![]() |
Newyddion Tymor 2010-2011. |
||
|
TYMOR 2010-2011. Mai 25,2011. DAVID ANTHONY REES ROBERTS. Mae'r clwb yn drist iawn o glywed am farwolaeth David Roberts -neu Dafydd Bodlew fel oedd pawb yn ei adnabod. Bu farw yn ei gartref ar Ddydd Lun Mai 23 yn 67 oed. Fe oedd Dafydd wedi bod yn weithgar iawn fel aelod o Bwyllgor y Clwb Chwaraeon yn ogystal a'i waith pwysig dros rhai blynyddoedd hefo tim ieuenctid Clwb Rygbi Pwllheli. Yr ydym yn cydyndeimlo yn fawr hefo'o wraig ,Gill,ei ferch Mia, ei fab Trevor a'r teulu. ______________________________________________________ Mai 21,2011. CWPAN IEUENCTID GOGLEDD CYMRU-GEM CYN DERFYNOL. Collwyd i gem pnawn heddiw yn erbyn Rhyl o 9 - 6. __________________________________________________________________ Mai 19,2011 CWPAN IEUENCTID GOGLEDD CYMRU. Gan nad oedd y cae yn Modegroes ar gael mae'r tim ieuenctid wedi symud y gem i Nant Conwy.Doedd Y Rhyl ddim yn fodlon derbyn y cynnig o cychwyn y gem yn gynt ar y Dydd Sadwrn na symud y gem i nos Wener neu Dydd Sul. Pob lwc i'r hogia. __________________________________________________________________________ Mai 14,2011. CWPAN GOGLEDD CYMRU Nant wedi curo'r Gwpan a'r Wyddgrug y Plat. _________________________________________________________________________ Mai 13,2011. FFEINAL CWPAN HEINEKEN. Mae gan aelod o'r Clwb 3 tocyn i'r gem uchod.Cost £70 yr un. Cysylltwch a Wil Martin i brynu. _________________________________________________________________ Mai 10,2011. CWPAN GOGLEDD CYMRU-TIM IEUENCTID. Mae 'r tim drwodd i'r rownd Cyn Derfynol o'r Cwpan.Ein gwrthwynebwyr yn Mhwllheli fydd Y Rhyl.Dyddiad ddim wedi ei benderfynu. TIMAU DAN 9 A 12. CWPAN ERYRI . Mae'r ddau dim wedi llwyddo curo Cwpan Eryri yn eu hoedran penodol. Canlyniad gwych a llongyfarchiadau i holl chwaraewyr ,hyfforddwyr a'r rhieni sydd wedi bod yn gweithio hefo'r hogia. ______________________________________________________________________ Mai 8,2011. Y DYFODOL. Yn dilyn llwyddiant yr hogia yn Ffestiniog pnawn ddoe hoffai'r clwb ddiolch i'r holl chwaraewyr a'n cefnogwyr ffyddlon am eu cefnogaeth dros y tymor anodd yma.Clod arbennig i Richard Hughes am ei waith caled wrth hyfforddi a pigo'r tim dros yr wythnosau diweddar. Fe fydd trefniadau am tynor nesaf yn cychwyn yn syth a fydd a Clwb yn benderfynol i ddysgu o'n cangymeriadau y tymor hwn. ______________________________________________________________________
Ebrill 30,2011. GEMAU HEDDIW. Newyddion da i'r hogia wrth i sgwad newydd olwg Bae Colwyn colli yn Y Wyddgrug o 17-9. Ni chafon pwynt bonws ychwaith. Newyddion gwych o Nant Conwy wrth i'n Tim Ieuenctid curo o 31-28 yn chwarteri Cwpan Ieuenctid Gogledd Cymru.Yn bryderus fe cafywd tri o'r tim eu hanafu ary cae caled.Dymunidau da i'r tri wella yn fuan. _____________________________________________________________________ Ebrill 28,2011. GEMAU TIM CYNTAF. 2 gem yn weddill.Y ddau i ffwrdd. Nant Conwy-Nos Fercher-4 Mai-Cychwyn am 7.30. Bro Ffestiniog-Sadwrn-7 Mai-Cychwyn am 2.30. ______________________________________________________________________
