czechs yn y Grwp ar ôl curo un o’u pedair gêm gyda’r Weriniaeth yn cynnwys pedwar chwaraewyr sy’n chwarae eu rygbi yn Ffrainc yn y garfan.

   

*****

Ebrill 28ain 2007

Rhuthun 29 Pwllheli 24

Er gwaethaf ymdrech arwrol y tîm collwyd gêm olaf y tymor a hynny o dan amgylchiadau siomedig dros ben. Ar ôl bod ar y blaen o 10 pwynt ddwywaith yn ystod y gêm roedd tynged y tîm am y tymor nesaf i'w weld yn saff.

Newidiodd pethau pan anfonwyd dau o'n chwaraewyr i'r cell cosb ac am gyfnod o bum munud bu'n rhaid chwarae gyda tri chwaraewr ar ddeg. Gyda hyn yn digwydd ymhell i fewn i chwarter olaf y gêm ni chafodd y tîm amser i ddod yn ôl. Roedd gweithred rhai o'r gwrthwynebwyr yn yr achos cyntaf yn drist i'w weld ac yn debyg iawn i'r antics arferid ei weld ar y maes peldroed.

Fel mater o ddiddordeb pery'r hanner cyntaf lawn 54 munud a'r ail wedyn 49 munud - cyfanswm o 103 munud, mwy nag ugain munud yn hwy nag arfer.

Hoffai'r Clwb gymryd y cyfle hwn i ddiolch i'r chwaraewyr, hyfforddwyr a'r llu o gefnogwyr am yr ymdrech a'r gefnogaeth.

Mae'n dymuniadau gorau yn naturiol yn mynd i Dai Davies a Chlwb Y Drenewydd am ddal gafael ar eu statws yn Adran IV o'r Gynghrair.

*****

Ebrill 24ain 2007

Rhuthun yn erbyn Pwllheli pnawn Sadwrn nesaf - gêm bwysicaf y Clwb ers blynyddoedd ac mae pawb yn barod amdani. Mae bysiau wedi'u trefnu ac yn cychwyn o'r Clwb am 11.30am. Ffoniwch 01758 613676 i neilltuo lle. Tydi trafnidiaeth ddim yn broblem - dowch yn llu i gefnogi'r hogia.

*****

Ebrill 18fed 2007

Ar ôl pendroni'n hir ar y mater mae'r Clwb wedi penderfyny peidio chwarae'r gêm Gwpan Gogledd Cymru adref yn erbyn Yr Wyddgrug y Sadwrn nesaf, Ebrill 21ain. Gwnaed y penderfyniad oherwydd prinder chwaraewyr rheng flaen ac i osgoi unrhyw siawns o ymestyn at y rhestr hirfaith o anafiadau cyn gêm bwysica'r Clwb ers blynyddoedd - i ffwrdd yn erbyn Rhuthun ar Ebrill 28ain.

Yn ogystal a'r chwaraewyr sydd allan eisoes anafodd Geraint Parry ei ffêr yn y fuddugoliaeth yn Y Bala y Sadwrn diwethaf, mae Pavel Indrak i ffwrdd gyda'r Weriniaeth Czech ac roedd Mike Adams a David 'Wilo' Williams yn methu chwarae . Doedd Tryfan Edwards na Rhodri Scott ar gael ychwaith am weddill y tymor.

*****

 

Ebrill 13eg 2007

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

Nos Fawrth 1af Mai 2007 am 7.15pm

Mae Cyfarfod Blynyddol y Clwb wedi'i alw Nos Fawrth 1af o Fai 2007 am 7.15pm ym Modegroes.

Bydd y cyfarfod yn agored i aelodau i gyd ac fe annogir pawb i fod yn bresennol.

Yn ogystal a phenodi swyddogion ac anlinellu cynlluniau ar gyfer tymor 2007/2008 bydd y Cyfarfod yn cynnwys fforwm i drafod y tymor yma a hynt y Tîm Cyntaf yn enwedig.

Fe fydd yna gyfle i chwi leisio barn ar y modd y mae'r Clwb yn cael ei redeg a sut y gallwn wella pethau tuag at y dyfodol. Awgrymiadau, cynnigion neu feirniadaeth; bydd y rhain i gyd ar y bwrdd i'w trafod yn ystod y noson.

 

******************

 

Ebrill 11fed 2007

Anafodd Marc West ei benglin yn ddrwg yn ystod y gêm bnawn Sadwrn diwetha ac mae wedi dychwelyd i'r Unol Daleithiau am driniaeth. Yn anffodus ni fydd yn ffit i chwarae eto'r tymor yma. Datblygodd Marc yr wych yn ystod ei amser hefo'r Clwb ac roedd yn berson poblogaidd iawn ac yn cymysgu'n dda hefo pawb. Dymunwn pob lwc iddo yn y dyfodol. Marc ydi'r nawfed chwaraewr mae'r Clwb wedi'i golli i anaf yn ystod y tymor.

