![]() |
Newyddion '07-'08 a '08-'09 |
||||||||||||||||||||||||||||
|
Mai 5ed 2009 tan Mai 20fed am 7 o'r gloch. Ymddiheuriadau os yw hyn yn achosi anghyfleusdra i unrhyw aelod. Mai 4ydd 2009 Rygbi Rhuthun nos Fercher Mai 6ed - cic gyntaf am 7.30 yr hwyr. Chwaraewyr i gyfarfod yn y Clwb am 5 o'r gloch. Ebrill 26ain 2009 Ebrill 17eg 2009 i gychwyn am 9.30 y bore. Manylion i'r ysgolion yn y dyddiau nesa'. Ebrill 14eg 2009 Ebrill 5ed 2009 Mawrth 17eg 2009 Yn anffodus torrwyd i mewn i'r Clwb rhyw dro yn hwyr nos Sul neu yn fuan bore Llun. Yn ogystal â dwyn arian mae'r lladron wedi achosi cryn ddifrod o fewn y Clwb. Mae'r heddlu ar hyn o bryd yn cynnal ymchwiliadau fforensig oddi fewn y Clwb. Os oes gan unrhyw wybodaeth ynglyn a'r digwyddiad a fuasech yn cysylltu â'r heddlu yn uniongyrchol. Mawrth 4ydd 2009
Canolwr newydd Pwllheli am y tymor nesaf.
Chwefror 27ain 2009 Chwefror 18fed 2009 Gan fod y tîm yn chwarae'n erbyn Rhydyfelin yng nghystadleuaeth Plât SWALEC y Sadwrn yma mae'r gêm i ffwrdd yn erbyn Bala wedi'i gohirio. Oherwydd gwyliau, gwaith ag anafiadau bydd y tîm yn brin o nifer fawr o chwaraewyr yn y gêm, gobeithio'r gorau am ganlyniad ffafriol felly. Gêm gartref i'r tîm Ieuenctid yn erbyn Rhyl ym Modegroes pnawn Sadwrn. Gêm gartref nesa' i'r tîm cyntaf pnawn Sadwrn Chwefror 28ain yn erbyn Dinbych. Chwefror 11eg 2009 Mae'r draw ar gyfer rownd gyd derfynol Cwpan Gogledd Cymru wedi bod yn garedig i ni - gêm gartra'n erbyn unai Dinbych neu Cobra. Nant Conwy yn erbyn Caernarfon ydi'r gem arall. Manylion i ddilyn. Mae gan Bryn Martin dicedi gyda gwesty ar gyfer y gêm fawr yn erbyn Lloegr y Sarwrn yma. Cysylltwch yn uniongyrchol â Bryn ar 01758 612042 neu 613307. Cyntaf i'r felin. Chwefror 2ail 2009 Mae dyddiad y gêm Gynghrair gartref yn erbyn Bala wedi cael ei gadarnhau. Nos Fercher Chwefror 11eg 2009 - cychwyn am 7.30 yr hwyr. Ionawr 27ain 2009 Llongyfarchiadau calonog i Jack Roberts a Rhodri Jones ar gael eu cynnwys yng ngharfan Cymru o dan 18 oed. Da iawn hogia a phob lwc. Ionawr 20fed 2009 Cystadleuaeth Plât SWALEC, Rownd 2 Pnawn Sadwrn Ionawr 24ain - 2 o'r gloch
Gêm bwysica'r tymor - siawns i symud ymlaen i'r 16 olaf yn y gystadleuaeth. Gêm derfynol i'w chwarae yn Stadiwm y Mileniwm ar Mai 9fed. Dewch i gefnogi'r tîm Ionawr 16eg 2009 Clwb Rygbi Pwllheli v Clwb Rygbi Bala Mae'r gem Gynghrair gartref yn erbyn Bala wedi'i ail threfnu ar gyfer pnawn Sadwrn Chwefror 7fed. Ionawr 10fed 2009 Mae'r gem yn erbyn Llanidloes heddiw YMLAEN. Cychwyn am 2.30 pm. Ionawr 7fed 2009 Mae Arthur Williams wedi cael llawdriniaeth ar ei ysgwydd cyn y Nadolig ac wedi cael gorchymyn i aros adra am gyfnod. Brysia wella Arthur. Ionawr 3ydd 2009 Mae gem nesaf Pwllheli gartref yn erbyn Clwb Rygbi Llanidloes y Sadwrn nesa' Ionawr 10fed. Rhagfyr 27ain 2008 Gêm hynod o bwysig y Sadwrn nesa' i ffwrdd yn erbyn Bae Colwyn. Mae'r Clwb yn ceisio trefnu'r gêm gartra yn erbyn y Bala ar Sadwrn Chwefror 8fed-penwythnos y gêm ryngwladol yn erbyn Yr Alban sydd yn cael ei chwarae ar y Sul.
************************ Rhagfyr 22ain 2008 Mwy o newyddion da yn dilyn y fuddugoliaeth arbennig yn erbyn Cefneithin y Sadwrn diwetha. Bydd y Clwb yn chwarae gartref yn erbyn Crwydriaid Llanelli yn rownd nesa'r Plât. Mae'r Crwydriaid yn chwarae yn Adran 3 Gorllewin ac wedi ennill 3 allan o 10 o gemau Cynghrair hyd yma. Fe fydd hon yn siwr o fod yn gêm werth ei gweld os gall y tim chwarae fel y gwnaethant yn erbyn Cefneithin. Gêm i'w chwarae Ionawr 24ain.
********************
Rhagfyr 17eg 2008 Newyddion anhygoel newydd ddod drwodd fod Jack Roberts a Rhodri Jones wedi'u cynnwys yng ngharfan Cymru o dan 18 oed. Camp bron yn wyrthiol i gael dau chwaraewr o Glwb bychan o'r Gogledd Orllewin i gyrraedd yr uchelfannau. Llongyfarchiadau calonog a phob lwc. **** Beth am ddod i wylio'r gêm elusen bnawn Sadwrn Rhagfyr 27ain rhwng Tîm y Cadeirydd a cyfuniad o Ieuenctid a Vets. Dylai unrhyw un sydd ffansio cymryd rhan gysylltu â Ian Studt neu Dilwyn Bach - 01758 612607 neu 07765235783 Elw tuag at yr Ambiwlans Awyr. Gêm i gychwyn am 2 o'r gloch.
****************************
Rhagfyr 5ed 2008 Bydd Pwllheli'n chwarae yn erbyn Cefneithin yn Ail Rownd Cystadleuaeth Plat SWALEC ar bnawn Sadwrn Rhagfyr 20fed. Yn dilyn cais gan Gefneithin mae Pwllheli wedi cytuno i gychwyn y gem am 1 o'r gloch. Nid yw Cefneithin wedi colli yn Adran 4 Gorllewin hyd yma a gallwn ddisgwyl gem galed iawn yn eu herbyn. Beth am ychydig o hwyl ar ol y gem. Mae Tin Tin a Daron Roberts am drefnu Cwis chwaraeon yn y Clwb i gychwyn am 5 o'r gloch. Croeso cynnes i bawb fel arfer. ************************** Tachwedd 23ain 2008 Bydd gêm Gwpan Gogledd Cymru yn erbyn Bae Colwyn yn cael ei chwarae nos Fawrth Rhagfyr 2ail am 7.15 yr hwyr. Hon fydd y gyntaf o bedair gêm i gael ei chwarae yn ystod mis Rhagfyr. Byddwn yn chwarae i ffwrdd yn Rhuthun ar Ragfyr 6ed cyn y frwydr yn erbyn Nant Conwy, y tîm sydd ar frig y Gynghrair, ym Modegroes bnawn Sadwrn Rhagfyr 13eg. Mi fydd yna groeso cynnes yn disgwyl Cefneithin ein gwrthwynebwyr yn Ail Rownd Cystadleuaeth Plat SWALEC ar 20fed o Ragfyr. Mi fydd yr hogia'n haeddu saib bach yn dilyn mis mor brysur. ************************* Tachwedd 19eg 2008 CYSTADLEUAETH PLÂT SWALEC - ROWND 2 Rydym wedi llwyddo o'r diwedd i dderbyn gem gartref mewn Cwpan. Ein gwrthwynebwyr ar Ragfyr 20fed fydd Cefneithin o Adran 5 Gorllewin o'r Gynghrair. Fe ddylai fod yn gem dda gan nad yw Cefneithin wedi colli yn y Gynghrair y tymor yma. *** GOGLEDD CYMRU v SALE SHARKS PARC EIRIAS, BAE COLWYN Nos Fercher Tachwedd 26ain 7.30 yr hwyr. Oedolion - Stand ag Eisteddle - £7. Terrasau - £5. Myfyrwyr a Ieuenctid - £2. Plant o dan 16 am ddim pan gyda oedolyn. Manylion Ticedi - 01492 533 223. Fel canlyniad i'r uchod mae'r gêm Gwpan oedd i fod i'w chwarae Nos Fawrth Tachwedd 25ain rhwng Pwllheli a Bae Colwyn wedi'i gohirio. Dyddiad newydd i'w gadarnhau'n fuan.
***************************
Tachwedd 18fed 2008 Mae gan Alan Gwallt ddau diced debenture i'r gêm yn erbyn Seland Newydd pnawn Sadwrn. Cysylltwch yn uniongyrchol ag Alan ar 01758 61 2126.
***********************
Tachwedd 15fed 2008 Canlyniadau o ddiddordeb o Gwpan SWALEC Rownd 3 yn cynnwys timau lleol. Bala 20 Y Bontfaen 16 **********************
Tachwedd 13eg 2008 Mewn cystadleuaeth newydd y tymor hwn mae’r timau gollodd yn y ddwy rownd gyntaf o Gwpan SWALEC yn chwarae yng Nghwpan Plât SWALEC. Y Sadwrn yma mae Pwllheli’n trafeilio i Landybie am beth obeithia pawb fydd y gyntaf o nifer o gemau yn y gystadleuaeth.
Mae Pwllheli mewn un o 16 pwl 'knockout', yn cynnwys uchafswm o 8 o dimau. Y gemau chwaraeir ym mhwl 3 y Sadwrn yma fydd :
Llandybie v Pwllheli Cefneithen (bye)
Bydd enillwyr gemau'r penwythnos yma (4 tim o bob pwl) yn chwarae eu gilydd yn yr ail rownd(Rhagfyr 20fed). Enillwyr rownd 2 wedyn yn chwarae eu gilydd yn rownd 3 (Ionawr 24ain) i benderfynu enillwyr y pwl, fydd yn symud ymlaen i rownd y 16 olaf o’r gystadleuaeth (Chwefror 21ain) gyda’r gêm derfynol yn cael ei chwarae yn Stadiwm y Mileniwm ar ddiwedd y tymor.
