![]() |
Tîm Cyntaf.
|
||
|
TYMOR 2006-2007.
Mai 5ed 2007 Adran 4 Cynghrair Asda Bae Colwyn 0 Llandudno 56 Bala 0 Nant Conwy 0 (Oherwydd amgylchiadau arbennig cytunwyd i beidio chwarae'r gêm a'i chyfri fel gêm gyfartal) ***** Ebrill 28ain 2007 Adran 4 Cynghrair Asda Dinbych 20 Llandudno 13 Rhuthun 29 Pwllheli 24 ***** Ebrill 21ain 2007 Adran 4 Cynghrair Asda Bala Goh Nant Conwy Goh Dinbych 27 Caernarfon 7 Rhuthun 36 Llandudno 21
*****
Ebrill 14eg 2007 Adran 4 Cynghrair Asda Nant Conwy 35 Y Drenewydd 14 Dinbych 42 Wrecsam 12 Bae Colwyn Goh Llandudno Goh Rhuthun 39 Caernarfon 21 Bala 24 Pwllheli 25
Sgorwyr Pwllheli yn erbyn Y Bala. Llwyddodd Pwllheli i guro'r Bala mewn gêm galed a chyffrous, a hynny o un pwynt yn unig. Ond deng munud i mewn i'r ail hanner r oedd pethau'n edrych yn ddu efo'r hogia ar ei hol hi o unarddeg o bwyntiau. Pwllheli agorodd y sgorio gyda trosgais Dylan Llyr. Daeth Bala yn ôl y gryf a mynd ar y blaen gyda chic cosb y cefnwr Ynyr Jones, cais y mewnwr George Davies a throsiad Jones, cyn ymestyn y fantais ymhellach i 17-7 ar ôl hanner awr gyda'u hail gais drwy'r ail reng Rhys Davies a throsaid arall Jones. Llwyddodd Dylan Llyr i leihau'r diffyg gyda chic cosb bedwar munud cyn yr egwyl. Daeth Pwllheli yn ôl i'r gêm gyda sgôr cyntaf yr ail hanner trwy esgid gywir Dylan Llyr. O fewn dim sgoriodd Bala eu trydedd cais drwy Brian Davies gyda'r cefnwr yn llwyddiannus gyda'r trosiad i fynd 24-13 ar y blaen. Roedd pethau'n edrych ddigon anaddawol ond codi eu gêm wnaeth yr hogia a sgorio cais wych drwy Geraint Parry. Dechreuodd pethau fynd o blaid Pwllheli ar ôl 23 munud pan anfonwyd un o flaenwyr Y Bala i'r cell cosb. O dan bwysau cynyddol dyfarnwyd cais cosb yn erbyn Y Bala, cais a droswyd o dan y pyst gan Dylan Llyr gan roi Pwllheli ar y blaen unwaith eto. Gyda deng munud yn weddill roedd y chwarae yn galed a digyfaddawd gyda'r bêl yn symud o un pen y cae i'r llall. Llwyddodd Pwllheli i wrthsefyll pwysau aruthrol gyda nifer o leiniau yn agos i'w lein cyn i'r dyfarnwr chwythu i fyny yn y diwedd ar ôl chwarae pum munud ychwanegol. Mae'r fuddugoliaeth yn setio'r tîm i fyny am gêm olaf y tymor yn Rhuthun yn gwybod y bydd buddugoliaeth yno yn sicrhau eu dyfodol yn Adran IV o'r Gynghrair ar draul Y Drenewydd.
*****
Ebrill 7fed 2007 Adran 4 Cynghrair Asda Pwllheli 11 Bae Colwyn 24
Noddwyr y gêm. Noddwr y bêl - Roy Kibblewhite.
Cliciwch uchod i weld mwy o luniau o'r gêm.
Pwllheli 11 Bae Colwyn 24 Llandudno 11 Rhuthun 10 Caernarfon 27 Dinbych 21 Wrecsam 0 Nant Conwy 24 Y Drenewydd 10 Yr Wyddgrug 31
*****
Mawrth 31ain 2007 Gemau Adran 4 Cynghrair Asda Pwllheli 21 Rhuthun 18
Cliciwch uchod i weld mwy o luniau o'r gêm.
Da iawn hogia.