Ebrill 22,2011. GEMAU'R PENWYTHNOS. Gem arall pwysig i'r hogia yfory yn Methesda.Bws yn gadael Bodegroes am hanner dydd. Croeso i gefnogwyr. Mae'r ail dim hefo gem fawr hefyd yn y rownd cyn derfynol o Cwpan Gwynedd. Caernarfon ydi'r ymwelwyr. ________________________________________________________________ Ebrill 15,2011. NEWYDDION SIOMEDIG . Yn anffodus mae Bethesda wedi tynu allan o'r gem Cwpan yfory-methu codi tim. Hefyd ni fydd S4C yn ffilmio yn y clwb yfory.Gan fod trefniadau eraill wedi cael eu gwneud gan Clwb Chwaraeon am hwyrach y nos doedd ddim ddigon o amser i S4C cwblhau y cwis a.y.b. Biti mawr. __________________________________________________________________
Ebrill 12,2011. SADWRN 16 EBRILL,2011. Mae'r Wyddgrug yn ymweld a Bodegroes yn gem olaf gartref i'r Tim Cyntaf Dydd Sadwrn. Er ymdrechion yr hogia yn Llangefni yr ydym yn parhau ar waelod y Cynghrair .Mae gan Bae Colwyn un deg chwech o bwyntiau a ninnau hefo pedwar ar ddeg.Hefo pedwar gem yr un i fynd mae'r sefyllfa yn agos a fydd rhaid cael buddigoliaeth o rhywle.Mae'n ymwelwyr yn wastad yn dim anodd i guro ond mae'r gallu o fewn y sgwad i ennill Dydd Sadwrn. ________________________________________________________________________ Ebrill 8,2011. Llangefni v Pwllheli Mae tim gyntaf ac ail dim Pwllheli yn chwarae i ffwrdd yn Llangefni yfory.Gemau yn cychwyn am 2.30. Fe fydd bws y timau yn y Clwb am 11.15. Croeso i gefnogwyr. _____________________________________________________________________ Mawrth 22,2011. Pwllheli 2 v Caergybi. Mae'r ail dim yn chwarae gem Cwpan Gwynedd dan oleuadau yn Methesda nos fory-Mercher. Gem yn cychwyn am 7.30. ____________________________________________________________________________ Mawrth 17,2011. Pwllheli v Lllangefni. Cofiwch fod gem pwysig yn Modegroes Dydd Sadwrn.Cychwyn am 2.30. Gemau Iwerddon/Lloegr a Ffrainc/Cymru ar y sgrin fawr wedyn. ___________________________________________________________________ Mawrth 14,2011. OFFER HYFFORDDI. Hoffai'r Clwb ddiolch i'r Undeb Rygbi Cymru am eu rhodd o offer hyfforddi i chwaraewyr y clwb. Mae'r rhodd yn un sylweddol hefo gwerth o rhai filoedd o bunoedd.Yr ochr iau sydd wedi elwa fwyaf o dan y cynllun i wella safonnau sgiliau o fewn clybiau Cymru. Diolch yn fawr. ___________________________________________________________________
Chwefror 26,2011. CWPAN GOGLEDD CYMRU. C.R.PWLLHELI 13 C.R. Y WYDDGRUG 10 Canlyniad gwych i'r Tim Ieuenctid wrth iddynt guro Y Wyddgrug yn Nghwpan Gogledd Cymru ar faes Bodegroes. __________________________________________________________________
Chwefror 24,2011. Pwllheli dan 19 v Y Wyddgrug dan 19 . Cofiwch fod y gem yma ymlaen yn y clwb Dydd Sadwrn.Cychwyn am 12.45 i'r hogia cael gweld gem Cymru a'r Eidal yn y Clwb. Gem Cymru ar y sgrin fawr -cychwyn am 2.30. _______________________________________________________________________
Chwefror 5,2011. Bro wedi gohirio's gem heddiw-cae dan dwr. ___________________________________________________________________ Chwefror 4,2011. BRO FESTINIOG v PWLLHELI. Cadarnhad fod gem Cynghrair yn erbyn Bro ymlaen yfory am 2.30. ______________________________________________________________________