Bydd y tîmau sy’n colli pnawn Sadwrn yn symud ymlaen i chwarae yng Nghystadleuaeth Powlen SWALEC.
**************************
Tachwedd 11eg 2008
CWPAN GOGLEDD CYMRU Bydd Pwllheli'n chwarae gartref yn erbyn Bae Colwyn yn rownd nesaf Cwpan Gogledd Cymru. Gem i'w chwarae yn ystod wythnos yn diweddu Tachwedd 29ain. Manylion llawn i ddilyn yn fuan.
***********************
Tachwedd 3ydd 2008 *** RHYBYDD PWYSIG *** CWPAN GOGLEDD CYMRU Mae Clwb Rygbi Dolgellau newydd gysylltu â'r Clwb i ddweud na fyddent yn anfon tim i chwarae Pwllheli yn Rownd 1af Cwpan Gogledd Cymru, nos Fercher Tachwedd 5ed.
********************** Hydref 30ain 2008 Cwpan SWALEC - Plât Mae'r timau gollodd yn Rownd 1 a 2 o'r Gwpan yn awr yn cystadlu am y Plât. Fydd hi fawr o yn syndod i chi glywed mai gêm arall i ffwrdd o gartref sy'n wynebu Pwllheli. Ar Dachwedd 15fed byddwn yn chwarae Clwb Rygbi Llandybie, tim o Adran 5 De-Orllewin o'r Gynghrair. Collodd Llandybie mewn gêm glos yn erbyn Y Tymbl o 18-16 yn yr Ail Rownd.
********************* Hydref 27ain 2008 Nos Fercher Tachwedd 5ed 2008 Parc Bodegroes Cwpan Gogledd Cymru Rownd 1 Pwllheli v Dolgellau Gem i gychwyn am 7.15 yr hwyr Noddwr y gem-S.J & S.WILLIAMS-EDERN. Noddwr pel y gem-LLOND PLAT-Aberaeron. ************************
Hydref 22ain 2008 Gêm yn Aberteifi dydd Sadwrn. Bws yn cychwyn o'r Clwb am 8.30 y bore. Croeso i gefnogwyr ymuno â ni. Gêm Cwpan Gogledd Cymru yn erbyn Dolgellau i'w chwarae ar Barc Bodegroes, Nos Fercher Tachwedd 5ed am 7.15 yr hwyr . Disgwyl fireworks felly. Ticedi - De Affrica wedii mynd i gyd - dim mwy ar gael. Awstralia - un ticed ar ôl - Debenture £55. Sêt dda. Cysylltwch â Wil Martin.
************************ Hydref 12fed 2008 Clwb Chwaraeon Pwllheli Nos Sadwrn Hydref 18fed 2008
Beth am ddod i'r Clwb i wrando ar CELT, y grwp poblogaidd o Rachub, Bethesda yn perfformio. Cychwyn yn brydlon am 8 o'r gloch. Cost ticed £6.00. Ffoniwch y Clwb. Elw tuag at Adran Iau Clwb Rygbi Pwllheli Dewch yn llu.
*******************
Hydref 3ydd 2008 Newyddion da iawn i Adran y Merched. Mae pump wedi'u dewis i gynrychioli Gogledd Cymru o dan 18 oed. Da iawn genod a phob lwc. Charlotte Pirie Elan Jones Elin Jones Elliw Haf Williams Meleri Griffith Gwobr haeddiannol iawn i'r ddwy hyfforddwaraig, Sian Gough Roberts a Linda Cullen-Hubbard am eu gwaith caled.
****************** Hydref 1af 2008 Cwpan SWALEC Rownd 2 Gwobr Pwllheli am guro Castell-nedd Athletig yn Rownd 1af Cwpan Swalec y Sadwrn diwethaf ydi gêm i ffwrdd o gartref yn erbyn Aberteifi. Cafodd Aberteifi sy'n chwarae yn Adran 3 Gorllewin o'r Gynghrair fuddugoliaeth hawdd yn erbyn Cilfynydd o Adran 5 De-Orllewin o 52-17 yn y Rownd gyntaf. Bydd y gêm yn cael ei chwarae ar Hydref 25ain.
*******************
Medi 16eg 2008
Mwy o luniau o'r gêm yn erbyn Fflint. Diolch i Drew Murray.
***************
Medi 9fed 2008
YSWIRIANT CHWARAEWYR Mae WILLIS Cyf. Caerdydd yn gwmni awdurdodedig ym maes Yswiriant Damweiniau Personol, Marwolaeth ag Anabledd Parhaol i Chwaraewyr Rygbi. Gweler isod fraslun o'r gwasanaeth sy'n cael ei gynnig. MARWOLAETH AG ANABLEDD PARHAOL. Mae'r yswiriant yma'n orfodol a bydd y taliadau'n cael eu gwneud gan Undeb Rygbi Cymru ar ran holl glybiau sy'n aelodau o'r Undeb. Chwaraewyr rhwng 16 a 55 oed.
YSWIRIANT DAMWEINIAU PERSONOL I CHWAREWYR AMATUR. Mae unrhyw un sy'n chwarae rygbi'n rhedeg y risg o gael ei anafu. Gall hyn arwain at gyfnod o amser i ffwrdd o'r gwaith. Mae'r cynllun yswiriant hwn sydd wedi'i gymeradwyo gan Undeb Rygbi Cymru yn gwarchod chwarewyr yn erbyn anaf personol yn ystod y tymor.
Rhydd yr yswiriant yma; Gwarchodaeth yn erbyn colled incwm yn dilyn damwain tra'n chwarae rygbi; Taliadau wythnosol tra allan o waith am fyr amser; Ni fydd pawb sy'n methu gweithio'n colli incwm felly gellir anelu ar greu cynllun unigol i blesio pawb; Hyblygrwydd yn y dewis o nawdd.
Cysylltwch â Wil Martin am ffurflen gais. Ffurflenni i'w dychwelyd heb oedi. Os oes arnoch angen mwy o wybodaeth am y cover neu termau'r polisi cysylltwch a WILLIS yn uniongyrchol ar 029 203 75823 neu ewch i'w gwefan ar www.willis.com
**********
Medi 2ail 2008
Croeso i Adran 1 o Gynghrair Gogledd Cymru. Mae gêm gynta'r tymor gartref yn erbyn pencampwyr y llynnedd - yr hen elynion o Gaernarfon. Dewch i gefnogi'r tîm. Mae amryw o chwaraewyr Pwllheli'n methu chwarae bnawn Sadwrn felly bedydd tân amdani mae'n siwr. Cofiwch fod yr Undeb wedi penderfynu mabwysiadu Newidiadau Rhagbrofol i'r Rheolau eleni. Mae yna fideo yn egluro'r newidiadau hyn yn is lawr y dudalen hon (dyddiedig Awst 15fed) Fe ddylai rheolau newydd fod wrth fodd Pwllheli sy'n adnabyddus am chwarae rygbi agored cyffrous. Mae'r Ieuenctid hefyd yn chwarae gartref, yn erbyn Dinbych tra fod yr Ail Dîm yn trafeilio i Harlech. Pob lwc i'r timau oll. ***** Bydd Pwllheli'n chwarae gartref yn erbyn Dolgellau yn Rownd 1af Cwpan Rygbi Cymru. Gemau i gael ei chwarae'n wythnos yn cychwyn Tachwedd 2ail. Ble mae llifoleuadau ar gael y gemau yma i'w chwarae ar neu cyn nos Wener 8fed gyda'r gweddill i'w chwarae'n gynnar Sadwrn 8fed (amser i siwtio'r ddau dîm) Mae'r angen i chwarae gemau ganol wythnos yn codi oherwydd prinder dyfarnwyr ar benwythnosau gemau rhyngwladol. ***** Hyfforddi merched i gychwyn nos Iau Medi 11eg am 6 o'r gloch. Croeso cynnes i bawb. ************************ Awst 25ain 2008
HOGROAST a barbaciw yn y Clwb nos Wener Awst 29ain am 7.15 yr hwyr. Cost £4 i oedolion Plant £2. Ticedi ar gael o'r 12ed o Awst ymlaen gan unrhyw un o'r Swyddogion Rygbi neu tu ôl i'r bar yn y Clwb . Chwaraewyr, teulu, plant a ffrindiau. Croeso cynnes i bawb.
************
Awst 22ain 2008 Mae'r gêm gyfeillgar i ffwrdd yn erbyn Machynlleth oedd i fod i gael ei chwarae yfory wedi'i chanslo. Yn anffodus mae Machynlleth yn methu codi tîm. Mae'r Clwb yn awr yn gobeithio trefnu gêm yn erbyn Bro cyn y gêm gynghrair gyntaf yn erbyn Caernarfon. Manylion i ddilyn. ******
Râs Rafft Elusen tuag at Ambiwlans Awyr, Harbwr Pwllheli Awst 24ain am 11 y bore. Mae gan y Clwb ddwy rafft yn cymryd rhan. Dewch i gefnogi achos haeddiannol iawn. ***************
Awst 16eg 2008 Bydd aelodau o'r Cymry Brenhinol yn beicio ar draws hyd a lled Cymru dros gyfnod o 14 diwrnod rhwng 18 Awst a 31 Awst, cyfanswm o 2240 o filltiroedd. Byddent yn ymweld a phob Clwb rygbi sy'n Aelod o Undeb Rygbi Cymru ar y daith ag yn sgorio trosgais ar bob lleoliad. Bwriad y daith yw, yn gyntaf codi arian ar gyfer gwahanol elusennau ac yn ail i osod croes ym mhob Clwb er cof am unrhyw filwr lleol o'r Uned. Bydd yr ymweliad yn cymryd lle ym Modegroes bnawn Llun Awst 18fed am 1 o'r gloch y pnawn. Gallwch gyfranu i'r elusennau gwasanaeth wrth ymweld a'r Clwb. Mae'r bechgyn yn haeduu cefnogaeth beth bynnag ydyw'ch daliadau gwleidyddol.
***************** Awst 15fed 2008 Cliciwch isod i weld fideo o'r Newidiadau Rhagbrofol i'r Rheolau sy'n dod i rym y tymor yma.