*****

Cynhelir cyfarfod agored yn fuan ar ôl gêm Rhuthun. Cyfle i bawb gael deud eu deud cyn paratoi ar gyfer y tymor nesaf. Edrychwn ymlaen at bresenoldeb pawb sy'n gysylltiedig a'r Clwb. Cewch siawns i leisio barn, i gynnig sylwadau ac i ddamnio neu beth bynnag.

Manylion llawn i ddilyn cyn bo hir.

 

******************

 

Ebrill 8fed 2007

 

Colli yn drwm wnaeth y Weriniaeth Czech ddoe yn erbyn Georgia yn Tiblisi. Mae'r tîm yn mynd trwy broses o ail adeiladu ar y funud. Aethpwyd i fewn i'r gêm hon gyda tîm di-brofiad. Roedd 15 o'r sgwad gyda llai na deng cap i'w Gwlad gyda tri o'r rhain yn chwarae eu gêm gyntaf. Dim ond tri o chwaraewyr y Weriniaeth sydd yn chwarae tu allan i'w gwlad eu hunain tra bod 19 allan o 22 yng ngharfan Georgia yn chwarae yn Ffrainc.

Symudodd Georgia i ben y Grwp gyda'r fuddugoliaeth hon tra erys y Weriniaeth ar y gwaelod, yr unig dîm hyd yma sydd heb guro gêm.

Mae eu gêm nesaf i ffwrdd yn erbyn Rwsia ar yr 21ain o Ebrill.

 

**********

 

Ebrill 5ed 2007

Tair gêm i fynd a thri pwynt tu ôl i Ddinbych. Mae gan Dinbych bedair gêm ar ôl, tair gartref, ac un o'r rhain yn erbyn Wrecsam yr wythnos nesaf. Tydi pethau ddim yn edrych yn dda ond un peth sy'n sicr yw y bydd Pwllheli'n brwydro hyd y diwedd i geisio dod allan o'r twll yma. Mae'n edrych yn debyg y bydd rhaid ennill dwy gêm i gael unrhyw siawns o aros yn Adran IV o'r Gynghrair.

Mae'r Drenewydd ymhell o fod yn saff hefyd. Er eu bod bum pwynt o'n blaenau dim ond dwy gêm sydd ganddynt ar ôl, gartref yn erbyn Yr Wyddgrug yr wythnos yma ac wedyn yn Nant Conwy y Sadwrn nesaf. Onibai i rhywbeth annisgwyl ddigwydd gallent yn hawdd orffen y tymor ar 18 pwynt.

Mae'r gêm yn erbyn Bae Colwyn bnawn Sadwrn yn un anferth felly. Ar ôl dim ond colli o 6-3 yn eu herbyn yn gynharach yn y tymor ac yn dilyn y fuddugoliaeth yn erbyn Rhuthun yr wythnos diwetha, mae'r hogia'n ffyddiog y gallwn guro'r gêm.

Mae Pavel Indrak wedi'i ddewis i chwarae i'r Weriniaeth Czech ac mae Elgan Rowlands wedi'i anafu, felly daw Tryfan Edwards a James Collins i'r garfan i gymryd eu lle.

Dowch i gefnogi'r tîm.

**********

 

Ebrill 2ail 2007

Ddydd Gwener nesaf 6ed Ebrill bydd Dr Dewi Wyn Roberts yn cael ei urddo fel Uchel Siryf Gwynedd. Cynhelir y seremoni datganiad yn hen Ysgol David Hughes, Biwmaris.

Mae Swydd yr Uchel Siryf o leiaf 1,000 mlwydd oed gyda'i wreiddiau'n ôl yn oes Sacson cyn y Goresgyniad Normanaidd. Dyma'r Swydd barhaol secular hynaf o dan y Goron. Erbyn hyn mae'r pwerau gwreiddiol wedi'u trosglwyddo i'r Arglwydd Raglaw, yr Uchel Lys, Ynadon Heddwch, Llywodraeth Leol, Crwneriad a Chyllid y Wlad.

Mae Dr Roberts yn bwriadu dod a phersbectif modern i'r Swydd yn ystod ei flwyddyn wrth y llyw gan chwalu'r myth sy'n bodoli ymysg rhai ei bod yn sefydliad pell wrth ymwneud a phob elfen o'r gymuned.

Mae gan bob Uchel Siryf elusen i'w chefnogi yn ystod eu blwyddyn yn y Swydd. Bydd rhan helaeth o'r arian a godir yn ystod term Dr Dewi yn mynd i Crimebeat, elusen sy'n ceisio troi pobol ifanc i ffwrdd oddiwrth trosedd.

Dr Roberts yw Cadeirydd a Swyddog Meddygol Anrhydeddus Clwb Chwaraeon Pwllheli. Bu'n bencampwr a daliwr record sprint Ysgolion Cymru pencampwr ieuenctid AAA Cymru yn ogystal â glas yng Ngaergrawnt, gan ennill y ras 100 llath yn y Varsity Match yn 1961. Bu'n rheolwr tîm athletau Rhydychen a Chaergrawnt rhwng 1961 a 2005.