Ar ôl cychwyn gwael, a chael eu hunain ar ôl o 3-18 yn erbyn Rhuthun bnawn Sadwrn cafwyd atgyfodiad yn yr ail hanner i orffen yn fuddugol o 21-18.
Wnaeth pethau ddim dechrau’n dda iawn gydag ymosodwyr Rhuthun yn torri drwodd nifer o weithiau i agor allan mantais o 15 pwynt. Cwffiodd yr hogia’n ôl yn galed yn yr ail hanner gan atal Rhuthun rhag ychwanegu i’w sgôr.
Sgoriodd Mike Adams a Thomas Henry gais yr un a sicrhawyd y fuddugoliaeth gydag 11 pwynt gwerthfawr o esgid Dylan Llyr. Gallwn edrych ymlaen yn awr i ddiweddglo cyffrous i’r tymor gydag ychydig mwy o hyder.
Mae Dinbych yn benderfynol o’i gwneud yn anodd i ni aros i fyny a gyda’u buddugoliaeth o 16-13 yn Llandudno yn cadw’r bwlch o dri phwynt rhyngom. Mae’n rhaid i ni ennill o leiaf dwy o’r tair gêm olaf i osgoi’r arswyd o’r drop i Adran V o’r Gynghrair.
Mae’n rhaid curo’r gêm gartref y Sadwrn nesaf yn erbyn Bae Colwyn.
Llongyfarchiadau calonnog i’r Wyddgrug ar ennill y teitl gyda’r fuddugoliaeth o 53-14 yn erbyn Wrecsam, sydd a’u tynged ar gyfer y tymor nesaf yn awr wedi’i setlo.
Noddwyr y gêm. Noddwr y bêl - Paul Martin.
Wrecsam 14 Yr Wyddgrug 53 Caernarfon 27 Nant Conwy 7 Llandudno 13 Dinbych 16 Pwllheli 21 Rhuthun 18 Bala 3 Bae Colwyn 20
*****
Mawrth 24ain 2007 Gemau Adran 4 Cynghrair Asda Rhuthun 19 Bala 10 Dinbych 19 Pwllheli 7 Nant Conwy 12 Llandudno 6 Yr Wyddgrug 32 Caernarfon 13 Y Drenewydd 23 Wrecsam 0
*****
Mawrth 3ydd 2007 Gemau Adran 4 Cynghrair Asda
Noddwyr y gêm heddiw.
Caernarfon 51 Y Drenewydd 5 Llandudno 7 Yr Wyddgrug 27 Pwllheli 14 Nant Conwy 23 Bala 17 Dinbych 3 Bae Colwyn 25 Rhuthun 19
Cliciwch yma i weld lluniau o'r gêm.
Noddwyr y bêl heddiw oedd John Smiths.
*****
Chwefror 24ain 2007 Gemau Adran 4 Cynghrair Asda Bae Colwyn 6 Pwllheli 3 Caernarfon 24 Llandudno 12
***** Chwefror 17eg 2007 Gemau Adran 4 Cynghrair Asda Dinbych 6 Bae Colwyn 6 Nant Conwy 29 Y Bala 0 Yr Wyddgrug 45 Pwllheli 24 Y Drenewydd 14 Llandudno 17 Wrecsam 17 Caernarfon 21
***** Chwefror 3ydd 2007 Gemau Adran 4 Cynghrair Asda
Noddwyr y gêm heddiw.