*****************
Awst 8fed 2008 Mae'r gêm gyfeillgar i ffwrdd yn erbyn Machynlleth wedi'i chadarnhau ar gyfer pnawn Sadwrn Awst 23ain. Gêm i gychwyn am 1 o'r gloch. **** HOGROAST a barbaciw yn y Clwb nos Wener Awst 29ain am 7.15 yr hwyr. Cost £4 i oedolion Plant £2. Ticedi ar gael o'r 12ed o Awst ymlaen gan unrhyw un o'r Swyddogion Rygbi neu tu ôl i'r bar yn y Clwb . Chwaraewyr, teulu, plant a ffrindiau. Croeso cynnes i bawb. ************ Awst 1af 2008
Llongyfarchiadau Tom. Mae Tom Parry wedi llwyddo i nofio o Alcatraz i'r tir mawr.
Dyma oedd gan Tom i'w ddweud ar ôl cyrraedd yr ochr arall yn saff.
'Yn ffodus iawn tydi gwylanod California hanner mor wallgof a rhai Pen Llyn felly llwyddiais i nofio o Alcatraz heb gael fy ymosod. Roedd cryfder y cerrynt yn frawychus ar adegau. Onibai am hynny yr unig drafferth ges i oedd pan geisiodd fy ffrind Paul neidio ar fy mhen ar y cychwyn.' **************** Gorffennaf 30ain 2008
Gêm gyfeillgar wedi'i threfnu i ffwrdd yn erbyn Machynlleth ar Awst 16eg.
****
Mae Cwrs Cymorth Cyntaf Cofrestredig i'w gynnal yn y Clwb dydd Gwener Awst 22ain. Cychwyn am 9.15 y bore. Mae'r Cwrs sy'n rhad ag am ddim yn cael ei ariannu gan Sports Match i barhau i wella cefnogaeth i chwaraewyr o bob oed. Cysyllwch â Wil Martin cyn gynted ag sydd bosibl. Uchafswm o ddeuddeg person. Bydd dyddiad Cwrs Hyfforddi defibrillator symudol yn cael ei gadarnhau yn fuan. Lle i chwech person yn unig.
**************
Gorffennaf 26ain 2008 Gêm i ffwrdd o gartref sy'n wynebu'r tîm yn Rownd Gyntaf Cwpan SWALEC gyda taith i chwarae Neath Athletic. Y tymor diwethaf gorffennodd Neath yn nawfed yn Adran 4 De Orllewin o'r Gynghrair gan ennill treuan o'u gemau. Chwaraeuir y gêm ar 27ain o Fedi. Cysylltwch â'r Clwb os am drafeilio lawr efo bws i gefnogi'r tîm.
***********
Gorffennaf 12fed 2008
Mae dymuniadau gorau pawb yn y Clwb yn mynd i gyn chwaraewr Pwllheli - Tom Parry. Mae Tom wedi ymgartrefu yng Nghalifornia ers blynyddoedd maith ac yn ddiweddar wedi gwerthu ei gwmni cyfrifiadurol llwyddiannus. Y rheswm am hyn yw fod ef a dau ffrind wedi penderfyny profi ei bod hi'n bosib dianc o garchar Alcatraz. Y bwriad yw nofio o'r ynys i dir mawr San Fransisco. I'r rhai ohonoch sy'n nabod Tom ni fydd yr anturiaeth ddiweddaraf yma'n syndod o gwbwl. I baratoi ar gyfer hyn daeth Tom drosodd i ymweld a'i deulu ym Mhwllheli ag ymarfer wrth nofio o Garreg yr Imbyll i Garreg y Defaid ag yn ôl. Ymyrwyd a'i baratoadau un diwrnod pan ymosodwyd gan wylan gamgymerodd Tom am pysgodyn yn torri'r wyneb!!!! Mae Tom yn dychwelyd adref yr wythnos hon ond yn parhau yn gefnogwr brwd o rygbi ar y Lleyn.
**************
Gorffennaf 8fed 2008 Manylion gemau yr Ail Dîm ar gael rwan yn Adran 'Gemau Nesaf.'
****************
Gorffennaf 7fed 2008 Mae Clwb Rygbi Pwllheli'n falch o allu cadarnhau fod Eifion Griffiths wedi ymuno a thim hyfforddi'r Clwb, a hynny yn syth. Mae Eifion, neu Jiffy fel y mae'n adnabyddus i bawb o fewn y maes rygbi yn y Gogledd ac wedi cael cyfnod llwyddiannus iawn gyda Chlwb Rygbi Harlech dros nifer o flynyddoedd. Mae ei brofiad yn helaeth ac mae Pwllheli'n hollol ffyddiog y bydd ei gyfraniad yn werthfawr iawn wrth ddatblygu rygbi ar y Lleyn. Bydd yn ymuno â David Martin ag Arthur Williams o fewn y tîm hyfforddi presenol ym Modegroes. Mae'n rhaid cydnabod yma barodrwydd Clwb Harlech i ryddhau Eifion ag hefyd dymuno'n dda iddyn nhw yn nhymor 2008-09. COFIWCH FOD YMARFERION YN CYCHWYN AM 7 O'R GLOCH NOS FAWRTH GORFFENNAF 8FED. CROESO CYNNES I CHWARAEWYR HEN A NEWYDD.
*********** Gorffennaf 5ed 2008 Mae manylion gemau'r Tîm Cyntaf a'r Ieuenctid wedi'u cyhoeddi. Gemau'r Ail Dîm i'w cadarnhau yn fuan. Ewch i Adran 'Gemau Nesaf ' y wefan i'w gweld.
**********
Mehefin 27ain 2008 Mae cefnogaeth CYMUNEDAU'N GYNTAF wedi'n galluogi i adnewyddu llawr yr ystafell ffitrwydd gyda matiau newydd. Mae'r adnodd yn boblogaidd iawn ac yn cael defnydd rheolaidd gan nifer helaeth o'r chwaraeawyr rygbi. Mae'r cyfleustra ar gael i holl aelodau'r Clwb .Mynediad drwy oriad yn unig.Cysylltwch hefo'r Clwb am fwy o fanylion.Cofiwch bod rhaid i chi derbyn cyngor cyn defnyddio'r offer. Cysylltwch â Wil Owen neu David Martin am gyngor. Ni chaniateir i blant ddefnyddio'r offer ar unrhyw amod. PRYNWYD Y MATIAU ODDIWRTH HIRONS,CAERDYDD.
******* Mehefin 26ain 2008
NODDWYR KIT NEWYDD Tîm Cyntaf - Jewson Tîm dan 10 oed - Adeiladwyr Daron Merched - David Mclean/HSBC/SPORTMATCH.
Mae cyfle i unrhyw berson sydd eisiau cefnogi'r Clwb drwy hysbyseb yn ein rhaglen flynyddol gysylltu hefo Wil Martin ar 0791 999 0869. Ffordd effeithiol iawn o hysbysebu'ch cwmni neu wasanaeth a buddsoddi yn nyfodol rygbi ar y Llyn. Cost £100 am dudalen llawn, £50 am hanner, £30 am chwarter tudalen.
******* Mehefin 24ain 2008 Hyfforddiant tymor 2008/2009 yn cychwyn am 7.00 nos Fawrth Gorffennnaf 8fed yn y Clwb. Croeso cynnes i bawb. Mae'r clwb yn awyddus i gychwyn cofrestru merched Pen Llyn sydd a ddiddordeb chwarae rygbi dros y Clwb yn y tymor i ddod. Cysylltwch drwy ffonio - 01758 613676 - neu drwy e-bost - ccpwll2@tiscali.co.uk - i gael y ffurflen gofrestru. Rydym yn parhau i aros am restr gemau am y tymor i ddod. Gobeithir y bydd y rhain ar gael ddechrau Gorffennaf. Ticedi gemau rhyngwladol mis Tachwedd ar gael rwan. Ewch i Adran 'Tocynnau a Teithiau' am fwy o fanylion. Ffurflenni aelodaeth ar gael gan stiward y Clwb - John Hodgson - nosweithiau Mawrth a Iau a dros y penwythnos. ****** Mehefin 10fed 2008 Cyfres Invesco Perpetual 2008
Mae ticedi ar gyfer gemau rhyngwladol yr Hydref yn awr ar gael o'r Clwb. Ffoniwch y Clwb ar 01758 613676 neu cysylltwch â Wil Martin yn uniongyrchol.
Prisiau yn amrywio rhwng £40 a £55 yn ddibynol ar y galw. Peidiwch a cholli allan, prynwch diced cyn iddyn nhw ddiflanu. Tâl gweinyddol bychan yn ddyledus a thaliad llawn gyda'ch archeb os gwelwch yn dda. Ni fydd y Clwb yn gallu cyflewni ticedi ar gyfer y gêm yn erbyn Canada os fe ddylai rhai fod ar gael yn uniongyrchol gan yr Undeb.
****************
Mehefin 7fed 2008
Mae yna nifer cyfyngedig o ties silk ar werth - £15. Fedrwn ni ddim cael cyflenwad arall o'r rhain. Cysylltwch a'r Stiward.
******************
Mehefin 6ed 2008 Mae Pwyllgor Rheoli'r Undeb wedi penderfyny ddileu pwyntiau Clybiau Rheadr a Wrecsam am y tymor 2007-08, oherwydd eu meddiant i gwblhau eu gemau. Tydi hyn ddim yn gwneud gwahaniaeth i Bwllheli ond mae'n golygu mai Bro Ffestiniog sy'n gorffen yn ail yn y Gynghrair. Mae'r Clwb yn disgwyl cadarnhad swyddogol ynglyn â phwy fydd yn ymuno â Phwllheli yn Adran 4 o'r Gynghrair y tymor nesa.
****************
Mai 18fed 2008 NOSON WOBRWYO yn y Clwb Nos Wener Mehefin 6ed 2008 am 7.30 yr hwyr NOSON I DDATHLU TYMOR LLWYDDIANNUS 2007-08. Medalau Undeb Rygbi Cymru'n cael eu cyflwyno i'r Tim Cyntaf Medalau i'r Ail Dim am ennill Cwpan Gwynedd Medalau i'r Tim Ieuenctid am ennill y Gynghrair Trefnir pryd o fwyd ysgafn ar y noson. Cysylltwch a Roy Kip, Ken Davies neu Wil Martin am fanylion pellach.