Mae hefyd yn Gadeirydd yr Achilles Club, ffurfiwyd yn 1920, gan ac er budd aelodau, cyn a phresennol Clybiau Athletic Rhydychen a Chaergrawnt. Gellir olrhain y gwreiddiau'n ôl i gychwyn chwaraeon rhwng y ddau yn 1864. Dim ond aelodau sydd wedi cymryd rhan yn y Varsity Match sy'n cael gwahoddiad i ymaelodi.

Yn naturiol mae hyn yn anrhydedd bersonol enfawr ac mae'r Clwb yn ymhyfrydu yn y ffaith ac yn ffodus o allu cyfri Dr Dewi yn un ohonom ni.

**********

 

Mawrth 19eg 2007

Mae podcast swyddogol Undeb Rygbi Cymru newydd ei chreu - wedi'i noddi gan gyflenwyr kit URC Rbk. Dyma i chi fenter sydd wedi'i anelu at wasanaethu pawb yn rygbi Cymru.

Y bwriad yw ymdrin a phob lefel o'r gêm o'r llwyfan rhyngwladol i'r sylfeini ar lefel lleol. Gobeithio y bydd y gwasanaeth yma o ddiddordeb i chi. Yr wythnos hon gallwch wrando ar Gareth Thomas, Stephen Jones, Gareth Jenkins, Phil Davies, dyfarnwr Nigel Whitehouse, Liza Burgess. Mae yna son hefyd am y gêm chwaraewyd y penwythnos diwethaf yng Nghastell Nedd fel teyrnged i'r diweddar Brian Williams.

Cliciwch ar y llun i gysylltu.

 

***************************

 

Mawrth 17eg 2007

Mae’n deg dweud nad ydi canlyniadau wedi mynd o blaid Pwllheli ers troad y flwyddyn ac o'r herwydd mae’r tîm mewn sefyllfa fregus iawn yn agos i waelod Adran IV o’r Gynghrair. Mae’r hogia wedi methu ail adrodd safon y chwarae a ddangoswyd ar ddechrau’r tymor gyda buddugoliaethau nodedig yn erbyn Barbariaid Gogledd Cymru ddiwedd Awst, Talywain a Rhydyfelin yn y Gwpan a Wrecsam yn y Gynghrair. Nid yw’n gyd ddigwyddiad fod y nifer uchel o anafiadau difrifol yn ystod y cyfnod diweddar yma sydd wedi amddifadu’r tîm o chwaraewyr dawnus a phrofiadol wedi cyfrannu at hyn. Serch hynny mae’r hogia sydd wedi dod i mewn yn eu lle wedi brwydro’n galed a rhan fwyaf o’r gemau hynny’n rhai agos dros ben.

Mae Wil Martin yn llawn canmoliaeth o’r ymdrech a ddangoswyd.

“Mae’r canlyniadau wedi bod yn siomedig yn ddiweddar ond gallai amryw o’r gemau hynny fod wedi gorffen yn wahanol. Colli o bedwar pwynt yn Nant Conwy, o dri ym Mae Colwyn a dod o fewn pwynt gartref i Nant cyn ildio cais hwyr.”

Ond edrych ymlaen at y gêm nesaf sydd raid rwan, yn erbyn Dinbych y Sadwrn nesaf. Un o gemau pwysica’r tymor mae’n siwr gyda Dinbych dim ond un safle o dan Bwllheli yn y tabl. Mae’r tîm wedi cael pythefnos i baratoi am y gêm ac yn barod am y frwydr.

“Mae’r hogia’n ymdopi’n dda gyda’r pwysau a gydag arweiniad clir a chynllun pendant gallwn guro bnawn Sadwrn.”

Mae yna deimlad o fewn y Clwb fod gem fawr i ddod gan yr hogia yn fuan. Gobeithio mai pnawn Sadwrn y digwydd hynny.

Dewch i gefnogi'r tîm i ffwrdd yn Nimbych ar 24ain o Fawrth.

Gêm bwysig iawn - gora bo fwyaf o gefnogwyr ddaw i wylio.

Mae bws wedi'i drefnu - ffoniwch y Clwb ar fanylion.

 

************************

Llongyfarchiadau i Pavel Indrak ar gael ei ddewis i chwarae i'r Weriniaeth Czech heddiw yn erbyn Rwmania mewn cystadleuaeth yn cael ei rhedeg gan FIRA. Federation Internationale de Rugby Amateur yw cymdeithas ryngwladol sefydlwyd gan 10 undeb rygbi yn ôl yn 1934 ac sydd a'u haelodau'n cynnwys undebau cenedlaethol rygbi'r gwahanol wledydd drwy Ewrop. Hon oedd gêm agoriadol y Weriniaeth yn Adran 1 o'r gystadleuaeth gychwynnodd ym Mis Medi 2006 ac a bery hyd at Fehefin 2008. Mewn grwp o chwech sydd hefyd yn cynnwys Georgia, Sbaen, Rwsia a Phortiwgal bydd y timau i gyd yn chwarae eu gilydd ddwywaith. Yn anffodus colli'r gêm wnaeth tîm Pavel, a hynny o 46-13. Da oedd gweld Clwb Rygbi Pwllheli yn cael sylw, fel y gwelir ar y rhestr chwaraewyr nodir isod.