Chwefror 1,2011. TICEDI CYMRU v LLOEGR Mae gan Bryn par o Dicedi spar i'r gem Nos Wener.Cysylltwch a fo i brynu. WEDI GWERTHU. WEDI GWERTHU. ________________________________________________________________________
Ionawr 29,2011. GEMAU HEDDIW WEDI EU GOHIRIO. ____________________________________________________________________ Ionawr 25,2011. CYMRU v IWERDDON. TICEDI A GWESTY. Mae gan aelod o'r clwb 2 x ystafell gwely a brecwast mewn gwesty canolog pedwar seren yn nghanol Caerdydd hefo TICEDI i'r gem. Pris £225 y person. Bydd y cynnig ar gael am amser byr yn unig. WEDI GWERTHU - WEDI GWERTHU - WEDI GWERTHU. __________________________________________________________________________ Ionawr 22,2011 RAFFL FAWR. Ennillydd y RAFFL FWAR oedd Mr.Harold Roberts. ____________________________________________________________________
Ionawr,2011. GEM WEDI OHIRIO. Mae gem ffwrdd heddiw wedi ei ohirio.Cae Nant dan dwr. ______________________________________________________________________ Ionawr 11,2011. RAFFL FAWR BLYNYDDOL Fe fydd yr ennillydd yn cael eu dynu o het yn y clwb ar Sadwrn 22 Ionawr am 5.15. Cofiwch fod y wobr yn un sylweddol sef 2 diced i gem Cymru yn erbyn Lloegr yn ogystal a gwesty 4 seren i ddau yn nghanol Garedydd. Ticedi raffl yn parhau ar werth tan 22 Ionawr. ENNILLWYD Y RAFFL GAN HAROLD ROBERTS. ______________________________________________________________
Ionawr 4,2011. GEM SADWRN 8 IONAWR,2011. Cernarfon fydd ein gwrthwynebwyr yn Modegroes Dydd Sadwrn.Gan fod gemau Swalec yn cymeryd blaenoriaeth fydd rhaid chwarae gem Y Wyddgrug rhyw ben yn y dyfodol. Cychwyn am 2.15. _______________________________________________________
28 Rhagfyr,2010. GEM SWALEC GEM WEDI OHORIO-DIM DWR. _______________________________________________________________ 27 Rhagfyr. GEM YMLAEN YFORY. Mae gem Swalec yn erbyn Caernarfon wedi ei chadarnhau am 2.30 pnawn yfory.
____________________________________________________________________
26 Rhagffyr. GEM SWALEC. Bydd archwiliad o'r cae yfory. ___________________________________________________________ 21 Rhagfyr,2010. PWLLHELI V CAERNARFON SWALEC. Bydd y gem yma yn cael ei chwarae yn Modegroes am 2.30 Dydd Mawrth ,28 Rhagfyr. ______________________________________________________________ 20 Rhagfyr 2010. RAFFL FAWR Y CLWB. Cofiwch fod dyddiad cau -Ionawr 8-yn nesau.Gwobrau gwych yn cynnwys 2 diced i gem Cymru a Lloegr ar Chwefror 4 ,2011 yn ogystal a gwesty 4 seren i ddau yn nghanol Caerdydd. Cefnogwch y Clwb. NI FYDD UNRHYW HYFFORDDIANT YN MODEGROES NOS FAWRTH, 21,RHAGFYR. _______________________________________________________________ 17 Rhagfyr,2010. GEMAU SADWRN. Yn anffodus bydd rhaid ohirio'r ddwy gem yn Moedegroes yfory-Sadwrn. Bydd ymdrechion i sicrhau fod y gem Swalec yn erbyn Caernarfon yn cael ei chwarae mor fuan a phosib. _____________________________________________________________ Rhagfyr 17,2010. HYFFORDDIANT NOS FAWRTH. Bydd y sesiwn yn cael ei gynnal yn Neuadd Chwaraeon y Warren.Cychwyn am saith.Mae'r hyfforddwyr wedi gofyn i chwaraewyr fynd a dillad nofio hefo