CROESO CYNNES I BAWB - NOSON ANFFURFIOL. ******************* Mai 17eg 2008 Parc Bodegroes EFAILNEWYDD
Dydd Sadwrn Mai 17eg 2008 Dechrau 9.30 y bore Dewch i gefnogi Diolch yn fawr i ASDA Pwllheli am eu cefnogaeth hael iawn
**************** Mai 14eg 2008 Ffeinal Cwpan Gwynedd Clwb Rygbi Nant Conwy 13 Clwb Rygbi Pwllheli 22 Llwyddodd ail dîm Pwllheli i ennill Cwpan Gwynedd am y tro cyntaf erioed pan chwaraewyd y ffeinal nos Lun ym Mro Ffestiniog. Nant gychwynnodd y gêm gryfaf ac am yr ugain munud agoriadol y nhw oedd y tîm gorau o dipyn. Gyda’u sgrym ar ei orau a’r leiniau yn ennill pêl gyson roedd 'na dipyn o steil o gwmpas eu chwarae agored; rygbi pwerus a grymus, yn chwarae nodweddiadol o Nant Conwy. Doedd hi fawr o syndod felly i’w gweld yn mynd ar y blaen gyda dwy gic cosb. Ond, er yr holl bwysau, mantais yr awel cryf a llethr y cae oedd gan Nant, daliodd llinell amddiffynnol Pwllheli’n gadarn. Daeth Pwllheli’n ôl i mewn i’r gêm yn raddol wrth i’r cyfuniad o dalent ifanc a hen bennau’r tîm asio ac o dipyn i beth cymryd rheolaeth o’r pethau. Dechreuodd sgrym Pwllheli ddangos eu marc a chafwyd ychydig mwy o feddiant yn y leiniau tuag at ddiwedd yr hanner.
Ar ôl mwy nag un ymosodiad addawol daeth gwobr y tîm pan aeth rhif wyth Huw Williams am gais a gyda throsiad a chic cosb Gethin Roberts aeth y ddau dîm i mewn ar yr egwyl gyda Phwllheli ar y blaen o 10-7. Roedd Huw a Gethin yn rhan o strwythur Ieuenctid y tymor diwethaf, prawf fod y polisi’n llwyddiant ac yn hanfodol i ddyfodol y Clwb.
Aeth Pwllheli ymhellach ar y blaen gyda chic cosb 40 medr gan Roberts. Cryfhawyd rheng flaen y gwrthwynebwyr a daeth eu cyfle i wneud rhywbeth o’r gêm pan anfonwyd prop Pwllheli i’r gell cosb. Gyda’r fantais yma llwyddwyd i sgorio trosgais i ddod ar sgôr o fewn tri phwynt, ond gyda Phwllheli’n cryfhau yn y sgrym ac yn ennill y rhan fwyaf o’r bel rhydd collwyd y cyfle.
Daeth esgid Roberts i’r gad unwaith eto i ymestyn y fantais gyda thair cic arall ac o hynny ymlaen diflannodd unrhyw fygythiad. Daeth y chwiban olaf heb fwy o sgorio a Phwllheli’n llwyr haeddiannol o’r fuddugoliaeth.
Derbyniodd y capten, Colin Jones y tlws ar ran y Clwb ond perthyn y fuddugoliaeth i ysbryd y sgwad a gwaith caled ag ymrwymiad Dilwyn ‘Nosey’ Jones ag Ian Studt - chwaraewr y gêm ar y noson.
****************** Mai 7fed 2008 Gwobr yr ail dîm am gyrraedd Ffeinal Cwpan Gwynedd yw gêm yn erbyn Nant Conwy o dan lif-oleuadau Bro Ffestiniog nos Lun nesaf - Mai 12fed am 7.30 yr hwyr. Chafodd y Clwb ddim dewis yn y mater gan fod Pwyllgor Gwynedd wedi derbyn eisoes na fedrai Nant chwarae ar yr un o'r ddau bnawn Sadwrn canlynol. Gwnaed y penderfyniad heb ymgynghoriad ac fe anwybyddwyd gwrthwynebiad Pwllheli. Teimlad y Clwb oedd y byddai gêm ar bnawn Sadwrn wedi ennyn llawr mwy o ddiddordeb na gêm ar nos Lun.
****************** Mai 2ail 2008 Nodyn i gadarnhau fod swyddogion y Clwb wedi'u hail ethol am gyfnod o ddwy flynedd yn y Cyfarfod Blynyddol neithiwr. Cadeirydd : Wil Martin Is-gadeirydd : Gareth Wyn Jones Ysgrifennydd : Bryn Martin Trysorydd : Brian Hughes Ysgrifennydd Gemau : Ken Davies Bydd cynrhychiolwyr y Pwyllgor Rheoli'n cael eu hethol y flwyddyn nesaf.
***********************
Ebrill 30ain 2008 Sadwrn Mai 3ydd Ail dîm yn chwarae yn rownd gyn-derfynol Cwpan Gwynedd yn erbyn Bethesda. Gêm i'w chwarae unai ym Mhwllheli neu Bangor. Mwy o wybodaeth ar gael yn y Clwb. Cychwyn am 2.30 y pnawn. Dydd Sul Mai 4ydd tîm o dan 16 oed yn chwarae yn ffeinal Cwpan Eryri yn erbyn Caernarfon. Gêm i'w chwarae ym Mangor ac i gychwyn am 12.30 y pnawn. Dydd Llun Mai 5ed. Tîm cyntaf yn rownd gyn-derfynol Cwpan Gogledd Cymru yn Rhuthun. Gêm yn cychwyn am 2.30 gyda bws yn gadael y Clwb am 10.30 y bore. Mae yna nifer fechan o deis silk i ddathlu curo Adran 5 o Gynhrair Rygbi Cymru ar werth yn y Clwb. Cost £20 yr un. Dim ond 50 o'r rhain gafodd eu gwneud felly cyntaf i'r felin.
*********************** Ebrill 28ain 2008 Cyfarfod Blynyddol Clwb Rygbi i'w gynnal nos Iau Mai 1af am 7.30 yr hwyr yn y Clwb.
*******************
Ebrill 4ydd 2008 Mwy o newyddion drwg i gyfansoddiad Adran 5 a rygbi yng Ngogledd Cymru.
Mae Clwb Rygbi Rheadr wedi cadarnhau yn wythnos hon na fyddent yn cyflawni gweddill eu gemau. Dyma’r ail Glwb yn dilyn ymadawiad Bangor ar ddechrau’r tymor i fethu cario ‘mlaen. Mae hyn yn saff o gael effaith ar Bwllheli gan ein bod eto i'w chwarae gartref.
Bydd hyn yn adlewyrchu'n negyddol ar incwm dros y bar ond yn bwysicach, y gobaith o fuddugoliaeth sylweddol yn eu herbyn ac ymestyn ein mantais ar frig y tabl. Rydym yn disgwyl ymateb gan Bwyllgor Rheoli’r Undeb ar sut y bydd hyn yn newid pethau cyn belled ag y mae pwyntiau ac yn y blaen.
Mae gan Bwllheli gêm pob Sadwrn o hyn hyd Ebrill 26ain, a’r rhain i gyd gartref heblaw am y gêm honno yn Rhos ar Ebrill 12fed. Y gêm bwysicaf o’r rhain yw’r un yn erbyn Bro Ffestiniog ym Modegroes yfory. Byddai buddugoliaeth yn agor bwlch rhyngom a gweddill yr Adran. Ar y llaw arall bydd colled yn gadael pethau’n llawer mwy ansicr. Dowch i gefnogi!
****************************
Mawrth 31ain 2008 Mae dau o’r chwaraewyr wedi pasio’r garreg filltir o 100 o bwyntiau yn y Gynghrair y tymor hwn. Mae’r maswr, Elgan Rowlands wedi cyrraedd 107 o bwyntiau – 3 cais, 40 trosiad a 4 cic gosb. Cyrhaeddodd Mike Adams y cant yn ystod y gêm yn Rhyl ar Fawrth 29ain gyda 20 cais. Mae hyn yn gamp a hanner o gysidro’r nifer o gemau sydd wedi’u chwarae – Elgan mewn 12 a Mike mewn 9 o gemau yn unig.
Gyda chwe gêm yn weddill mae pethau’n argoeli’n dda am ‘chwaneg o bwyntiau i’w hychwanegu i’r rhain.
Mae’r ddau chwaraewr yn hael iawn eu canmoliaeth o weddill y garfan a wnaeth hyn yn bosib. Mae dim llai na 12 o’r sgwad wedi chwarae o leiaf 10 o’r gemau hyn gyda 5 yn holl bresennol - Dylan Morris, Geraint Parry, Tomos Henry, David Ll Williams ac Elgan Rowlands.
***********************
Mawrth 28ain 2008 Mae Jack Roberts a Rhodri Jones wedi cael eu dewis i chwarae i Gymru 'A' o dan 16 mewn twrnament sy'n cychwyn ar Fawrth 31ain ac sy'n para tan Ebrill 6ed. Bydd y tîm yn chwarae'n erbyn gwledydd fel Lloegr, Yr Alban a Rwmania. Mae hon yn anrhydedd fawr i'r hogia, y Clwb, yr hyfforddwyr a'r rhieni sy'n gweithio mor galed gyda'r ieuenctid. Mae hefyd yn gamp aruthrol i Ben Llyn a Gogledd Cymru. *** Mae'r gêm gartra'n erbyn Rhos wedi cael ei newid i nos Fercher Ebrill 23ain - cychwyn 7.15 yr hwyr. Mae hyn yn gadael pnawn Sadwrn Mai 3ydd yn rhydd ar gyfer y gêm Gynghrair olaf ym Modegroes yn erbyn Rheadr. *** Mae chwaraewyr hyn Clwb Rygbi Dudley (hen Glwb Howard Roberts) yn chwarae Pwllheli pnawn Sadwrn Ebrill 26ain. Gêm i gychwyn am 12.30, i'w dilyn gan gemau 'r tîm cynta a'r ail dîm yn erbyn Wrecsam am 2.30. *** Mae Cystadleuaeth Rygbi'r Ddraig eleni yn cymryd lle dydd Sadwrn Mai 17eg. Y trefnwyr ydi Mark Roberts, Brian Hughes a Euros Davies. Mwy o fanylion i ddilyn.