 

15 Snídal Martin (Vyškov) – 14 Kodera Roman (Rícany), 13 Vokrouhlík Pavel (Sparta), 12 Tomcík Jaroslav (Havírov), 11 Okleštek Petr(Sparta) – 10 Brabec Antonín(Tatra) , 9 Syrový Pavel (Praga)
8 Leroch Patrik (Havírov) , 7. Hudák Martin (Vyškov), 6 Madry Vlastimil (Praga) – 5 Nemecek Miroslav(Rícany),4 Voves Robert-USA Limoges FRA – 3 Indrák Pavel-Pwllhelli WAL, 2 Oswald Jan-Tatra , 1 Skall Jirí-Sparta

Chwaraeir gêm nesa'r Werinaieth i ffwrdd yn Georgia ar y 7fed o Ebrill 2007.

 

**********************

Chwefror 21ain 2007

Bydd y Clwb ar agor bnawn Sadwrn 24ain ac yn dangos gemau Lloegr a

Chymru ar y sgrin fawr. Croeso cynnes i bawb.

 

**********************

Chwefror 9fed 2007

Beth am gefnogi'r Clwb â'r tîm Cenedlaethol ar yr un pryd.

Dowch i wylio'r gêm yn erbyn Yr Alban ar y sgrin fawr bnawn Sadwrn.

Croeso cynnes i bawb.

**********************

Mae sefyllfa anafiadau difrifol yn parhau. David 'Wilo' Williams yw'r diweddaraf. Mae Wilo wedi bod yn yr Ysbyty yn dilyn y gêm yn erbyn Y Drenewydd yn dilyn anaf i'w aren. Er fod pethau'n argoeli'n iawn am wellhad llwyr ni welwn ef yn chwarae eto y tymor hwn. Mae ein dymuniadau gorau yn mynd iddo ef a'r teulu ar yr adeg mor bryderus.

Ychydig iawn o newydd da sydd i'w gael ynglyn a'r chwaraewyr eraill sydd ar goll yn ogystal.

Nid yw Terry Adams yn debygol o chwarae o gwbl cyn y tymor nesaf. Felly hefyd Richard Hughes. Mae Mike Adams wedi derbyn llaw driniaeth ar dendon yn ei law ac yn gobeithio bod yn ôl o fewn rhyw fis. Amserlen tebyg sydd gan Aled Griffiths y prop ifanc a ddatgymalodd ei ben glir beth amser yn ôl.

Mae Tryfan Edwards yn gobeithio bod ar gael yn achlysurol o hyn hyd ddiwedd y tymor ar ôl cael swydd newydd yn Lloegr.

 

Mae'r prop Kevin Morris yn gobeithio bod yn ei ôl o fewn y mis.

 

****************************

 

Ionawr 30ain 2007

Ticedi ar gyfer gêm Yr Iwerddon wedi gwerthu i gyd.

 

****************************

 

Ionawr 22ain 2007

Cyn y gêm bnawn Sadwrn ymunodd chwaraewyr, swyddogion a chefnogwyr mewn munud o dawelwch er cof am Mr Frank Oliver, tad Lee a fu farw yn gynharach yn yr wythnos. Mae'r Clwb wedi colli cefnogwr brwd a ffyddlon. Gwnaed casgliad yn ystod y gwasanaeth angladdol tuag at y Clwb Rygbi.

Rwy'n sicr y buasech yn hoffi ymuno gyda mi yn anfon ein cydymdeimlad dwysaf â Mrs Oliver, Lee a gweddill y teulu yn eu profedigaeth.

Wil Martin Cadeirydd.

***************************

 

Ionawr 17eg 2007

Caernarfon yw’r gwrthwynebwyr y Sadwrn nesaf yr 20fed o Ionawr ar Barc Bodegroes, gêm fydd yn cwblhau hanner cynta’r tymor i Bwllheli. Mae pawb yn gobeithio y bydd y tywydd wedi setlo a’r gwynt wedi gostegu erbyn hynny.

 

Tydi’r Cofis ddim wedi gwneud y dwbwl dros Bwllheli ers dros ddegawd a go brin y bydd rhaid seicio’r tîm i fyny ar gyfer y gêm hon. Er bod anafiadau yn dal i beri pryder mae gan y pwyllgor a’r hyfforddwyr hyder llawn yng ngallu’r chwaraewyr ifanc ac mae ysbryd y tîm yn dal yn uchel er gwaethaf canlyniadau anffafriol dros yr wythnosau diwethaf. Lle gwell i ddechrau curo eto nag yn erbyn y Cofis? Gall buddugoliaeth bnawn Sadwrn symud y tîm oddiar waelod y tabl. Hei lwc hogia.