nhw!! ___________________________________________________________________ Rhagfyr 16,2010. Hyfforddiant Nos Iau Yn anffodus fe doedd gan hyfforddywr dim dewis ond i ohirio hyffordddiant yn Modegroes heno.Fe oedd y ddau cae wedi rhewi. GEMAU SADWRN. Bydd penderfyniad yn cael ei wneud yfory os fydd hi'n bosib mynd ymlaen hefo'r gemau yn erbyn Caernarfon a'r Tim Ieuenctid yn erbyn y Wyddgrug Dydd Sadwrn. ____________________________________________________________________ Rhagfyr 10,2010. GEM SWALEC DYDD SADWRN. Yn dilyn asesiad o'r cae yn hwyr pnawn heddiw penderfynwyd ohirio gem fory yn erbyn Caernarfon.Er fod gwellliant wedi bod yn nghyflwr y cae fe oedd darnau o'r maes yn parhau wedi rhewi'n galed.Gobeithir fod medru ail drefnu'r gem yn fuan. Mae gem Iau yn erbyn Eryri heno hefyd wedi ei ohorio. ______________________________________________________________________
Rhagfyr 8,2010. HYFFORDDIANT NOS IAU. Bydd hyfforddiant i'r oedolion a thim Ieuenctid ar 9 Rhagfyr yn Nghanolfan Chwarae Y Warren, Abersoch.Cychwyn am 7.00 a gorffen am 9.00. Hoffai'r Clwb ddiolch i Haulfryn am eu parodwydd i rhoi'r neuadd ar gael ar fur rhubudd. _______________________________________________________________
Rhagfyr 7,2010. HYFFORDDI. Doedd ddim hyfforddiant yn y Clwb o gwbl neithiwr.Caeau wedi rhewi yn galed. ______________________________________________________________________
Rhagfyr 3,2010. GEM BETHESDA. Mae gem dydd Sadwrn wedi ei ohirio. _____________________________________________________________________ Rhagfyr 2,2010. GEMAU SADWRN. Mae gem yr ail dim i ffwrdd i Gaernarfon wedi ei ohirio. Mae'r Gem Ieuenctid i ffwrdd i Fflint wedi ei ohirio. Bydd Bethesda yn edrych ar eu cae pnawn Gwener cyn gwneud penderfyniad am gem Tim Gyntaf Dydd Sadwrn. HYFFORDDI NOS IAU. Mae hyfforddi heno wedi ei ganslo. Yr ydym yn gobeithio cael gwybod heno os ydi'r gem Bethesda am fynd ymlaen Dydd Sadwrn. __________________________________________________________________ 30 Tachwedd,2010. HYFFORDDIANT. Mae hyfforddiant heno wedi ei ohirio i pob oedran. Bydd penderfyniad am Nos Iau yn cael ei wneud mor fuan a phosib. ____________________________________________________________________ 27 Tachwedd,2010. Y Maes Parcio Newydd . Braf iawn ydi adrodd fod gwaith ar y maes parcio wedi ei gwblhau.Cwmni lleol- S.J.Williams , Edern,wnaeth y gwaith .Fe gofiwch fod gwyneb y maes parcio yn llawn tyllau ac yn y gaeaf yn arbennig diflas iawn oedd cyrraedd trwy'r mwd a'r dwr. Mae'r sustem giat electronig yn gweithio yn effeithiol i rheoli camddefnydd o'r maes parcio preifat yma.Am fwy o wybodaeth o sut i drefnu mynediad i'r maes parcio cysylltwch a'r clwb. Yn amlwg mae defnydd y maes parcio mor uchel ar adegau-ac yn arbenniog ar Nos Fawrth-fod camau pellau eu hangen.Bydd rhaid cychwyn hefo'r defnyddwyr yn dilyn y patrwm parcio sydd wedi ei osod yn glir.Fe fydd y clwb yn atgoffa ein defnyddwyr o hyn ar bapur yn y dyfodol buan. Mae angen goleuadau ar ochr y llwybr newydd a mae ymchwiliadau yn digwydd i weld sut y medran ariannu hyn.Yn y cyfamser mae cyfrifoldeb ar bawb i fod yn wyliadwrus wrth ddefnyddio'r adnodd yma.