Llandudno 28 Wrecsam 10 Pwllheli 21 Y Drenewydd 30 Bala 12 Yr Wyddgrug 25 Bae Colwyn 15 Nant Conwy 5 Rhuthun 34 Dinbych 20
Tra’r oedd Yr Wyddgrug yn ymestyn eu mantais ar frig y tabl wrth guro yn Y Bala ychydig o newid welwyd yn y gwaelod gyda’r tri isaf i gyd yn colli. Y Drenewydd a elwodd fwyaf yn sicr a gyda’u buddugoliaeth ym Mhwllheli o 21-30 agor mantais o bum pwynt rhwng y ddau dîm. Er bod gan Bwllheli dair gêm mewn llaw mae’n siwr y byddent yn fwy na bodlon cyfnewid safleodd gyda’r Drenewydd. Mewn tywydd bendigedig oedd yn debycach i ddiwedd mis Ebrill nag wythnos gyntaf mis bach roedd pethau’n argoeli am gêm gyffrous gyda Pwllheli a’u bryd ar lamu uwchben eu gwrthwynebwyr ac roedd pethau’n edrych yn eithaf addawol – hyd at hanner amser beth bynnag. Ni fu’r dywediad ‘gêm o ddau hanner’ erioed yn fwy gwir mae’n debyg. Gyda mantais cyfforddus o 14-3 ar yr egwyl pwy feddyliai y gallai pethau newid gymaint. Beth bynnag gafodd ei ddweud yn ystod y toriad tîm hollol wahanol welwyd gan y gwrthwynebwyr yn yr ail hanner. Roedd gan y penderfyniad i symud Gerrard o’r cefn i chwarae’n faswr lawer i wneud gyda hyn gan iddo feistoli’r chwarae drwy gydol yr ail hanner. Ar ôl lleihau’r diffyg gyda trodsais aeth y gwrthwynebwyr ar y blaen am y tro cyntaf gyda’u ail gais ar ôl 15 munud ac ymestyn eu mantais ymhellach gyda trosgais arall i fynd ar sgôr i 14-24. Aeth cic adlam Horabin a’r Drenewydd 13 pwynt ar y blaen. Cwffiodd Pwllheli’n ôl gyda cais dda yn llydan ar y dde drwy Hicks a gyda throsiad gwych Dylan Llyr daeth Pwllheli’n ôl o fewn un sgôr gyda llai na deg munud yn weddill. Mewn diweddglo cyffrous methodd Pwllhheli a thori drwy amddiffyn y gwrthwynebwyr a sgoriodd Peeters gic adlam reit ar ddiwedd y gêm i godi ei gyfanswm personol i 17 pwynt a’r sgôr terfynol yn 21-30.
Cliciwch yma i weld rhagor o luniau o'r gêm.
*****
Ionawr 27ain 2007
Nant Conwy 36 Rhuthun 13 Yr Wyddgrug 32 Bae Colwyn 8 Y Drenewydd 11 Bala 5 Wrecsam 20 Pwllheli 24 Caernarfon G Llandudno G Dyfarnwr(Terry Evans)yn cael ei anafu ar ôl 7 munud.
***** Ionawr 20fed 2007
Noddwyr y gêm heddiw.
Pwllheli 14 Caernarfon 24 Bala 25 Wrecsam 5 Bae Colwyn 20 Y Drenewydd 10 Rhuthun 5 Yr Wyddgrug 28 Dinbych 5 Nant Conwy 19
Cais gyntaf Pwllheli - cliciwch i weld mwy o luniau.
Dechreuodd pethau'n ddigon addawol Pwllheli'n mynd ar y blaen gyda throsgais ar ôl chwarter awr. Gyda'r gwynt o'u plaid cwffiodd Caernarfon yn ôl gan fynd i fewn ar yr egwyl 14-7 i fyny. Roedd y cefnogwyr yn ffyddiog o allu troi pethau rownd yn yr ail hanner ond Caernarfon sgoriodd gyntaf gyda'u trydedd cais. Cafwyd llygedyn o obaith pan sgoriodd Pwllheli gais a gyda throsiad Dylan Llyr roedd Pwllheli yn ôl o fewn cyrraedd gyda'r sgôr yn sefyll ar 14-19. Pwllheli gafodd y gorau o bethau am rai munudau wedyn ond methwyd ag ychwanegu i'r sgôr cyn i Gaernarfon wneud y gêm yn saff gyda chais arall. Canlyniad siomedig dros ben. Er ymdrechu'n galed ofnadwy methwyd a thorri i lawr tîm yn chwarae gyda strwythur clir. Mae'n rhaid i'r tîm roi'r golled hon tu cefn iddynt ag edrych ymlaen a chanolbwyntio rwan ar y daith i Wrecsam bnawn Sadwrn nesaf. Unwaith eto mae gan yr hyffwrddwr broblemau dybryd. I ychwanegu at y rhestr anafiadau mae Tryfan Edwards, Llew Oliver a David Williams yn methu chwarae yn Llandudno. Mae'n bosib y bydd Bleddyn Davies hefyd ar goll. Pwy ddywedodd fod pethau i fod yn hawdd?