******************
Mawrth 25ain 2008 Cinio Aduniad Rygbi Gogledd Cymru. Mae Kenton Morgan, rheolwr presennol tîm rygbi Gogledd Cymru'n gobeithio cynnal Cinio Aduniad Chwaraewyr Gogledd Cymru mewn lleoliad canolog fis Mehefin eleni. Mae croeso i unrhyw gyn chwaraewr neu chwaraewr presennol sydd wedi cynrychioli'r rhanbarth ddod. Y gobaith yw y gall y fenter hyrwyddo rygbi o fewn yr ardal tra'n pwysleisio'r hyn mae'r hyfforddwyr a'r tîm rheoli'n ceisio'i gyflawni. Bydd y gost oddeutu £30 yn cynnwys bwyd da, cwmni diddan a siaradwyr diddorol. Os bydd digon o alw'n lleol mae'n bosib y gallwn drefnu bws. Gall unrhyw un lleol sydd wedi cynrychioli'r rhanbarth ag sydd a diddordeb gysylltu â Richard 'Tin Tin' Hughes neu Kenton yn uniongyrchol ar K.L.Morgan@liverpool.ac.uk
****************************
Mawrth 16eg 2008 Sadwrn Mawrth 22ain 2008 Pwllheli v COBRA Mae'r tymor wedi bod yn un annodd hyd yn hyn. Er fod y tîm wedi bod yn perfformio'n dda ar y cae mae llif a threfn y gemau wedi cael eu ffeithio gan nifer o elfennau tu allan i'n rheolaeth. I gychwyn daeth Cwpan y Byd i dorri fyny wythnosau agoriadol y tymor. Hefyd roedd methiant Clwb Rygbi Bangor i gynnal tîm yn ergyd. Ychydig cyn y Dolig wedyn daeth y tywydd i amharu ar bethau. Yn ddiweddar mae Cystadleuaeth y Chwe Gwlad a methiant mwy nag un tîm i gyflawni'u gemau yn golygu nad ydi'r tîm wedi chwarae gartref ers Tachwedd 11eg 2007. Yn bwysicach mae'r chwaraewyr wedi'i chael yn annodd canolbwyntio ar eu gem gyda cymaint o Sadyrnau rhydd o fewn y rhaglen. O hyn ymlaen gallwn edryvh ymlaen at nifer o gemau - hyd at beth bynnag 3ydd o Fai. Mae'r gem y Sadwrn nesa'n bwysig am fwy nag un rheswm. Collodd y tîm eu record cant y cant yn eu gem ola'n erbyn Bethesda a bydd buddugoliaeth yn erbyn COBRA'n fodd o gadw'r pwysau ar y timau odditanom yn y tabl. Fel y gallwch ddychmygu mae prinder g emau cartref dros gyfnod o fwy na phedwar mis wedi amharu ar incwm. Beth am ddod i gefnogi'r tîm a'r Clwb wrth i ni wthio tuag at ddyrchafiad i Adran 4 o'r Gynghrair. Cychwyn am 2.30.
************************ Chwefror 29ain 2008 Tim Rygbi Merched. Pob lwc i dîm merched Pwllheli yn eu gêm gynta ers ail sefydlu i ffwrdd yn erbyn Bangor. Bws yn gadael y Clwb 10.30 bore Sul. **** Mae URC newydd gadarhau gemau'r tîm ar gyfer Tachwedd 2008. Tachwedd 8fed - De Affrica Tachwedd 22ain - Seland Newydd Tachwedd 29ain - Awstralia
**************************
Chwefror 24ain 2008 Yn dilyn buddugoliaeth gampus y tîm yn erbyn Dolgellau, gêm arall i ffwrdd o gartref yn erbyn Rhuthun sy'n wynebu'r tîm yn y rownd gyn-derfynol. Yn y gêm arall bydd Bae Colwyn yn chwarae Nant Conwy. Gemau i'w chwarae 'bnawn Llun, Mai 5ed. Bydd y gêm derfynol yn cael ei chwarae ar Llun y Banc, Mai 26ain ar gae i'w benderfyny. ***** Gêm Gynghrair i ffwrdd yn erbyn Machynlleth sydd gan Bwllheli y Sadwrn nesa'. Bydd bws yn gadael y Clwb am 11 y bore am mae croeso i gefnogwyr drafeilio gyda'r tîm.
******************** Chwefror 18fed 2008 Bydd gêm Gwpan Gogledd Cymru - rownd Go-gyn derfynol yn cael ei chwarae fore Sadwrn nesa' - gêm i ddechra' am 11.45. Trafeilio'n ol yn syth ar ol y gêm i wylio Cymru yn erbyn yr Eidal ar y sgrin fawr yn y Clwb.
Unwaith eto bydd cwrw rhad yn y Clwb yn dilyn y gêm - £2.00 y peint. Dowch i gefnogi'r Clwb a'r tîm rhyngwladol. *** Mae'r gem Gynghrair i ffwrdd yn Bethesda ohiriwyd ar 20fed o Ragfyr i gael ei chwara' rwan nos Iau Mawrth 6ed - cychwyn am 7.15. *** Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cadarnhau dyddiad i chwarae'r gêm Gynghrair yn erbyn Rhos - pnawn Sadwrn Mai 3ydd.
******************** Chwefror 15fed 2008
Mae ymgyrch ar fin cychwyn rhwng Hybu Iechyd Cymru, y Cynulliad ag URC. Y bwriad yw codi ymwybyddiaeth ymysg chwaraewyr rygbi ifanc o'r pwysigrwydd o gadw'n ffit a bwyta'n iach. Gweithgareddau wedi'u anelu at y chwaraewyr ieuengaf. Caiff Ieuenctid Pwllheli'r cyfle i gyfarfod Mike Phillips mewnwr rhyngwladol Cymru pan fydd yn ymweld a Bodegroes bnawn Sul Mawrth 2ail 2008 am 1.30. Bydd DVD "Champs or Chips" yn cael ei dangos ar y diwrnod hefyd.
********************
Chwefror 14eg 2008 Newydd dderbyn galwad ffon gan Rheadr yn dweud eu bod yn methu codi tîm i ddod i Bwllheli bnawn Sadwrn. Mae pawb yn y Clwb wedi’u siomi’n fawr ac wedi hen flino ar y ffordd mae’r Gynghrair yn cael ei rhedeg. Fedrwn ni ‘neud dim ond ymddiheuro unwaith eto i bawb oedd wedi edrych ‘mlaen i weld y tîm yn chwarae. Byddwn yn gneud popeth o fewn ein gallu fel Clwb i newid y sefyllfa. Bydd y gêm gartref nesa’n cael ei chwarae ar 22ain o Fawrth yn erbyn COBRA.
**************************** Chwefror 11eg 2008 Y gêm gartref ola’ i’r tîm chwarae oedd yng Nghwpan Gogledd Cymru ar Dachwedd 17eg 2007 yn erbyn Yr Wyddgrug. Ers y diwrnod hwnnw dim ond pedair gêm chwaraewyd.
Mae’r tîm wedi chwarae rygbi o safon hyd yma, a hynny o dan amgylchiadau anodd dros ben. Mae’r cyfnodau segur cyson wedi bod yn brawf ar ymroddiad chwaraewyr a hyfforddwyr, gyda’r tîm wedi chwarae dim ond 8 gem Gynghrair a dwy gêm Gwpan ers mis Medi. Welwn i fawr o newid hyd nes y bydd Pencampwriaeth y Chwe Gwlad wedi cwblhau.
Mae’n amlwg fod angen edrych ar y strwythur rygbi yn y Gogledd a bydd y Clwb yn ymladd er sicrhau gwelliannau ar gyfer y tymor nesa’. Dim ond dwy gêm sydd gan y tîm Ieuenctid am weddill y tymor. Go brin fod y sefyllfa hon y ffordd i feithrin a datblygu’r gêm.
Ein gwrthwynebwyr bnawn Sadwrn fydd Rheadr, ar eu hymweliad cyntaf a Phen Llyn. Fe fydd croeso cynnes iawn yn eu disgwyl. Roedd y gêm gyfatebol yn Rheadr yn gynharach yn y tymor yn ornest galed gyda chwaraewyr o’r naill ochr a’r llall yn cael eu hunain yn y gell cosb. Disgwylir yr un ymroddiad gan y ddau dîm heddiw a gobaith am gêm rygbi i’w chofio.
Edrychwn ymlaen i’ch gweld yn y Clwb bnawn Sadwrn – y gêm i gychwyn am 2.30 fel arfer. ****************************** Chwefror 5ed 2008
PENCAMPWRIAETH Y CHWE GWLAD. SADWRN CHWEFROR 9FED 2008 CYMRU v YR ALBAN CYCHWYN-2.00.
Yn dilyn llwyddiant ysgubol bnawn Sadwrn diwetha' bydd y gêm yn cael ei dangos ar y sgrin fawr eto. Dewch i gefnogi. Cwrw am £2.00 y peint a bwyd poeth yn dilyn y gêm.
********************** Chwefror 1af 2008
PENCAMPWRIAETH Y CHWE GWLAD. SADWRN CHWEFROR 2AIL 2008 LLOEGR V CYMRU Beth am ddod i gefnogi Cymru a'r Clwb . Dowch i wylio'r gêm ar y sgrin fawr. Cychwyn am 4.30 felly dowch yn fuan i gael lle. Cwrw rhad ar ôl y gêm - peintiau am £2.00 Bwyd poeth ar gael hefyd gan John Hodgson. *** Mae'r Clwb wedi methu cael Rhos i gytuno ar ddyddiad i chwarae'r gêm gartref a ohirwyd fis Rhagfyr. Fel canlyniad mae URC wedi gorchymyn Rhos chwarae'r gêm bnawn Sadwrn Mai 3ydd 2008, onibai eu bod yn fodlon trafeilio i Fodegroes i chwarae gem gyda'r nos cyn hynny. *** Mae'r ticedi ar gyfer gemau'r Bencampwriaeth yn erbyn Lloegr, Yr Alban, Iwerddon a Ffrainc i gyd wedi'u gwerthu.
****************************** Ionawr 25ain 2008 Mae'r Fflint yn methu codi tîm i chwarae yn erbyn Ieuenctid Pwllheli yfory. Ticedi gemau rhyngwladaol. Mae yna tua dwsin o dicedi'n weddill ar gyfer y gêm yn erbyn Yr Eidal a llond llaw am y gêm yn erbyn Ffrainc. Fydd yna ddim chwanneg o dicedi ar ôl i'r rhain gael eu gwerthu.
************************ Ionawr 22ain 2008 Mae gem yr ail dîm gartref yn erbyn Wrecsam wedi'i gohirio. Mae Wrecsam yn methu codi tim gan fod y gem wedi'i chadarnhau ar fur rybydd. Dechrau da i'r Gynghrair newydd!