 

***************************

Ionawr 7fed 2007

Mae Wyn Isaac prif hyfforddwr y Clwb yn anffodus wedi penderfynu nad yw mewn sefyllfa i barhau yn ei swydd. Nid yw'n teimlo y gall roi'r amser yr hoffai ac sy'n angenrheidiol i wneud cyfiawnder a'r gwaith. Fe fydd y dyletswyddau'n trosglwyddo i Arthur Williams, cyn brop Pwllheli, a hynny'n syth.

Fe fydd Wyn yn parhau a chysylltiad gyda'r Clwb ac yn cynnal sessiynnau hyfforddi unigol nawr ag yn y man.

Nodwyd gwerthfawrogiad y Clwb am gyfraniad Wyn dros y misoedd diwethaf gan y cadeirydd, Wil Martin dros y penwythnos.

Ergyd arall oedd clywed fod y capten Tryfan Edwards hefyd yn ymddiswyddo. Mae wedi methu sicrhau gwaith yn yr ardal yn dilyn cwrs MA yn y Brifysgol ac newydd dderbyn swydd marchnata yn Llundain. Y gobaith yw y bydd Tryfan ar gael am rai o'r gemau pwysig sydd ar y gorwel agos. Mae dymuniadau gorau'r Clwb wrth gwrs yn mynd i Tryfan yn ei swydd newydd.

Mae yna ddywediad fod lwc ddrwg yn dod heibio fesul tri ac i brofi hyn cafwyd neges yr wythnos hon y bydd yr is-gapten, Richard Hughes allan am rai misoedd gyda toriad cywasgu i'r fertebra (compressed fracture) Dymuniadau da i Tin Tin am wellhad buan a llwyr.

Dyma'r pumed toriad i chwaraewr o'r tîm cyntaf eleni.

Ar yr ochr bositif mae Lee Oliver wedi cytuno i gydio yn yr awennau am weddill y tymor. Lee oedd capten y Clwb am y dair blynedd diwethaf a bydd ei brofiad yn allweddol i arwain y tîm oddiwrth waelodion y tabl dros yr wythnosau nesaf.

Mae taith annodd i Landudno o flaen y tîm y Sadwrn nesaf. Er y canlyniadau cymysglyd yn y Gynghrair dros y misoedd diwethaf mae gan y tîm hyfforddi hyder yng ngallu'r hogia ifanc a ffydd y gallwn ddod yn ôl 'bnawn Sadwrn nesaf gyda chanlyniad positif.

Beth am ddod i gefnogi'r hogia.

 

***************************

Yn dilyn digwyddiad diweddar yn y Clwb mae'r hyfforddwyr a'r swyddogion wedi'u gwybyddu y bydd rhaid galw am wasanaeth Ambiwlans ar bob achlysur pryd y trawir chwaraewr yn anymwybodol - hyd yn oed petai hynny dim ond am gyfnod bur.

Mae'r goblygiadau Iechyd a Diogelwch o'r defnydd cynnyddol sy'n cael ei wneud o'r Maes Parcio yn destun gofid. Mae hyn yn wir, yn enwedig ar nosweithiau Mawrth gyda chymaint o blant yn ymarfer. Taer erfynir arnoch i fod yn ofnadwy o ofalus wrth fynd a dod o'r Clwb.

Mae paratoadau eisoes ar y gweill i osod goleuadau newydd i wella'r sefyllfa. Mae'r Clwb wedi gwneud cais am grant i ail strwythuro'r maes parcio yn barod. Galluogir hyn i ni baratoi llwybrau cerdded a bollards a'i gwneud yn saff i'r holl ddefnyddwyr. Yn anffodus mae pethau'n araf iawn yn symyd er fod yr angen wedi'i ddangos ac yn hollol amlwg.

Mae Pwyllgor y Clwb Chwaraeon yn bwriadu ail edrych ar y sefyllfa yn eu cyfarfod ym mis Tachwedd. Un posibilrwydd yw y bydd rhaid rhannu ymarfer i'r ifanc rhwng nos Fawrth a nos Iau hyd nes y bydd y gwelliannau angenrheidiol wedi cael eu cwblhau.

                                      

*****************************

Mae hunllef y tîm cyntaf yn parhau gydag anafiadau difrifol. Mike Adams yw'r diweddaraf, wedi iddo ganfod ei fod wedi torri ei fraich yn y gêm yn erbyn Rhydyfelin. Mae pawb yn gobeithio y bydd yn ôl ar gyfer y gêm Gwpan yn erbyn Aberafon. Ymuna Mike ei frawd Terry a Pavel Indrak y tri wedi'u anafu ar yr un pryd.

*************************

Taith i Abercynon sy'n wynebu'r tîm cyntaf yn rownd nesaf Cwpan Konica Minolta. Mae'r gêm wedi'i threfnu ar gyfar pnawn Sadwrn Rhagfyr 16eg 2006. Bydd bws yn gadael Pwllheli am wyth o'r gloch, bore Sadwrn. Cysylltwch â'r Clwb neu 0791 999 0869 ar gyfer trefniadau teithio a manylion Gwesty.

**************************

Mae Clwb newydd dderbyn cadarnhad for y prop o'r Weiniaeth Czech, Pavel Indrak wedi torri asgwrn yn ei arddwrn yn y gêm yn erbyn y Drenewydd ar Hydref 14eg. Mae'n debyg na welwn Pavel yn chwarae eto cyn dechrau mis Rhagfyr.