***** Ionawr 13eg 2007 Yr Wyddgrug 21 Dinbych 0 Rhuthun 39 Y Drenewydd 18 Caernarfon 13 Bala 13 Llandudno 13 Pwllheli 0 Wrecsam 15 Bae Colwyn 10 Methodd y tywydd trychinebus ar draws Gogledd Cymru ag amharu ar gemau yn Adran 4 o'r Gynghrair ddoe. Yn eu gêm gyntaf yn 2007 collodd Pwllheli i ffwrdd yn erbyn Llandudno o 13-0 a gyda Wrecsam yn curo Bae Colwyn ac yn ennill am yr ail wythnos yn olynnol mae'r tîm yn awr ar waelod y tabl. Bu’n rhaid i Bwllheli chwarae yn erbyn gwynt anferthol o gryf yn yr hanner cyntaf a daeth maint y dasg o’u blaenau’n amlwg yn y munud agoriadol. Wrth geisio cicio allan o’r amddiffyn gorffennodd y bêl 45 medr ymhellach yn ôl ac o fewn 5 medr i linell gais Pwllheli. O’r llinell llwyddodd Llandudno i wthio dros y lein i agor y sgorio a gyda throsiad gwych o’r ystlys cododd y sgôr i 7-0.
Am y 25 munud nesaf Pwllheli oedd amlycaf gyda Colin Jones yn enwedig yn rhoi perfformiad ardderchog. Er y rhagoriaeth amlwg methu a sgorio gwnaeth Pwllheli. Ar ôl 32 munud cafwyd rhediad gwefreiddiol gan Matthew Hicks o un pen i’r cae i’r llall ond gyda dau chwaraewr yn erbyn un a’r llinell gais o fewn cyrraedd methodd y bas olaf a chanfod dwylo a gwelwyd siawns orau’r gêm yn cael ei gwastraffu.
Llandudno orffennodd yr hanner orau a gyda dwy gig cosb o bellter ymestynnwyd y fantais i 13-0 ar yr egwyl.
Mewn ail hanner di-sgôr llwyddodd Llan i gadw meddiant am gyfnodau hir ag atal unrhyw siawns i Bwllheli sgorio.
Yn dilyn dechrau addawol i'r tymor a pherfformiadau arwrol yng Nghwpan Konica Minolta mae anafiadau difrifol i hanner y tîm cyntaf wedi ffeithio ar berfformiadau a gyda gemau caled yn erbyn Yr Wyddgrug a Nant Conwy ar y gorwel o ganol mis Chwefror ymlaen mae'n rhaid i'r tîm ddechrau pigo pwyntiau i fyny a hynny'n fuan. Fe fyddai canlyniad ffafriol gartref yn erbyn Caernarfon y Sadwrn nesaf yn hwb mawr i bawb. Yn y cyfamser mae'r Wyddgrug wedi agor gap o chwe pwynt ar frig y tabl yn dilyn buddugoliaeth o 21-0 yn erbyn Dinbych. Gyda Sadwrn gwag ar eu dwylo mae Nant Conwy yn ail, pwynt o flaen Caernarfon a fethodd a churo Bala gartref mewn gêm gyfartal, 13-13. Beth am ddod i gefnogi'r tîm 'bnawn Sadwrn nesaf yn erbyn y Cofis.
***** Ionawr 6ed 2007 Dim gêm i'r tîm cyntaf heddiw. Canlyniadau'r dydd.
Bala 20 v Llandudno 10 Bae Colwyn 13 v Caernarfon 13 Rhuthun 13 v Wrecsam 15 Dinbych 15 v Y Drenewydd 3 Nant Conwy 28 v Yr Wyddgrug 9
***** Rhagfyr 30ain 2006 Cwpan Gogledd Cymru Llangollen 3 Pwllheli 46 Mwy o fanylion i ddilyn. *****
Rhagfyr 23ain 2006 Pwllheli 13 Bala 13 Adroddiad ar y gêm i ddilyn.