***********************
Ionawr 20fed 2008 Yn dilyn seibiant o dair wythnos heb gêm bydd y Tîm Cyntaf yn chwarae yn y Gynghrair i ffwrdd i'r Trallwng y Sadwrn nesa. Bydd y bws yn gadael y Clwb am unarddeg y bore ac mae croeso i unrhyw un drafeilio gyda'r tîm i wylio'r gêm. Mae'r Ail Dîm wedi gorffen yn y pedwar ucha yng Nghynghrair Gwynedd ac yn awr yn symud ymlaen i Gynghrair Gor-Uchel Gogledd Cymru i Ail Dimau. Bydd pawb yn chwarae'u gilydd unwaith. Gêm gartref yn erbyn Ail Dîm Wrecsam sydd gan Bwllheli. Fe ddylai fod yn bnawn diddorol. Pa na ddowch i wylio.
************************ Rhagfyr 23ain 2007
Dymuniadau'r tymor i'n holl gefnogwyr a noddwyr, oddiwrth pwyllgor a chwaraewyr Clwb Rygbi Pwllheli. Diolch yn fawr i bawb am eich cefnogaeth drwy gydol y flwyddyn.
**********************
Rhagfyr 20fed 2007 GÊM YN ERBYN BETHESDA HENO WEDI'I GOHIRIO - CAE WEDI RHEWI.
*************************
Rhagfyr 19eg 2007 Noson Captain's Cocktails. Rhagfyr 22ain 2007 am 5.30 yr hwyr. Mae'r Clwb Rygbi wedi trefnu noson Captian's Cocktails yn y Clwb ar ôl gemau'r Ail Dîm a'r Youths pnawn Sadwrn 22ain o Ragfyr. Bydd band yn chwarae. Mynediad am ddim ond dowch ag o leiaf un potel o rhywbeth go lew fel cyfraniad. Bydd cyfraniadau'n cael eu rafflo i godi arian i'r Clwb. Cychwyn am 5.30 hyd nes y bydd yr achlysur wedi gorffen. Dowch yn llu i fwynhau'r pnawn mewn awyrgylch gyfeillgar a chroesawus. **** Mae'r gêm Gwpan yn erbyn Machynlleth gafodd ei gohirio ar y 15fed yn awr yn cael ei chwarae am 2.00 o'r gloch pnawn Sadwrn 29ain Rhagfyr yn Machynlleth. Bws yn cychwyn o'r clwb am 11.00 y bore. Croeso cynnes i bawb. **** Mae ticedi ar gyfer gemau yn erbyn yr Eidal a Ffrainc yn Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ar gael rwan. Cysylltwch â Wil Martin. Costau fydd £55 a £50.
************************
Rhagfyr 17eg 2007 Cwpan Scottish Power Gogledd Cymru Mae manylion rownd yr wyth ola o Gwpan Gogledd Cymru wedi dod i law. Caernarfon v Nant Conwy/Dinbych COBRA/Llangollen v Bae Colwyn Dolgellau v Machynlleth/Pwllheli Rhuthun v Bro Ffestiniog/Llandudno Chwaraeir y gemau hyn ar yr 2ail o Chwefror 2008 (yr un diwrnod a gêm Cymru yn erbyn Lloegr yng Nghystadleuaeth y Chwe Gwlad.) Bydd rhaid i gemau'r ail rownd gael eu chwarae cyn y diwrnod hwn.
************************* Rhagfyr 15fed 2007 Cwpan Scottish Power Gogledd Cymru Ail Rownd Clwb Rygbi Machynlleth v Clwb Rygbi Pwllheli Mae'r gêm heddiw wedi'i gohirio oherwydd fod cae Machynlleth wedi rhewi dros nos. Felly hefyd y gêm rhwng Bro Ffestiniog a Llandudno. *** DALIER SYLW. Fe fydd yna gyfle i chi brynu dillad hefo logo'r Clwb arnynt nos Fawrth nesa rhwng 6.30 a 8.30. Anrheg Nadolig i rywun arbennig! Dillad o safon am bris rhesymol.
**************************
Rhagfyr 7fed 2007 Cynghrair Cenedlaethol Adran 5 Gogledd PWYSIG - PWYSIG Dim gêm ym Modergroes yfory. Yn hwyr pnawn Gwener cafwyd cadarnhad gan Rhos nad oeddynt yn gallu codi tîm ar gyfer y gêm yfory. Mae gêm yr Ieuenctid hefyd wedi'i chanslo - Bae Colwyn yn methu codi tîm. Mae'r gêm gynghrair i ffwrdd yn erbyn Bethesda ar yr 22ain o Ragfyr wedi newid i nos Iau Rhagfyr 20fed am 7.30 yr hwyr. Bydd bws yn gadael y Clwb am 5.30 i unrhyw un sydd eisiau dod i gefnogi.
**************************** Rhagfyr 5ed 2007 Ydach chi’n dal i chwilio am anrheg 'Dolig i rywun? Fe fydd amrywiaeth o ddillad y Clwb ar werth cyn ac ar ôl y gêm yn erbyn Rhos pnawn Sadwrn nesa. Mae yna ddewis eang i siwtio pob tast. Beth am brynu rhywbeth a chefnogi’r Clwb yr un ffordd.
**********************
Tachwedd 29ain 2007 Beth am ddod i gefnogi'r tîm bnawn Sadwrn. Bws i fynd i weld y gêm yn erbyn Bro yn gadael y Clwb am 11.45.
*********************
Tachwedd 28ain 2007 Dillad y Clwb ar werth ar gyfer y Nadolig. Pob dilledyn yn cynnwys logo'r Clwb arno. Mae'r Clwb wedi bod yn ffodus i sicrhau gwasanaeth model proffesiynol i arddangos côt Kooga Isotek 2 sydd gennym ar gael.
Y gost yw £40. Mae'r hoodies yn dal yn boblogaidd ag yn gwerthu'n dda. Cynnes ac o wneuthuriad da - rhesymol iawn am £30. Mae'r hen ffefrynnau dal ar gael hefyd - crysau polo a chrysau ffurfiol am £20. Gallwch hefyd brynu teis am £10 a scarffs newydd am £7.50. Mae'r cyflenwyr wedi cadarnhau y bydd archebion hyd at Ragfyr 7fed yn cyrraedd cyn y Dolig.
******************* Tachwedd 19eg 2007 Buddugoliaeth gynhwysfawr gan y Tîm Cyntaf i guro'r Wyddgrug pencampwyr presennol Adran 4 yn rownd gynta Cwpan Scottish bnawn Sadwrn. Gwelwyd rygbi gwefreiddiol gan yr hogia a pherfformiad cyflawn. Fel y dywedodd y Cadeirydd Wil Martin, "Tydwi ddim yn cofio'r tîm yn cael cymeradwyaeth fel yna ar hanner amser ers blynyddoedd maith." I ychwanegu at y dathlu llwyddodd gweddill y timau ennill eu gemau hwy, y Tîm Ieuenctid ym Mangor a dim llai na phump o'r Timai Iau yn erbyn Llangefni. Dyma'r ail waith eleni i bawb ennill ar y penwythnos. *** Derbyniwyd cadarnhad yn hwyr neithiwr fod y gem yn erbyn Slovakia ymlaen - Mai 18fed 2008 yn Bratislava. *** Bu Robin Elias ar y ffon neithiwr ac mae mewn hwylia da iawn a chysidro ei fod yn gaeth i'w wely. Mae'n disgwyl mynd am archwiliad peledr X yn ystod yr wythnos nesaf i weld sut mae'r anaf i'w gefn yn gwella. Mae'n gobeithio bod allan o'r Ysbyty cyn y Dolig. Brysia wella Robin. ***
Hydref 29ain 2007 Y newydd anffortunus iawn yw fod Robin Elias wedi bod mewn damwain car ar y ffordd yn ôl o Bwyllgor Blynyddol Undeb Rygbi Cymru ddoe. Mae wedi cael anaf i'w asennau ac i'w gefn ac ar hyn o bryd yn derbyn triniaeth yn y Ward Orthopedig yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth. Mae'n debyg y bydd yn yr ysbyty am beth amser. Bydd Robin yn cael ei drosglwyddo i Ysbyty Orthopedig Gobowen dydd Gwener 2ail o Dachwedd. Mae dymuniadau gorau pawb yn y Clwb am wellhad buan yn mynd i Robin.
*********************
Hydref 26ain 2007
Mae’n bleser gennym fedru cadarnhau fod yr ocsiwn yn dilyn y gêm bnawn Sadwrn Hydref 20fed wedi codi dros £1200 tuag at Dy MacDonald yn Ysbyty Alder Hey, Lerpwl. Carwn fel Clwb ddiolch yn ffurfiol i bawb gyfrannodd tuag at achos mor deilwng. Diolch yn arbennig i dîm Machynlleth fu mor hael yn eu cefnogaeth. Diolch yn fawr hogia.
*******************
Hydref 24ain 2007
Newyddion siomedig ynglyn a'r gêm Gwpan Konica ddydd Sadwrn. Mae'r Clwb wedi penderfyny ar ol pendroni am hir i beidio anfon tîm i Hwlffordd. Mae yna amryw o resymau. Mae 12 o'r sgwad o 18 chwaraeodd yn erbyn Machynlleth bnawn Sadwrn diwetha yn westeion ym mhriodas Mark Saynor. Cysylltodd y Clwb a nifer o chwaraewyr eraill yn cynnwys y rheini sy'n byw yn Ne Cymru ond heb lwyddiant. Roedd amryw o'r ail dim eisoes wedi gwneud trefnaidau hanner tymor. Fe fyddai Pwllheli wedi gorfod chwarae efo un prop gan na dderbyniwyd caniatad i chwarae Billy Brittain tan yn hwyr neithiwr. Sefyllfa anffodus i bawb ond toedd y pwyllgor ddim yn barod i fynd a hogia 18 oed a di-brofiad i lawr i gael eu brifo. Byddwn yn anfon ein hymddiheuriadau i Glwb Rygbi Hwlffordd.
*********************** Hydref 22ain 2007 Cymru v De Affrica Tachwedd 24ain 2007
Mae ticedi i weld y gêm yn erbyn De Affrica ar gael rwan. Mae dyddiad cau archebu ticedi newydd ddod i law. DALIER SYLW Mae'n rhaid i chi archebu ticedi dim hwyrach na hanner dydd Dydd Gwener Hydref 26ain 2007. Cysylltwch yn uniongyrchol a Wil Martin ar 01758 61 3212 neu 0791 999 0869.