**************************

Mae ein dymuniadau gorau am wellhad buan yn mynd i'r canolwr, Dylan Morris orfodwyd i adael y cae yn y gêm yn erbyn Wrecsam ar Hydref 7fed gydag anaf drwg i'w ben. Bu'n rhaid iddo fynd i Ysbyty Glan Clwyd i gael triniaeth, lle y cafodd 27 pwyth yn y briw. Cyn loywr a chyd aelod o'r tîm yw'r 'No1 suspect' am y ddamwain.

**************************

Mae'r Clwb wedi cytuno a rhaglen gyfnewid gyda Chlwb o San Fransisco. Mae dau chwaraewr ifanc, Anthony Guirdy a'r prop Chris Rockwell wedi cyrraedd yn barod a byddent yn chwarae i'r tîm ieuenctid maes o law. Fel rhan o'r gytundeb bydd dau chwaraewr ifanc lwcus iawn o Bwllheli yn cael mynd i Galifornia am gyfnod o bedwar mis. Dyma ymgais ddiweddara'r Clwb i ymestyn profiad ein chwaraewyr ifanc mwyaf addawol.

*************************

Cynhaliwyd gêm goffa Howard Roberts yn y Clwb ar 'bnawn Sul Awst 27ain 2006, a llwyddwyd i godi swm o £1000 i'w rannu rhwng teulu Howard a'r Clwb ar gyfer prynu peiriant defribrillator symudol. Diolch yn fawr i bawb am eu cefnogaeth hael.

**************************

Mae'r Clwb yn ymfalchio yn y newyddion fod y prop Pavel Indrak wedi'i ddewis i gynrychioli ei wlad enedigol mewn gêm gymhwyso Cwpan y Byd. Mae Pavel yn y garfan i chwarae yn erbyn Sbaen ar Fedi 16eg a 30ain 2006. Pob lwc.

**************************

Cynhaliwyd y bedwerydd Ysgol Rygbi flynyddol rhwng Awst 7fed a'r 25ain. Rhedodd y gweithgareddau am bum diwrnod yr wythnos rhwng 9.30am a 3.15pm, yn rhad ag am ddim, diolch i grantiau gan Gyngor Gwynedd a Scottish Power. Mae'r Clwb Rygbi yn ddiolchgar am y gefnogaeth yma i hyfforddi plant rhwng 8 a 14 oed. Newidiwyd ychydig ar ffurf y gweithgareddau eleni gyda mwy o bwyslais yn cael ei roi ar chwarae gemau ac o ganlyniad gwelwyd brwdfrydedd y plant yn parhau drwy gydol y dydd.

***************************

Syfrdanwyd y Clwb a'r ardal gyfan gyda newydd sydyn a thrist marwolaeth Howard Roberts, un o gewri'r Clwb heb amheuaeth. Fe'i trawyd yn wael yn ei gartref yn Stourbridge ble yn drist iawn y bu farw. Mae ein cydymdeilad dwysaf yn cael ei ymestyn i'w briod Wynita a'r plant, ei fam ar teulu oll. Cynhelir yr angladd yn Stourbridge dydd Mawrth Mehefin 13eg 2006.

Cyfeiriad y teulu yw : 8 Mellow Dew Road

                              Wordsley

                              Stourbridge WM DY8 5NQ

Howard oedd un o'r props gorau erioed i ymddangos i Bwllheli gyda'r ddawn arbennig o allu sgorio ceisiau oddiar yr asgell. Ffrind da i Rygbi Pwllheli, dyn da a pherson neis. Fe fydd yna fwlch mawr ar ei ôl.

***********************

Cofiwch am y twrnament saith bob ochr!

Cychwyn am 12.00 pnawn Sadwrn Mehefin 17eg 2006.

Cysylltwch â'r Clwb ar 01758 613676 neu Peter Wakefield ar 01766 810250

am fwy o fanylion.

Elw tuag at Ambiwlans Awyr Gogledd Cymru.

************************

Cynhelir Cinio Gwobrwyo'r Clwb eleni ar nos Wener Mai 12fed 2006

pryd y cyfwynir y canlynol :

Chwaraewr y flwyddyn : Terry Adams.

Pris sgoriwr ceisiau : Gareth Wright - 21 cais.

Chwarawr mwyaf addawol : Geraint Parry.

Chwaraewr y flwyddyn yr ail dîm : Neil Harries.

Chwaraewr ieuengaf y fwlyddyn : Euron Jones

Chwaraewr ieuengaf mwyaf addawol : Berwyn Jones.

Gwobr arbennig i Ken Davies - Ysgrifennydd Gemau am wasanaeth i'r Clwb. Ken yw'r swyddog gyda'r gwasanaeth hiraf i'r Clwb.

Daeth y tîm cyntaf yn drydydd yn Adran 4 Gogledd a buont yn anlwcus i golli yn rownd derfynol Cwpan Gogledd Cymru.