Dylan Llyr yn trosi i lefelu'r sgôr. Cliciwch yma i weld mwy o luniau o'r gêm. ***** Rhagfyr 16eg 2006 Cwpan Konica Minolta Rownd 4 Abercynon 29 Pwllheli 24 Abercynon oedd yn fuddugol yn y gêm hon a gyda hynny ennill yr hawl i drafeilio i chwarae Penybont yn y rownd nesaf. Daeth Pwllheli o fewn trwch blewyn i guro yn erbyn eu gwrthwynebwyr o Adran I Dwyrain o Gynghrair Rygbi Asda pan ddyfarnwyd i droed Matthew Hicks gyffwrdd yr ystlys cyn iddo fynd drosodd am gais allai fod wedi curo'r gêm i hogia Pwllheli yn yr eiliadau olaf. Abercynon aeth ar y blaen ar ôl saith munud gyda cais Mike Iles a throsiad y cefnwr Lee Williams. Gyda pherfformiad gweithgar cadwodd blaenwr Pwllheli wyth Abercynon ar y droed ôl am gyfnodau hir a bu'n rhaid i'r tîm cartref ddibynu ar y cefnwr i sicrhau'r fuddugoliaeth. Gyda Pwllheli wastad yn cwffio'n galed i aros yn y gêm roeddynt yn ddyledus i Dylan Llyr am eu cadw o fewn cyrraedd gyda'i gicio manwl a chywrain. Hon oedd gêm gyntaf i ddau o chwaraewyr ifanc Abercynon, Lee Williams a Daniel Hopkins. Sgoriodd Llyr gic cosb cyn i'r asgellwr Daniel Hitchens wifio ei ffordd drwodd am ail gais y gêm ar ôl 17 munud. Eto gwelwyd Llyr yn sgorio cic cosb i Bwllheli cyn i Cynon agor gap o 13 pwynt gyda thrydedd cais y tîm cartref drwy'r asgellwr arall, Chris Keepings. Dyma symudiad diwetha'r gêm i Keepings wrth iddo dynnu cyhur yn ei goes yn sgorio'r cais. Gyda Williams yn sgorio cic cosb a Llyr yn llwyddiannus ddwywaith aeth y ddau dîm i fewn i'r egwyl gyda'r sgôr yn sefyll yn gyfforddus o blaid Cynon ar 22-12. Yn fuan yn yr ail hanner cyflwynwyd chwaraewr ifanc arall, Jamie Corns am ei gêm gyntaf yntau i Abercynon. Wedi cyfnod o ymosod ffyrnig llwyddodd Pwllheli i leihau mantais y tîm cartref pan aeth y capten, Tryfan Edwards drosodd am gais yn dilyn gwaith da gan Mark Saynor. Dim ond hanner siawns mae timau o'r lefel yma ei angen ac fel canlyniad i Bwllheli fethu un tacl sgoriodd Abercynon eu pedwerydd cais, drwy'r capten, Turner a gyda'r trosiad sefydlu mantais o 12 pwynt. Fe fyddai llawer i dîm wedi gwegian mewn sefyllfa gyffelyb ond cwffio'n ôl wnaeth Pwllheli a'u holl grym ac fe'i gwobrwywyd pan aeth Bleddyn Davies drosodd am ail gais Pwllheli. Yn dilyn trosiad Llyr roedd Pwllheli o fewn pum pwynt a sioc fwya'r dydd, a bu'n rhaid i Abercynon ddioddef deng munud cyffrous gyda'r uchafbwynt yn dod gyda chais Hicks yn cael ei gwrthod. ***** Rhagfyr 9fed 2006 Rhuthun v Pwllheli Cychwynwyd y gêm mewn amgylchiadau truenus. Roedd Rhuthun ar y blaen yn gyfforddus ond bu'n rhaid i'r dyfarnwr ohirio'r gêm ar ddechrau'r ail hanner gyda cyflwr y cae yn gwaethygu wrth y funud. Bydd rhaid trefnu i ail chwarae'r gêm yn nes ymlaen yn y tymor. ***** Rhagfyr 2ail 2006 Pwllheli 19 Dinbych 13. Canlyniad holl bwysig i'r hogia a chafwyd perfformiad derbyniol iawn gyda'r tîm yn curo'r gêm yn haeddiannol a hynny o fargin mwy na awgrymir gan y sgôr terfynol. Seliwyd y fuddugoliaeth gyda ceisiau Carl Studt, Mark Saynor a Matthew Hicks a dau drosiad Dylan Llyr. Cliciwch yma i weld lluniau o'r gêm.