********************
Hydref 16eg 2007
Fe fydd yna groeso cynnes iawn yn aros chwaraewyr, swyddogion a chefnogwyr Clwb Rygbi Machynlleth i Barc Bodegroes bnawn Sadwrn. Cyfarfu’r ddau dîm mewn gêm gyfeillgar unwaith o’r blaen gyda Phwllheli’n gwasgu buddugoliaeth o drwch blewyn, ond hon fydd y gêm Gynghrair gyntaf rhwng y ddau dîm. Mae’n amlwg o'r gêm yn Rhaeadr yr wythnos diwethaf ein bod yn parhau i ddysgu a theimlo'n ffordd yn y Gynghrair yma, lle mae'r gofynion yn sylweddol wahanol. Yn dilyn buddugoliaeth yn ein tair gêm agoriadol rydym yn eistedd ar frig y tabl ond mae'r hogiau’n deall y bydd pob gêm yn gofyn cwestiynau newydd i ni. Fel tîm o chwaraewyr a hyfforddwyr ifanc mae angen i bawb cyd dynnu os am lwyddo ac esgyn yn ôl i Adran 4 Y Gogledd. Mae rhai ohonoch mae’n debyg yn edrych ymlaen am ffeinal Cwpan y Byd nos Sadwrn. Pa na ddowch i’w gwylio ar sgrin fawr yn y Clwb? Mae Roy Kip yn argymell eich bod yn blasu ein lager newydd o Wlad Pwyl. Yn ôl gwraig Roy mae'n cael effaith reit od ar ôl ychydig o beintiau. Yn llawer mwy pwysig rydym yn cynnal ocsiwn ar ôl y gêm i godi arian tuag at Dy MacDonald yn Ysbyty Plant Alder Hey LERPWL. Fel llawer ohonoch mae gennyf i’n bersonol le i ddiolch am eu gwasanaeth gwych yn gwarchod a thrin ein plant. Nai Tin Tin ydi'r diweddaraf o blant lleol sydd wedi cael triniaeth yno. Cafodd Rhys lawdriniaeth ar ei galon yn ystod mis Medi - ac yntau’n llai na phythefnos oed. Ar gais Tin Tin mae'r ocsiwn yn cael ei gynnal heddiw. Heddiw hefyd rydym wedi trefnu cyfarfod cyn gêm i noddwyr ac Is-Lywyddion y Clwb i ddiolch iddynt am eu cyfraniad holl bwysig. Mae'n bwysig i bawb ddeall na fuasai'r Clwb yn bodoli yn ei ffurf bresennol oni bai am eu buddsoddiad hwy. Diolch i chwi eto am gefnogi rygbi ar y Llyn.
**************************
Hydref 8fed 2007
Beth am ddod i gefnogi'r tîm cyntaf yn Rhaeadr pnawn Sadwrn. Mae'r Clwb wedi trefnu bws. Gadael Bodegroes am 10 y bore.
**************************
Hydref 4ydd 2007
Gêm i ffwrdd yn erbyn Hwlffordd, Sir Penfro sydd gan Bwllheli yn Rownd Gyntaf Cwpan Konica Minolta. Mae Hwlffordd yn chwarae yn Adran 3 Gorllewin o'r Gynghrair Genedlaethol ac ar hyn o bryd yn sefyll yn wythfed yn y tabl ar ôl curo un o'r dair gêm chwaraewyd.Chwaraeir y gêm bnawn Sadwrn Hydref 27ain 2007.
************************* Medi 28ain 2007
Mae gêm yr ail dîm i ffwrdd yn erbyn Bala yfory i ffwrdd yn anffodus - prinder dyfarnwyr!
***********************
Medi 26ain 2007
Mae'r Clwb wedi derbyn cais i godi arian ar ran Ty MacDonald, Ysbyty Plant, Alder Hey, Lerpwl. Mae plant yr ardal wedi derbyn triniaeth yno dros gyfnod maith a dyma'n cyfle ni i ddangos ein gwerthfawrogiad. Ganwyd TRYSTAN RHYS WHELDON HUGHES ar 10fed o Fedi eleni ac yn ddiweddar mae wedi derbyn llawdriniaeth ar ei galon yn yr Ysbyty, ac mae'n dod ymlaen yn dda erbyn hyn. Roedd hwn yn gyfnod hunllefus i'w deulu fel y gallwch ddychmygu. Mae'r llety yn Nhy MacDonald wedi galluogi rhieni TRYSTAN i aros gydag ef drwy Byddwn yn cynnal ocsiwn o eitemau chwaraeon yn y Clwb yn dilyn y gêm yn erbyn Machynlleth, ar 20fed o Hydref. Ymysg yr eitemau ddaw o dan y morthwyl fydd :
Os na fedrwch fod yn bresennol ar y diwrnod ac yn dymuno cyfrannu tuag at yr achos anfonwch siec wedi'i gwneud allan i CLWB RYGBI PWLLHELI os gwelwch yn dda. Diolch y fawr am eich cefnogaeth. Bydd yr holl elw'n mynd i Dy Macdonald. Dewch i gefnogi achos teilwng dros ben - rydym i gyd yn sicr o fod yn adnabod rhywun sydd wedi derbyn triniaeth yn Lerpwl. Manylion pellach oddiwrth Wil Martin ar 0791 999 08 69 neu Richard Hughes ar 0783 367 2975. Dewch i wylio ffeinal Cwpan Rygbi'r Byd ar y sgrin fawr yn dilyn yr ocsiwn. Lluniaeth ar gael.
************************
Medi 25ain 2007 Mae'r gêm gyfeillgar gartref yn erbyn Bae Colwyn bnawn Sadwrn wedi'i gohirio yn anffodus. Fe fydd y tîm Ieuenctid yn chwarae ym Modegroes yn erbyn Bethesda. Cychwyn am 1.30pm. Bydd gêm Cymru yn erbyn Fiji yng Nghwpan y Byd yn cael ei dangos ar y sgrin fawr wedyn. Bwyd a chwrw Brains ar gael.
********************* Medi 21ain 2007 Mae'r Clwb wedi penderfynu peidio teithio i'r Unol Daleithiau ar ddiwedd y tymor fel y cynlluniwyd yn wreiddiol. Yn hytrach y bwriad yn awr yw mynd are daith fyr i Slovakia a'r Weriniaeth Czech ym Mis Mai 2008 gyda'r daith bell wedi'i neilltuo am 2009. Bydd y rhaglen yn gweithio allan rhywbeth fel hyn : Hedfan i PRAGUE ag aros am 2 noson gan chwarae un gêm. Tren i HAVIROV. Aros yn OSTRAVA am dair noson. Chwarae yn erbyn HAVIROV ar Sadwrn Mai 17eg 2008. Taith tren neu fws i BRATISLAVA ag aros am 2/3 noson, Trefnaidau mewn llaw i chwarae un gêm. Rydym yn derbyn blaendal o £50 gan chwaraewyr ag aelodau'r Clwb yn awr. Os y cawn gymaint o hwyl a'r tymor diwethaf bydd hwn yn drip a hanner.
***********************
Medi 18fed 2007 Y Trallwng fydd ein gwrthwynebwyr bnawn Sadwrn a hoffwn gymryd y cyfle i ymestyn croeso cynnes i chwaraewyr, swyddogion a chefnogwyr y ddau dîm i Barc Bodegroes. Dyma’r gêm gartref gyntaf erioed yn Adran 5 Gogledd Cymru, dim y sefyllfa delfrydol, ond rhaid rwan symud ymlaen a gosod ein safon am y flwyddyn i ddod. Er nad yw’n gwrthwynebwyr heddiw wedi cael y cychwyn gorau i’w tymor mae'r Trallwng yn hen elynion a rydym yn eu parchu fel tîm peryglus. Cafwyd buddugoliaeth galonogol a sylweddol yn erbyn Bangor yn ein gêm gyntaf o’r tymor. Serch hynny nid oedd y chwaraewyr na’r hyfforddwr yn gyfangwbwl fodlon hefo rhai agweddau o’n perfformiad a byddwn yn parhau i weithio er gwella’r rhain.
Bydd y rhaglen newydd ar gael ddydd Sadwrn. Hoffwn gymryd y cyfle yma i ddiolch i’r noddwyr a’r hysbysebwyr oll am eu cyfraniad a gofyn i chwi ddefnyddio’r gwasanaethau hyn ple bynnag bosib.
***********************
Medi 9fed 2007
CWPAN Y BYD 2007 Medi 15fed am 2 o'r gloch Cymru v Awstralia Beth am ddod i wylio'r gêm ar y sgrîn fawr yn y Clwb bnawn Sadwrn nesaf ? Gêm i gychwyn am 2 o'r gloch felly dewch yn fuan i neilltuo lle. Cwrw John Smiths a Lager Fosters am £1 y peint!!!!!!!!!!!!!
***********************
Medi 6ed 2007
Bydd COWBOIS RHOS BOTWNNOG yn chwarae yng Nghlwb Rygbi Pwllheli ar nos Wener Medi 14eg 2007 i gychwyn am 8 o'r gloch. Cost mynediad fydd £5 Ticedi ar gael o'r Clwb (01758 613676), Siop Allan Gwallt neu Robin Elias (01766 810 219) Fe fydd yr holl arian yn mynd tuag at Gronfa Apel Bryan Davies, Clwb Rygbi'r Bala. Cafodd Bryan anaf difrifol i'w gefn yn ei gêm olaf i'r Clwb ar ddiwedd y tymor diwethaf. Bydd Bryan angen gofal dwys am weddill ei oes. Mae'r COWBOIS yn rhoi eu gwasanaeth yn rhad ag am ddim. Dowch i gefnogi achos haeddiannol iawn a chael noson arbennig yr un amser.
****************** Medi 5ed 2007 Mae'r tymor newydd ar fin cychwyn yn Adran 5 o Gynghrair Undeb Rygbi Cymru gyda'r tîm cyntaf i ffwrdd yn erbyn Bangor pnawn Sadwrn. Mae'r hogia ifanc yn ysu i gael cychwyn ac mae pawb yn edrych ymlaen am y penwythnos. Bydd y garfan yn cael ei chadarnhau nos Iau. Yn dilyn eu buddugoliaeth ym Mhorthmadog y Sadwrn diwetha mae'r ail dîm gartref yn erbyn ail dîm Llangefni. Mae'n dda cael Arwel Roberts yn ôl yn dilyn cyfnod gyda Chaernarfon. Sgoriodd gais yn ei gêm gyntaf gyda'i frawd Gethin yn sgorio cais a thri trosiad yn erbyn Port. Mae gêm y Tim Ieuenctid i ffwrdd yn erbyn Bae Colwyn wedi'i chanslo.