Trydydd hefyd oedd yr ail dîm yng Nghynghrair Gwynedd tra'n sgorio 81 cais.

Ciciodd Dylan Llyr gyfanswm o 152 pwynt, 24 cic cosb a 40 trosiad.

Chwaraeodd y timau Iau 172 o gemau - mwy nag erioed o'r blaen.

Diolch i bawb am eu hydrech drwy'r flwyddyn ac ymlaen am dymor 2006-07.

 

************************

Cynhaliwyd Cyfrafod Blynyddol y Clwb nos Fercher Mai 24ain 2006 pryd yr ail etholwyd y swyddogion i gyd.

Pasiwyd i newid polisi ynglyn a phwrcasu a'r defnydd o'r physio. Cysylltwch a'r Ysgrifennydd am fanylion.

Gwneir cyhoeddiad ynglyn a'r capten, hyfforddwr a threfn ymarfer yn ystod mis Gorffennaf.

************************

Yn dilyn perfformiad eithriadol i guro'r Wyddgrug yn rownd gyn-derfynol o Gwpan Gogledd Cymru gwobr Pwllheli oedd taith i gae Bae Colwyn i chwarae Rhuthun yn y final ar 1af Mai 2006. Mae Rhuthun yn dal eu tir yn Adran 3 a nhw oedd y fferfrynnau cyn dechrau'r gêm. Yn dilyn gornest glos Pwllheli oedd ar y blaen 18-13 dri munud i mewn i amser ychwanegol. Yn anffodus sgoriodd y gwrthwynebwyr cais a throsiad i gipio'r gêm 20-18. Roedd y tîm a'r gwrthwynebwyr yn haeddu gwell does bosib.

*************************

Mae'r hogia wedi cyrraedd Seland Newydd yn saff. Chwaraeodd Carl Studt, Dafydd Annwyl a Kevin Morris eu gêm gyntaf i'w Clwb mabwysiedig ddyss Sadwrb Ebrill 8fed 2006. Mae'r tri erby hyn yn chwarae'n rheolaidd ac mae Dafydd wedi serenu mewn mwy nag un gêm - daliwch ati hogia.

**************************

Cynhaliodd y chwaraewyr gyfarfod yn y Clwb nos Iau Ebrill 6ed 2006. Ar yr agenda oedd trafod digwyddiadau ar gyfer y tymor nesaf a manylion y daith. Penderfynwyd symyd ymlaen gyda threfniadau taith i'r Weriniaeth Czech a Pholand y gwanwyn nesaf gyda gemau yn Prague, Havirov a Krakow. Manylion i ddilyn yn nes ymlaen.

***************************

Mae rhywun sydd wedi gweld rhaglen swyddogol y dydd y gêm ryngwladol rhwng Cymru a Ffrainc ar Fawrth 18fed 2006 yn siwr o fod wedi gweld yr erthygl am Glwb Rygbi Pwllheli ynddo. Sylw haeddiannol am y gwaith caled mae nifer yn ei roi i mewn a hwb fawr ar ddiwedd tymor caled.

***************************

Mae'r Clwb yn falch o allu cadarnhau'r newyddion fod Barbariaid Gogledd Cymru wedi penderfyny ar Barc Bodegroes ar gyfer eu gêm nesaf. Yn cynnwys y gorau o chwaraewyr ledled Gogledd Cymru bydd y tîm yn chwarae yn erbyn Pwllheli XV bnawn Sul Gwyl Banc mis Awst 2006. Bydd y gêm yn cychwyn am 1.30pm gyda ocsiwn memorabilia rygbi.

****************************

Fel rhan o bolisi'r Clwb i ddatblygu chwaraewyr mae trefniaadau wedi'u gwneud i anfon tri o'n chwaraewyr ifanc mwyaf addawol am dymor cyfan i Seland Newydd. Bydd Kevin Morris, Carl Studt a Dafydd Anwyl yn hedfan allan ar Ebrill 3ydd 2006 i ymuno a Chlwb y Mid Northern yn Northland. Hyfforddwr y Clwb yno yw cyn hyfforddwr Pwllheli, Brian Going. Mae llety wedi'i baratoi ar gyfer yr hogia a byddent yn ymuno a nifer o gyn chwaraewyr Pwllheli o'r 90au, sef Rata Going a Sammy Davies.

Breuddwyd oes i'r tri gwr ifanc yn siwr, sydd hefyd yn crynhoi ymrwymiad Clwb Rygbi Pwllheli i ddatblgu chwaraewyr rygbi ifanc Penlleyn. Cynhaliwyd noson lwyddiannus i gasglu arian ar Fawrth 10fed 2006 gyda Colin Studt ar y cabaret.

 

*****************************

Am y tro cyntaf ers rhai blynyddoedd bydd y Clwb yn trefnu cystadleuaeth saith bob ochr eleni. Cynhelir ar y trydydd Sadwrn yn Mehefin - 17eg. Mae'r twrnament yn cael ei drefnu gan Peter o'r Madryn Arms, Chwilog. Bydd yr elw yn mynd tuag at  Ambiwlans Awyr Gogledd Cymru. Cysylltwch yn uniongyrchol â Peter ar 01766 810250 am fwy o fanylion.