***** Tachwedd 18fed 2006 Nant Conwy 20 Pwllheli 16 Gyda'r rhestr anafiadau yn parhau i ymestyn bu'n rhaid i Bwllheli wneud chwe newid i'r tîm ond serch hynny chwaraeodd y tîm gyda balchder a dim ond cael a chael wnaeth Nant Conwy i guro gyda Pwllheli'n gorffen y gêm yn gryfach na'r gwrthwynebwyr. Mae'n rhaid dechrau meddwl a pharatoi rwan am y gêm nesaf yn y gynghrair, gartref yn erbyn Dinbych ar Ragfyr 2ail. *****
Hydref 28ain 2006 Pwllheli 8 Yr Wyddgrug 24 Perfformiadau gwael iawn gan y tîm cartref. Roedd Yr Wyddgrug yn llawer mwy disgybledig ac effeithlon ac er i Bwllheli chwarae'n ddigon derbyniol ar adegau methu a chodi eu gêm wnaethant. Methodd y lein a gweithio'n effeithiol ac roedd y sgrym wastad o dan bwysau. Mae'r anaf i Radim Fajkus yn un arall i ychwanegu i'r rhestr hirfaith. Fe fydd rhaid banolbwyntio'n galed yn awr er mwyn ceisio tynnu'r pwysau oddiar eu hunain. Cliciwch yma i weld lluniau o'r gêm. *****
Hydref 21ain 2006 Cwpan Konica Minolta Rownd 3 Pwllheli 12 Rhydyfelin 9 Er bod y ddau dîm yn methu chwaraewyr allweddol gwelodd y dorf niferus gêm yn llawn ymroddiad yn enwedig gan y tîm cartref yn erbyn gwrthwynebwyr sydd yn sefyll yn drydydd yn Adran 2 o'r gynghrair. Roedd pac Rhydyfelin yn anferth a threuliodd Pwllheli gyfnodau maith ar eu sodlau gyda'r tîm yn ildio nifer o giciau cosb o dan y fath bwysau. Roedd hi'n anorfod y byddai'r pwysau yma'n dwyn ffrwyth, ac yn wir Rhydyfelin aeth ar y blaen gyda cic gosb ar ôl 20 munud. Mae'n sicr i'r gwrthwynebwyr synnu at ffyrnigrwydd taclo'r hogia gyda Lee Oliver yn enwedig yn wych. Aeth Rhydyfelin ymhellach ar y blaen ar ôl 24 munud gyda'u ail gic cosb ac ar hanner amser mae'n siwr eu bod yn weddol fyddiog o ganlyniad ffafriol. Chwarter awr i fewn i'r ail hanner Pwllheli oedd y tîm a sgoriodd gan fynd ar y blaen gyda throsgais. Roedd y dorf ar flaen eu seddi ond gyda prin dau funud yn weddill sgoriodd Rhydyfelin gyda gôl adlam a'r siawns am fuddugoliaeth nodedig i Bwllheli yn ymddangos wedi diflannu. Gydag amser yn brysur rhedeg allan cafodd Matthew Hicks feddiant ar yr asgell chwith ac ar ôl curo sawl amddiffynwr pasiodd i Mike Adams rwygo drwodd o 20 llath i sgorio'r cais i sicrhau'r canlyniad. Methodd Dylan Llyr gyda'r trosiad a chic ola'r gêm. Seren y gêm oedd yr ail reng,Geraint Parry.
Mike Adams sgoriwr y cais buddugol. Cliciwch yma i weld rhagor o luniau o'r gêm.