Er fod y clwb wedi gwario swm sylweddol ni fyddai'r cynllun wedi bod yn bosib heb gefnogaeth ariannol y Communities Facilities and Activities Programme . Hoffwn ddiolch hefyd i Alys LLoyd Jones o Gyngor Gwynedd am ei holl waith yn ystod y broses o ddenu arian at y cynllun. _____________________________________________________________________ Tachwedd 26,2010. PWLLHELI 2 v LLANGEFNI 2. NOS WENER. Bydd y gem Cynghrair Gwynedd yma yn cael ei chwarae heno o dan llifoleuadau . Cychywn am 7.15. _____________________________________________________________________ Tachwedd 19,2010. COBRA-Cwpan Gogledd Cymru. Bydd y bws yn gadael y clwb am 10.45.Croeso i gefnogwyr. Mae'r ail dim i ffwrdd i Dolgellau. __________________________________________________________________________
Tachwedd 17,2010. TICEDI SELAND NEWYDD. Mae gan y clwb 3 ticed ar gael- 2 hefo'i gilydd-Ticedi £65.GWERTHWYD. Un mewn sefyllfa gwych yn y cae-£65.GWERTHWYD. Cysylltwch hefo Bryn neu Wil i brynu. Bydd ddim mwy ar gael !!! ________________________________________________________________________ Tachwedd 12,2010 . GEORGE NORTH. Hoffai'r clwB llongyfacrh George am ennill ei le yn mhim Cymru yn erbyn De Affrica yfory. Fe chwaraeoedd George i Bwllheli am bedwar tymor ar gychwyn ei yrfa. POB LWC YFORY. ____________________________________________________________________ Tachwedd 12,2010. CWRS CYMORTH CYNTAF. Mae'r cwrs,sydd yn cael ei gynnal yn y clwb ar Sadwrn 27 Tachwedd,yn llawn. Os oes ddigon o ddiddordeb fe gawn edrych at drefnu cwrs arall flwyddyn nesaf. ________________________________________________________________________ Tachwedd 9,2010. Gem BALA -Cwpan Gogledd Cymru. Mae gem heno dal ymlaen-dowch i gefnogi. ___________________________________________________________________ Tachwedd 4,2010. Plat Swalec-ail Rownd. Mae Pwllheli yn falch o gael gem gartref yn rownd nesaf y gystadleath.Hen ffrindiau Caernarfon fydd yr ymwelwyr yn Modegroes ar Sadwrn,Rhagfyr 11. __________________________________________________________________ Tachwedd 2,2010. CYMRU v AWSTRALIA. Fe fydd y gem yn cael ei ddangos ar sgrin fawr y clwb Dydd Sadwrn Tachwedd 2. Gem yn cychwyn am 2.30.Bwyd am ddim!! Mae'r Clwb angen eich cefnogaeth. ____________________________________________________________________ Hydref 28,2010. Gemau Dydd Sadwrn. Cofiwch fod dau dim adre Dydd Sadwrn.Mae'r tim cyntaf yn chwarae Bae Colwyn mewn gem Cwpan Swalec.Mae'r ail dim yn erbyn Porthmadog yn Nghynghrair Gwynedd. Gemau yn cychwyn am 2.30. ____________________________________________________________________________ Hydref 17,2010. Cyfarfod Chwaraewyr a Hyfforddwyr. Fe fydd Cyfarfod yn gael ei gynnal yn y Clwb am 6.30 Nos Iau Hydref 21. ______________________________________________________________________ Hydref 16,2010. ANAF I CHWARAEWR. Mae ffocws y Clwb ar anaf i wyneb un o'i chwaraewyr-Ian Studt-yn ystod y gem .Yn dilyn y digwyddiad bydd angen llawdriniaeth ar Ian.Fwy o wybodaeth cyn gynted a phosib. Mae archwiliadau y Clwb yn parhau. GEM AIL DIM HEDDIW Mae'r ail dim yn chwarae Caernarfon yn Modegroes heddiw-hyn wedi ei drefnu neithiwr!!! _________________________________________________________________________