**************************
Awst 22ain 2007
Bydd sistem newydd o sgorio pwyntiau'n cael ei gyflwyno ar gyfer gemau Cynghair o Fedi'r cyntaf ymlaen. 4 pwynt am guro 2 bwynt am gêm gyfartal 1 pwynt am sgorio 4 cais neu fwy 1 pwynt am ddod o fewn 7 pwynt tra'n colli 0 pwyntiau am golli o 8 pwynt neu fwy, a methu sgorio 4+ cais Atgyfodwyd y cynllun ar ol cyfnod o 7/8 mlynedd er ceisio annog timau i gwrsio ceisiau a gwneud y gêm yn fwy diddorol a phleserus i chwaraewyr a chefnogwyr.
Mae'r Adran Iau am gychwyn tim o dan 7 oed am y tro cyntaf. Cysylltwch a'r Clwb am fwy o fanylion.
Mae postiau rygbi'r tîm cyntaf yn y broses o gael eu peintio am y tro cyntaf ers saith mlynedd. Mae'r gwaith wedi bod yn bosibl diolch i haelioni EasiLift - rhif ffon 0800 180 4282 - roddodd fenthyg y craen ac i D.W.Hughes - Paentwyr ac Addurnwyr - ffon 07828 186 555 am y gwaith peintio. Rydym yn ddyledus iawn i Erhard Nierada a Dafydd Hughes am eu cefnogaeth.
********************
Awst 14eg 2007
Newyddion calonogol iawn am Elgan Rees Jones yn dilyn y ddamwain bythefnos yn ôl. Mae Elgan wedi cael dod adref o'r Ysbyty ers dydd Gwener. Bydd yn gorfod gwisgo body cast am rai wythnosau i ddod ond mae'n gallu symyd o gwmpas. Mae hwyliau da arno a mae'n siwr y byddai'n falch clywed gennych. 'Crushed Vertebrae' oedd yr anaf ond disgwylir na wnaiff amharu ar ei fywyd mewn unrhyw ffordd. Ticedi Sioe Bara Caws ar gael rwan yn Siop Alan Gwallt a Llên Llýn a rhai ar gyfer gig COWBOIS RHOS BOTWNNOG ar werth ddiwedd yr wythnos. Gêm Cymry yn erbyn Yr Ariannin ar y sgrin fawr yn y Clwb bnawn Sadwrn. Bwyd ar gael. Dewch i gefnogi.
*************************
Awst 4ydd 2007 Gohiriwyd Cinio Blynyddol a Noson Wobrwyo'r Clwb tan neithiwr oherwydd y daith i Wlad Pwyl a'r Weriniaeth Czech yn gynharach yn y flwyddyn, ond roedd hi'n werth y disgwyl. Roedd y lle yn orlawn - dim sêt wag yn unman a phawb wedi mwyhau eu hunain yn fawr. Diolch i John am y bwyd bendigedig yn ôl yr arfer ac i'r gwr gwadd, Dilwyn Morgan o'r Bala am ein diddanu. Dyfarnwyd gwobrau i'r chwaraewyr fel yma : Chwaraewr y flwyddyn i'r tîm cyntaf - Meilir Hughes Chwaraewr y flwyddyn i'r ail dîm - Tom Meyerratken Chwaraewr Ieuenctid gorau - Ifan "Post" Chwaraewr a ddangosodd mwyaf o gynnydd - Matthew Hicks Cyflwynwyd gwobr arbennig fel arwydd o werthfawrogiad, i Robin Elias yn dilyn ei ymddiswyddiad fel rheolwr y tîm cyntaf ar ôl cyfnod o ddeng mlynedd. "Mentioned in dispatches" oedd Dilwyn Jones am ei ymroddiad a'i amynedd yn ystod y daith. Casglwyd yn agos i £1000 tuag at Gronfa Apêl Bryan Davies, Clwb Rygbi'r Bala, anafwyd yn ddifrifol ar ddiwedd y tymor diwethaf. Diolch i bawb am eu cyfraniadau hael. Mae'n amlwg fod pawb yn tynnu hefo'i gilydd ac mae pethau'n argoeli'n dda am y tymor nesaf os yw'r ymroddiad sy'n cael ei ddangos o fewn y Clwb yn unrhyw fesur o bethau i ddod.
************
Awst 1af 2007 Anafwyd Elgan Rees Jones yn ystod y sessiwn ymarfer neithiwr, nos Fawrth 31ain. Mewn digwyddiad hollol ddamweiniol, trawodd dau chwaraewr yn erbyn eu gilydd a disgynnodd Elgan gan anafu "gwaelod ei gefn". Cludwyd ef gan y paramedics i Ysbyty Gwynedd. Mae ein dymuniadau gorau am wellhad buan yn mynd i Elgan yn naturiol. **** Mae'n bwysig iawn i chi gadw drysau ar glo a'ch merched yn saff - mae Alan Hodgson, yr ieuengaf a'r mwyaf chwareus o'r brodyr ar ei ffordd gartref, a hyn ar ôl cyfnod hir a dymunol o bum mlynedd!! Wrth lwc tydio ddim ond adref am ychydig wythnosau, ond mi fyddai'n ddoeth i chi gysidro mynd am wylia am y cyfnod yma??? Er yn eithaf anhebyg, petae unrhywun yn teimlo'r ysfa i'w groesawu adref mae Alan wedi trefnu parti bach - un bach iawn - yn y Clwb nos Wener Awst 10fed. Bydd Curry ar gael - er mai ei dad fydd yn talu amdano reit siwr. Gadawn i chi wybod pan y bydd hi'n saff i chi ddod allan eto, wedi i Alan ddychwelyd i Aspen Colorado!!!!!!!
************* Gorffennaf 28ain 2007 Mae Pwllheli wedi derbyn bei yn round rhagarweiniol Cwpan Konica Minolta sydd wedi'i rhaglennu ar gyfer pnawn Sadwrn Medi 29ain 2007.
*********************** Gorffennaf 12fed 2007
Tîm Rygbi Merched Iau.
Yn dilyn bwlch o rai blynyddoedd rydym mewn sefyllfa yn awr i gynnig offer, cyfleusterau ymarfer, adnoddau hyfforddi a chefnogaeth i rygbi merched Iau o fewn y Clwb. Bydd ymarferiadau'n cychwyn nos Iau, Medi 13eg am 6 yr hwyr. Wyn Isaac fydd yn gyfrifol am y sessiynnau cychwynol cyn i'r Clwb gymryd drosodd yr awennau gyda hyfforddwyr eu hunain. Y bwriad yw adeiladu ar sylfaeini ardderchog sefydlwyd yn Ysgol Botwnnog eisoes. Mae croeso i unrhyw o dalgylch Llyn ag Eifionydd i ymuno sydd o fewn oedran Ysgolion Uwchradd. Cysylltwch a Wil Martin am fwy o fanylion drwy adran 'Cysylltu' y safle hon.
**********************
Gorffennaf 11eg 2007 Penderfynnodd y pwyllgor neithiwr, er yn anfodlon, dderbyn ymddiswyddiad Robin Elias fel Rheolwr y Tîm Cyntaf. Bu Robin yn y swydd ers 10 mlynedd gan gyfrannu'n sylweddol tuag at datblygiad y Clwb yn ystod y cyfnod yma. Bydd yn cario 'mlaen â'i waith gyda thimau iau y Clwb. Bydd hefyd yn parhau fel Ysgrifennydd y Clwb Chwaraeon ac Ysgrifennydd Cynorthwyol Clwb Rygbi Pwllheli. Mae'r Clwb yn ddyledus iawn ac yn ddiolchgar i Robin am ei ymroddiad a'r modd trylwyr yr aeth o gwmpas y gwaith. Tra'n derbyn yr ymddiswyddiad mae'r Clwb wedi penodi Brian Jones i'r rôl bwysig hon.
***************************
Gorffennaf 8fed 2007
****************************
Gorffennaf 2ail 2007 Medi 4ydd, 5ed a'r 6ed 2007 Clwb Chwaraeon Pwllheli Bodegroes, Efailnewydd
Theatr Bara Caws yn cyflwyno cynhyrchiad newydd
caffi basra Ticedi ar gael yn Siop Alan Gwallt a Llên Llýn £6 y ticed Brysiwch cyn iddynt werthu allan.
***************************
Mehefin 23ain 2007
Treuliodd aelodau'r Clwb y bore'n plannu coed o amgylch perimedr maes chwarae'r tîm cyntaf. Roedd yna ambell lecyn moel yn amlwg ers colli'r lledaeniad nodedig o lwyfain rai blynyddoedd yn ôl. Plannwyd cymysgedd o fedw arian, criafolen a choed ceirios. Rydym yn ddiolchgar tu hwnt i Feithrinfa Tyddyn Sachau, Y Ffôr am y rhodd o'r coed fel rhan o'u cefnogaeth i'r Clwb. Mae angen mwy o waith eto ond bydd y rhan gyntaf yma yn saff o greu edrychaid weledol bositif o fwynderau Parc Bodegroes.
************************************* Mehefin 20fed 2007
Tîm Rygbi Merched Iau.
Mae'r Clwb yn awyddus iawn i sefydlu tîm rygbi merched Iau ar gyfer dechrau tymor 2007/08. Mae'n amlwg fod yna gryn ddiddordeb yn y cylch am fenter o'r fath. Gallwn drefnu popeth ar eich cyfer; cyfleusterau, meysydd chwarae, ystafelloedd newid, crysau, cyfarpar a.y. Ond mae angen hyfforddwr wedi'i gymhwyso arnom. Unrhyw un a diddordeb mewn cymeryd drosodd yr awennau? Cysylltwch i gychwyn gyda'r Prif Hyfforddwr - David Martin - 07833 536 301.
******************************* Mehefin 19eg 2007
CWRS CYMORTH CYNTAF. Byddwn yn trefnu Cwrs Cymorth Cyntaf yn y dyfodol agos ar yr amod y dangosir digon o ddiddordeb. Cysylltwch â'r Clwb am fanylion.
**************************** Mehefin 17eg 2007
Sesiwn ymarfer yn y Clwb Pnawn Sadwrn Mehefin 16eg. Cliciwch ar y llun.
|
|||||||||||||||||||||||||||||