***** Hydref 14eg 2006 Y Drenewydd 6 Pwllheli 5 Methodd Pwllheli a chymryd mantais o'u goruchafiaeth ar ôl cychwyn disglair i'r gêm a cholli yn y diwedd o drwch blewyn. Yn dilyn cais Mark Saynor cryfhau wnaeth y gwrthwynebwyr fel yr aeth y gêm yn ei blaen. Gorffennodd Pwllheli y gêm yn gryf ond methu ag ychwanegu at eu sgôr. Roedd yna dorf dda ar y Rec i wylio'r tîm cartref yn ennill ond nid gêm i'r gwan galon gafwyd gyda gêm yn aros yn y balans hyd y gic olaf. Pwllheli gychwynnodd y cryfaf o lawer ac er i'r amddiffyn cartref wrthsefyll y pwysau agoriadol, gildio fu raid yn y diwedd. Enillodd Pwllheli linnell 10 medr allan a rhuthrodd Mark Saynor drosodd yn ddi-sialens. Llwyddodd Y Drenewydd i godi eu gêm yn dilyn hyn a chwaraewyd ran helaeth o'r hanner yn rhan Pwllheli o'r cae. Lleihawyd y fantais wrth i Rowan Meek sgorio cic cosb o safle llydan. Roedd chwarae yn dilyn y toriad yn ôl a blaen, gyda'r naill dîm a'r llall yn ymosod. Meek sgoriodd y pwyntiau ennillodd y gêm i'r Dre gyda chic cosb arall ar ôl 20 munud. O hynny mlaen dylai'r Drenewydd fod wedi gwneud y gêm yn saff ond gyda'r capten yn dewis peidio cicio am gôl nifer o weithiau cadwyd y dorf ar flaenau eu traed hyd y diwedd. ***** Hydref 7fed 2006 Pwllheli 75 Wrecsam 10 Tîm digon siomedig oedd gan Wrecsam; tipyn yn wahanol i wrthwynebwyr diweddar Pwllheli. Er iddyn nhw amddiffyn yn ddygn roedd medr y tîm cartref lawer yn fwy wrth i ni sgorio 11 cais a Dylan Llyr yn gyfrifol am 25 o'r pwyntiau yn ei gêm gyntaf yn ôl. Dylan Morris oedd seren y gêm yn sgorio pedair cais. Cliciwch yma i weld lluniau o'r gêm. ***** Medi 30ain 2006 Cwpan Konica MInolta Rownd 2 Pwllheli v Blaina Dyfarnwyd y gêm o blaid Pwllheli pan benderfynnodd y gwrthwynebwyr nad oeddynt am drafeilio. ***** Medi 23ain 2006 Caernarfon 30 Pwllheli 12 Perfformiad siomedig iawn gafwyd yn erbyn tîm trefnus ac ymroddedig Caernarfon. Toedd Pwllheli ddim yn y gêm o'r cychwyn gyda'r Cofis yn ennill eu buddugoliaeth orau ers degawd. Bydd rhaid i bethau wella yn fawr cyn yr wythnos nesaf ag ymweliad Blaina a Pharc Bodegroes yng Nghwpan Konica Minolta yr wythnos nesaf. Parhau a'u record cant y cant wnaeth Caernarfon ar drael Pwllheli efo perfformiad gyfforddus yn erbyn Pwllheli. Neidiodd Caernarfon uwchben Yr Wyddgrug i ben y tabl yn dilyn canlyniadau'r penwythnos. Roedd y Cofis ychydig yn siomedig a'r sgôr ar ddiwedd y gêm cymaint oedd eu goruchafiaeth. Roedd cefnwyr Caernarfon yn gryfach ar y diwrnod ac er i pac Pwllheli ddal eu tir yn y cychwyn roedd pwysau cynnyddol Caernarfon yn saff o ddwyn ffrwyth. Ychydig yn groes i llif y chwarae aeth Pwllheli ar y blaen wrth i Colin Jones sgorio cais yn dilyn gwthiad y sgrym. Troswyd y cais gan Geraint Parry i wneud y sgôr yn 7-3 i Bwllheli. Daeth Caernarfon yn ôl i'r gêm gyda ail gic Kelvin Morris cyn mynd ar y blaen ar ôl hanner awr pan groesodd Steffan Thomas am gais. Roedd y Cofis ar y blaen o 11-7 ar yr egwyl. Agorodd Caernarfon yr ail hanner yn llawn hyder ac ar ôl pwyso'n ddi-drugaredd ar linell amddiffynol Pwllheli aeth Gareth Thirsk drosodd am gais ar yr asgell. Dim ond un tîm oedd ynddi wedyn wrth i'r Cofis ymestyn eu sgôr i 23-7. Llwyddodd Matthew Hicks sgorio cais cysur i Bwllheli yn y munudau diwethaf i wneud y sgôr ychydig yn fwy parchus.