Hydref 15,2010. Gem Cyngewri yn erbyn Bethesda. Mae Bethesda wedi tynu allan o'r gem Dydd Sul. Mae LLangefni hefyd wedi tynu allan o'r gem Cynghrair Gwynedd Dydd Sadwrn. ___________________________________________________________________________ Hydref 9,2010. GEMAU YN MODEGROES. Does dim gem yn cael ei chwarae ym Modegroes heddiw. _____________________________________________________________________ Hydref 8 ,2010. CYNGEWRI PWLLHELI v CYNGEWRI BETHESDA. Bydd hen ffrindiau yn cyfarfod ar y maes am y tro cyntaf ers rhai blynyddoedd ym Modegroes ar Sul,Hydref 17.Gem yn cychwyn am 2.30. Bar yn agored a bwyd ar gael.Dowch a'r teulu am bnawn allan. ______________________________________________________________________
Hydref 6 ,2010. SESIWN HYFFORDDI CLIVE GRIFFITHS. Bydd Clive Griffiths a chyn prop Cymru-Darren Morris yn cynnal sesiwn hyfforddi i chwaraewyr hyn yn y clwb ar Nos Fawrth Hydref 26.Sesiwn yn cychwyn am 7.00. __________________________________________________________________________ Medi 28,2010 CLIVE GRIFFITHS Fe fydd Clive Griffiths hyfforddywr Golgledd Cymru a chyn rhif pumtheg i Gymru yn cymeryd sesiwn hyfforddi yn y Clwb mis nesaf.Manylion i ddilyn. __________________________________________________________________________
Medi 22,2010. Pwyllgor Rygbi. Bu penodi Bleddyn Davies fel Ysgrifennydd Aelodaeth rygbi a Huw "Mc Ears"Williams fel Swyddog Adloniant. __________________________________________________________________
Medi 7,2010. Gem Cynghrair Gartref. Dowch i gefnogi'r hogia yn eu gem cyntaf o'r tymor yn Modegroes.Gem wedi ei noddi gan Firmhelm,Pwllheli.Diolch i Simon Butterworth am ei gefnogaeth. __________________________________________________________________________ Awst 25,2010. Gemau Cyfeillgar. Bydd ein tim cyntaf yn chwarae yn erbyn Clwb Rygbi Y Rhyl yn Modegroes dydd Sadwrn. Gem yn cychwyn am 2.30.Myndeiad am ddim. Mae'r Tim Ieuenctid hefyd yn chwarae Ieuenctid Y Rhyl .Gem yn chychwyn am 2.30 yn Modegroes. *** Y RHYL WEDI TYNNU ALLAN O'R DDWY GEM BEN BORE HEDDIW-AWST 26. *** __________________________________________________________________