*******************************

Roedd croeso twymgalon yn disgwyl Michal Prusa, prop ifanc o Prague pan gyrhaeddodd Pwllheli ar 19eg o Ionawr. Chwaraeodd ei gêm gyntaf yn erbyn Dolgellau ar 21ain o Ionawr. Bydd yn aros yn y dref hyd at ganol mis Ebrill.

*********************************

Roedd hi'n bleser gallu cyflwyno Mr Ron Evans Cadeirydd Cronfa Ffrindiau Bryn Beryl gyda siec am £320 yn ddiweddar. Casglwyd yr arian yn ystod gêm er cof am Dewi Owen ar Ragfyr 27ain 2005.

**********************************

Mae'r Clwb yn falch o allu cadarnhau fod Clwb rygbi Fredrick RFC o Maryland, Unol Daleithiau'r America am chwarae o dan y llif oleuadau ym Modegroes ar nos Fercher Medi 13eg 2006. Chwaraeodd Pwllheli yn erbyn y tîm yma ar eu taith i'r UDA yn 2004. Colli'r gêm honno wnaeth Pwllheli ac fe fydd pawb yn awyddus i wneud yn iawn am y golled y tro yma. Mae pawb oedd ar y trip yn dal i son am y croeso penigamp gafwyd yno a byddwn yn ymdrechu i dalu'r pwyth yn ôl gyda chroeso gorau Penlleyn.

**************************

Chwaraewyd gêm deyrnged er cof am Dewi Owen ar bnawn dydd Mawrth Rhagfyr 27ain 2005. Bu farw Dewi yn ddiweddar a trodd allan tîm o chwaraewyr hyn y Clwb yn erbyn hogia Penlleyn. Roedd Dewi yn chwarewr pwerus a hollol ymroddedig ag yn chwaraewr tîm i'r carn. Daeth mwy na 250 i wylio'r gêm ac i dalu teyrnged iddo. Casgwlyd arian ar y diwrnod i'w roddi i elusen o ddewid y teulu, sef Apel Ffrindiau Bryn Beryl. Roedd y gêm yn gredit i'r ddwy ochr gydag Alwyn Ellis yn sgorio'r gais fuddugol.

Roedd hi'n braf gweld Chris Williams ag Iwan "Snitch" Hughes yn gwisgo crysau coch a gwyrdd eto.

********************************

Mae newidiadau i strwythur y gêm yn y Gogledd ar y gweill. Y son yw y bydd y clybiau gorau yn chwarae yn erbyn timau dros y ffin yn ogystal a chwarae yng Ngogledd Cymru.

Mae'r cynlluniau diweddaraf yma wedi'u hanfon i Gaerdydd a bydd rhaid cael sêl bendith y Pencadlys cyn y gellir symud ymlaen. Fe'cg cedwir yn y pictiwr fel y daw mwy o fanylion i law.

********************************

Yn dilyn damwain ddiweddar yn y Clwb cynhaliwyd Cwrs Cymorth Cyntaf ar Dachwedd 3ydd 2005. Yr hwyluswr oedd Mr Robert Evans, sy'n cynnig hyfforddiant i Glybiau Chwaraeon, diwydiant a busnes. Llwyddodd deng aelod o'r Clwb i gwblhau'r cwrs yn llwyddiannus. Bydd y cwrs ardystiedig hwn yn rhoi'r Clwb mewn sefyllfa llawer mwy abl i ddelio ag anghenion cymorth cyntaf yn ystod gemau a nosweithiau ymarfer o hyn ymlaen.

**********************************

Mae cais y Clwb am drwydded mewn perthynas a'r ddeddfwriaeth newydd ddaeth i rym yn ystod Tachwedd 2005 wedi'i chymeradwyo. Mae'r drwydded yn dod ynghyd ag amodau sy'n pwysleisio'r angen i ymddwyn yn gyfrifol bob amser. Gofynnwn i chwi i adael y Clwb ar ddiwedd noson mewn modd distaw a chwrtais fel y gallwn gynnal y berthynas wych sy'n bodoli rhwng y Clwb a thrigolion cyfagos.

**********************************

Mae tâl aelodaeth yn awr yn ddyledus. Os nad ydych wedi yn barod talu rydych yn hwyr. Mi ffydda hi o gymorth petaech yn gwirfoddoli'r taliad ag osgoi trafferth i bawb. Mae gan John Stiward ddigon o ffurflenni. Fedrwch chi ddim fod wedi methu'r gwelliannau trawiadol sydd wedi cymeryd lle dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf. Mae angen cario'r gwaith yma ymlaen!

*********************************

Mae copi o DVD o'r gêm rhwng Pwllheli a Llanelli fis Awst diwethaf wedi'i chynhyrchu ac ar gael tu ôl i'r bar am gost o £5 neu drwy'r post wrth gyfrannu £1.50 ar gostau postio.

**************************

 

Safle gan Rhaglen.com © 2005