![]() |
Newyddion Tymor 2009-2010 |
||
|
Mai 9,2010. TAITH Y CLWB 2010. Mae criw yr hogia yn hedfan i'r Weriniaith Siec bore Dydd Mawrth nesaf .Byddent yn chwarae dwy gem -un yn Ogledd y Weiriniaith yn ddinas Havirov a'r llall yn Katowice yn ngwlad Pwyl.Cymysgiad o chwaraewyr ,cefnogwyr a swyddogion sy'n trafeilio ac yn edrych ymlaen i gyfarfod hefo heno ffrindiau sef Pavel Indrak a Radim Fajkus -cyn chwaraewyr i'r clwb. LLuniau a hanes i ddod. Ebrill 29,2010. CWPAN GOGLEDD CYMRU Bydd bws cefnogwyr yn gadael y Maes am 1.00.Croeso i bawb.Dowch i gefnogi. Ebrill 9,2010. CYMRU v DE AFFRICA MEHEFIN 5,2010. Mae'r Undeb Rygbi Cymru wedi ymestyn y cyfle i brynu ticedi drwy'r Clwb hyd at Dydd Sul-Ebrill 11.Bydd pob ticed yr ydych yn archebu yn fanteisiol i'r Clwb drwy sustem "cashback" yr Undeb.Cysylltwch hefo Bryn neu Wil.Manylion ffon ag ati ar yr adran "Cysylltu" isod. Ebrill 7,2010. Fe oedd yr hogia yn fuddugol heno wrth guro Dolgellau o 20-10 i fynd drwodd i ffeinal Cwpan Gogledd Cymru. Ebrill 5,2010. Cadarnhad fod ein tim cyntaf yn chwarae yn erbyn Dolgellau ar Nos Fercher Ebrill 7,2010.Cychwyn am 7.30.Mae hon yn gem pwysig i'r hogia hefo lle yn ffeinal Cwpan Gogledd Cymru ar gael i'r ennillwyr.Dowch i gefnogi.
Mawrth 30,2010. CYMRU v DE AFFRICA MEHEFIN 5,2010. Mae ticedi am y gem uchod ar gael rwan gan y Clwb.Fe fedrwch brynu faint fynwch o dicedi ar hyn o bryd.Yr unig amod ydi fod eich arched yn yn cyrraedd erbyn LLun Ebrill 5,2010.Diolch. Mawrth 15,2010. Mae gan y clwb pedwar ticed ar gael i Cymru v Yr Eidal. Ffoniwch 0791 999 0869 am fwy o wybodaeth neu i brynu. WEDI GWERTHU Mawrth 11,2010. Cofiwch am y gem NOS IAU yn y Clwb.Cychwyn am 7.30 o dan llifoleuadau.Ail rownd Cwpan Gogledd Cymru yn erbyn Rhuthun.Rhuthun yn curo eu gem cartref o 15-13.Gofyn i'r hogia felly curo o fwy na thri pwynt heno.Dowch i gefnogi. Ionawr 27, 2010 Beth am roi cynnig ar rhywbeth gwahanol yn 2010? Ar y 7fed o Fawrth bydd Triathlon cyntaf Pwllheli yn cael ei gynnal, cyfle i ymarfer y corff, cwrdd gyda pobl newydd a mwynhau ar yr un pryd. Ewch amdani! Triathlon-Pwllheli.com Ionawr 21,2010. Ionawr 15,2010. Mae'r gemau i ffwrdd i Bro Ffestiniog ac i Dolgellau wedi eu ohirio heddiw. Mae gem Ieuenctid Bangor yn Modegroes eisioes wedi eui ohirio-Bangor methu codi tim. Ionawr 05,2010 Bydd manylion am tocynnau gemau y Chwe Gwlad ar gael yn fuan iawn. Cofiwch gadw llygaid ar y wefan a thudalen Ticedi a Teithiau. NADOLIG LLAWEN A BLWYDDYN NEWYDD DDA I BAWB. Rhagfyr 22,2009. Dowch i'r Clwb pnawn Dydd Sul i gefnogi'ch tim.Bydd Cyngweri Pwllheli yn chwarae yn erbyn Cyngweri Botwnnog.Y gem yn cychwyn am 1.00 o'r gloch.Tlws Balchder Brwydr LLyn i'r ennillwyr.Mynediad am ddim. Rhagfyr 16,2009. Dowch i gefnogi hogia'r ail dim yn Modegroes Dydd Sadwrn .Bala ydi'r gwrthwynebwyr a nhw ydi'r unig dim sydd wedi curo Pwllheli yn Nghyngrair Gwynedd y tymor yma.Gem yn cychwyn am 2.30 a mynediad yn rhad ac am ddim.
Tachwedd 23, 2009.