Awst 19,2010 Capten y Clwb. Mae'r Clwb yn falch i ddatgan fod Gareth Wright wedi ei benodi fel Capten y Clwb am y tymor.Bydd Harri Parri yn ei gefnogi fel Is Gapten .Dymuniadau gorau i'r ddau. Is Lywydd. Mae y Clwb yn falch i cynnig sawl aelodaeth drwy'r drefn uchod.Fe fydd yr Is Lywydd yn cael aelodaeth o'r Clwb,mynediad am ddim i gemau catrtref,sylw yn ein rhaglen OND yn bwysicaf yn cael yr hawl i brynu ticed i pob gem gartref mae Cymru yn chwarae yn Stadiwm y Milleniwm.Bydd hyn yn cynnwys gemau Chwe Gwlad yn ogystal a gemau Tachwedd ac unrhyw gem arall yn Nghaerdydd. Cost ydi £150 y flwyddyn.Os ydych eisiau prynu mwy nag un fe wnawn sicrhau fod y ticedi hefo'i gilydd yn y Stadiwm. ______________________________________________________________________ Awst 11,2011. R.G.C dan 16. Mae'r Clwb yn falch i longyfarch Gwilym Parri ac Osian Jones sydd yn y sgwad Golgledd Cymru i chwarae yn erbyn Gleision Caerdydd. ___________________________________________________________________________ Awst 10,2010. Cyfarfod Blynyddol. Fe cafodd yr aeoldau Pwyllgor isod eu ethol am flywddyn pellach ar Pwyllgor y Clwb Rygbi-Colin Jones-Roy Kibblewhite-Ian Studt-Dilwyn Jones-William Owen- Edwin Jones-Lee Oliver. _________________________________________________________________ Awst 4,2010 Prif Hyfforddwr. Balch cyhoeddi fod y Clwb wedi penodi Wyn Isaac i'r swydd prif hyfforddwr y Clwb. Fydd Wyn yn cychwyn ei swyddogaeth yn syth. ________________________________________________________________ Awst 23,2010. Gemau tim Ieuenctid. Mae rhestr gemau'r Ieuenctid bellach ar y wefan. _________________________________________________________________________ Gorffennaf 23,2010 Ticedi Awstralia a De Africa,Tachwedd 2010. Cofiwch fod y ticedi i'r ddau gem yma ar gael rwan.Fe gewch archebu unrhyw nifer o dicedi.Yr unig amod ydi i chwi wneud hyn cyn 31 Awst.Cysylltwch hefo'r clwb neu drwy ebost-post@pwllhelirfc-i brynu. __________________________________________________________________ Gorffennaf 22,2010. Cystadleuaeth Swalec. Bae Colwyn fydd yr ymwelwyr ar ol i Bwllheli cael gem gartref yn Rownd 1 o'r Plat.Fe fydd y gem y cael ei gynnal yn Modegroes ar Sadwrn Hydref,30. Unwaith eto fe fydd clybiau'r Gogledd yn chwarae yn erbyn eu gilydd yn y rowndiau cychwynol. __________________________________________________________________ Gorffennaf 16,2010. Cwrs Cymorth Cyntaf. Mae'r cwrs Cymorth Cyntaf wedi ei chadarnhau am Sadwrn Awst 21.Cychwyn am naw y bore. Mae ganddom ambell o le yn parhau ar gael. Cofiwch fod hwn yn gwrs ffurfiol a Thysgysgrif ar gael wedi gorffen y cwrs. _________________________________________________________________ Gorffennaf 9,2010. Hyfforddiant Oedolion. Fe fydd hyfforddi i'r timau oedolion yn cychwyn yn y clwb ar Nos Fawrth nesaf-Gorffennaf 13. Cychwyn am 7.00 Gorffennaf 4,2010. Gemau Tymor 2010-2011. Cychwyn anodd i'r hogia i'r tymor i ddod.Y Wyddgrug i ffwrdd yn y gem gyntaf a Nant adre yn yr ail. Tymor yn cychwyn ar Sadwrn Medi 4. Mae'r gemau i gyd wedi eu rhestru yn adran "Gemau Nesaf" y wefan. Mehefin 28,2010. Rhaglen Blynyddol y Clwb. Mae'r clwb yn cyhoeddi rhaglen 52 tudalen pob blwyddyn. Mae'r rhaglen yn un o safon ac yn cael ei chyhoeddi a'i brintio gan Gwasg y Castell ,Criccieth.Yn y rhaglen yr ydym yn rhestru gemau pob oedran a gemau rhyngwaladol.Hefyd fe fyddem yn cynnwys polisiau'r clwb,gwybodaeth am dicedi,lluniau a.y.b.Ni fyddai'n bosib cael rhaglen heb gefnogaeth ffyddlon a hael gan cefnogwyr a noddywr y clwb.Yr ydym pob blwyddyn yn gofyn os oes diddordeb gan rhywun i fod yn cefnogi'r clwb yn y modd yma.Cost y hysbyseb ydi- TUDALEN LLAWN-£100 A TAW HANNER TUDALEN-£50 A TAW CHWARTER TUDALEN -£30 A TAW. Am fwy o wybodaeth csylltwch hefo 0791 9990869 neu ebostiwch y clwb ar- post@pwllhelirfc.com Diolch yn fawr. Mehefin 25, 2010
Yr ydym wedi ymdrechu i gael arian i wneud y gwaith ers blynyddoedd bellach ac o'r diwedd yr ydym wedu medru denu cefnogaeth i gwblhau'r gwaith.Gobeithir fydd yr adnodd newydd yn denu fwy o bobl i ddefnydio'r clwb mewn amgylchedd mwy segur na'r gorffennol. Fel rhan o'r newidiadau bydd giat electroneg yn cael ei osod i rheoli mynediad i'r safle.Bydd y clwb yn sicrhau fod cardiau electroneg ar gael-heb elw i'r clwb-i aelodau'r clwb yn ogystal a thrigolion o'r cymdeithasau cyfagos.Fe fydd yn clwb yn rhannu gwybodaeth am y drefn newydd yn gyhoeddus yn y dyfodol buan. Rhaid diolch i'r Communities Facilities and Activities Programme am eu cefnogaeth-heb eu cyfarniad ni fyddai'r datblygiad yma wedi bod yn bosib. Mehefin 24,2010. Taith y Gweiniaeth Siec a Gwlad Pwyl-Mai 2010.
Lluniau o'n taith i ddinas Havirov yn y Weriniaeth Siec.Lluniau eraill ar gael ar Wefan Clwb Harirov
Harri Parri yn barod i daclo un o hogia Havirov.
Ar ddiwedd y gen Family Gut yn modelu crysau newydd y daith.Sylwer fod Aled Tantor ddim mor fodlon modelu y crysau tyn newydd.
Pavel Indrak wrthi'n derbyn y bel.Gwyneb arall anghyfarwydd y dyddiau yma ydi Arwel Tudur ar chwith y llun. Mehefin 20,2010. Fe fydd cwrs cymorth cyntaf yn cael ei gynnal yn y Clwb ar 19 neu 20 Awst. Fe fydd hwn yn gwrs cydnabyddig a fydd tystysgrif ar gael ar ddiwedd y cwrs.Bydd blaenoriaeth i lefydd i hyfforddwyr a chwaraewyr y Clwb. Fe fydd y cwrs am ddim i aelodau ond fe fydd cost i sawl sydd ddim yn aelod.Os oes gennych diddordeb cysylltwch a'r clwb drwy e bost-post@pwllhelirfc.com Mehefin 8,2009. Cyfarfod agored. Yn dilyn cyfarfod i drafod dyfodol y Clwb penderfynwyd i hysbysebu swydd Prif Hyfforddwr i'r timau oedolion yn Modegroes. Bydd y swydd yn gyfrifol am ddatblygu rygbi yn Moodegroes ac yn arwain panel o is hyfforddwyr. Fedr unrhyw berson a ddiddordeb yn y swydd cysylltu hefo Ysgrifennydd y Clwb-Bryn Martin-ar un neu 01758 612042 neu 01758 613307. Mae capten y clwb ers tair blynedd-Geraint Parry -wedi penderfynu peidio sefyll am y capteiniaeth am y tymor iddod . Mai 24,2010. CYFARFOD I DRAFOD TREFNIADAU TYMOR 2010-2011. Mae cyfarfod agored anffurfiol wedi ei drefnu yn y clwb am 6.30 Dydd Mawrth -Mehefin 8. Pwrpas y cyfarfod fydd i drafod a derbyn syniadau am y ffordd ymlaen tymor nesa.Croeso i bawb sydd hefo unrhyw gyfraniad-mawr neu bach -i'r broses. |
|||