Hydref 28,2009. Mae'r ail dim i ffwrdd i Borth Dydd Sadwrn am gem gyfeilgar. Hydref 23,2009 Mae'r gemau yr ail dim wedi newid am y penwythnos yma.Mae gem Llangoed wedi ei ohirio ar eu cais hwy a mae'r hogia rwan yn chwarae gartref yn erbyn ail dim Bro Ffestiniog.Cychwyn am 2.30 yn Modegroes. WEDI GWERTHU Hydref 15,2009. Mae 2 tocyn gem yr Ariannin ar gael.Cost £50 y ticed.Cysylltwch yn uniongyrchol hefo Eifion Griffiths os oes diddordeb gennych.Rhif symudol ydi-07900283778. Hydref 11,2009 Hydref 8 ,2009 Yr ydym wedi llwyddo cael ychydig o dicedi ychwanegol i gemau Seland Newydd ac Awstralia.Fydd rhain ar gael yn y dyddiau nesaf. Medi 18,2009 Awst 28,2009 Awst 19,2009 Mehefin 14,2009 Bydd hyfforddiant oedolion yn cychwyn ar Nos Fawrth 14 Gorffennaf.Cychwyn am 7.00.Croeso i bawb. Mae'r clwb wedi trefnu gem yn erbyb Rygbi Wallasey fel rhan o'r paratoi am y tymor.Bydd yn gem yn cael ei chynnal yn Walasey yn Mis Awst.Fwy o fanylion yn fuan. Mehefin 10,2009 Mai 23ain 2009 Bydd gwybodaeth gynhwysfawr ar gael ar Daith y Llewod 2009 yn Ne Affrica, gydag uchafbwyntiau o holl gemau’r daith i’w weld ar y Sianel. Bydd hefyd y diweddaraf o Daith Cymru i Ogledd America ar gael. Darlledir uchafbwyntiau o gêm Canada v Cymru ar nos Sul, 31 Mai am 6.30pm, a gornest UDA v Cymru yn fyw dim ond ar S4C ar nos Sadwrn, 6 Mehefin, 6.30pm. Yn ogystal, bydd ddrama-ddogfen yn cael ei ddarlledu ar nos Sul, 31 Mai am 9.00pm am fywyd cythryblus a marwolaeth gynnar hyfforddwr rygbi buddugoliaethus y Llewod, Carwyn James. Ar gyfer y tymor nesaf, bydd manylion am y Gynghrair Magners, y Cwpan Heineken ac Uwch Gynghrair Principality i gyd ar gael ar y wefan – s4c.co.uk/rygbi. Arlwy rygbi S4C: 30 Mai – Rygbi: Llewod 09 – Royal XV v Llewod (9.00pm) uchafbwyntiau 31 Mai – Canada v Cymru (6.30pm) Uchafbwyntiau 31 Mai – Carwyn (9.00pm) 3 Mehefin – Rygbi: Llewod 09 – Golden Lions v Llewod (10.00pm) Uchafbwyntiau 6 Mehefin – UDA v Cymru (6.30pm) YN FYW DIM OND AR S4C Cliciwch ar y linc yma - www.s4c.co.uk/rygbi/ Mai 6ed 2009 Cymerodd David drosodd dwy flynedd yn ôl, wedi’r Clwb ddisgyn i beth oedd ar y pryd yn Adran 5 Gogledd o’r Gynghrair. Gwnaed y golled statws gymaint a hynny'n waeth wrth i ddim llai na naw o chwaraewyr hyn y Clwb roi gorau i chwarae ar yr un pryd. Mae’r newidiadau dros y cyfnod yma wedi bod yn sylweddol felly. Llwyddwyd fodd bynnag i ennill dyrchafiad i Adran 1 Gogledd ar y cynnig cyntaf ond gorfu wynebu cyfnodau anodd yn ystod y naw mis diwethaf. Er i’r tymor ddechrau’r tymor yn ddigon addawol mae safon y chwarae wedi disgyn i ffwrdd yn ystod y misoedd olaf. Mae’r chwe gêm olaf yn arwain tuag at ddiwedd y tymor wedi gweld y tîm yn chwarae gyda charfan ifanc dros ben gyda dim ond dau neu dri chwaraewr dros bump ar hugain oed yn y tîm. Mae penderfyniad yr hyfforddwr i beidio a chael presenoldeb tramor am y tro cyntaf ers rhai blynyddoedd wedi rhoi cyfle i chwaraewyr ifanc ddatblygu a gwelir hyn yn lwyddiant. Er nad yw perfformiadau wedi cyrraedd y lefel a obeithiwyd mae briff David o gadw’r tîm yn Adran 1 wedi llwyddo. Yn ogystal cafwyd rhediad werth chweil yng Nghystadleuaeth Plât SWALEC. Hoffai’r Clwb gymryd y cyfle hwn i ddiolch i David am ei ymdrech, sydd wedi sicrhau sylfeini cadarn i’r Clwb tuag at y dyfodol. Y gobaith rwan ydi y bydd pawb sy’n ymwneud â’r Clwb yn tynnu gyda’i gilydd ac yn rhoi y cymorth haeddiannol i’r hyfforddwr newydd pan wneir y penodiad. |
|||