***** Medi 16eg 2006 Pwllheli 29 Llandudno 44 Sgoriodd Llandudno chwe cais wrth drechu Pwllheli a chodi eu cyfanswm pwyntiau i 120 yn eu tair gêm. Er i Bwllheli fygwth ar adegau a sgorio pedwar cais gadawodd y tîm chwe cais i mewn yn y pen arall. Mae'n deg dweud fod y tîm yn dioddef o anafiadau ond Llandudno oedd y tîm gorau ac ar y dangosiad yma maent cyn gystad ag unrhyw dîm yn yr Adran. Roedd John Davies, hyfforddwr Llandudno'n fodlon iawn a pherfformiad ei dîm. Go brin fod tîm hyfforddi Pwllheli yr un môr hapus. Mathodd Pwllheli a chymeryd mantais o'r sefyllfa pan oedd Llandudno i lawr i 13 dyn gan adael i'r gwrthwynebwyr sgorio dau gais yn y deng munud olaf i selio'r fuddugoliaeth.
Cliciwch yma i weld lluniau o'r gêm. *****
Medi 9fed 2006 Cwpan Konica Minolta Rownd 1 Pwllheli 75 Talywain 15 Pan gyfarfu'r ddau dîm ychydig flynyddoedd yn ôl gorffennodd y gêm â Talywain efo mantais o 50 pwynt. Roedd yn amlwg o'r munud agoriadol na fyddai hanes yn cael ei ail adrodd. Roedd safon y rygbi welwyd yn y deng munud agoriadol gyda'r gorau welwyd ar Barc Bodegroes ers rhai blynyddoedd. Gwelwyd Pwllheli'n chwarae rygbi agored yn llawn dychymyg ac yn sgorio tri chais yn yr hanner agoriadol i chwalu gobeithion y gwrthwynebwyr. Taflwyd cysgod dros weddill y gêm ac unrhyw ddathliadau o ochr Pwllheli gydag anaf difrifol i Terry Adams. Mae amlwg erbyn hyn ei fod wedi torri a datgymalu ei ffêr ac wedi derbyn llawdriniaeth yn barod. Does dim syndod i'r digwyddiad daflu'r chwaraewyr am gyfnod ond o ychydig i beth ail gydiodd Pwllheli yn yr awennau ac ennill y gêm yn hawdd iawn yn y diwedd. Blaina, clwb o'r Drydedd Adran fydd gwrthwynebwyr Pwllheli nesaf a gyda'r gêm yn cael ei chwarae gartref gall Pwllheli edrych ymlaen gyda hyder tuag at Fedi 30ain. Cliciwch yma i weld lluniau o'r gêm.
***** Awst 27ain 2006 PWLLHELI 54 BARBARIAID GOGLEDD CYMRU 7. Prawf caled i hogia Pwllheli yn erbyn goreuon Gogledd Cymru. Mae'r sgôr terfynol ychydig yn gamarweiniol gan mai amddiffyn penderfynol yn unig a stopiodd y Barbariaid rhag sgorio ar sawl achlysur yn yr hanner cyntaf. Llwyddodd pac Pwllheli gwrthwynebwyr trymach ac mae'r elfen hon o'r chwarae yn siwr o fodloni'r hyfforddwr. Roedd ymosod y tîm yn wefreiddiol ar adegau a methodd y gwrthwynebwyr a delio gyda ymosodiadau digyfaddawd y tîm cartref.
***** Awst 12fed 2006 Clwb Rygbi Machynlleth 17 Pwllheli 34 Gêm galed i gychwyn y tymor newydd . Roedd y gêm yn frith o gamgymeriadau llawio ond erbyn y diwedd roedd Pwllheli wedi canfod eu rhyddm ac yn pwyso pan ddaeth y chwibiad olaf. Cafwyd perfformiadau calonogol gan y maswr Euros Thomas a'r prop Alwyn Trenholme. Bydd y ddau yma'n annodd i'w hanwybyddu gyda mwy o berfformiadau tebyg. ************************* Mehefin 17eg 2006 Twrnament Saith bob ochr. Cymerodd 12 tîm ran yn y 'Madryn Charity Sevens' i hel pres at Ambiwlans Awyr Gogledd Cymru. Trefnwyd pethau gan Peter Wakefield. Y Madryn, Chwilog. Roedd Ronbin Elias wrth gwrs wrth law i helpu yn ôl yr arfer. Pwllheli A ennillodd, yn curo Pwllheli B yn y rownd derfynol. Mae'n fwriad gan y Clwb gynnal y twrnament yn flynyddol o hyn ymlaen - wythnos ar ôl cystadleuaeth Llangoed ac i newid y fformat i roi cyfle y dimau o wahanol dafarndai'r dref gymeryd rhan.
Mehefin 10fed 2006 Cystadeluaeth Saith bob ochr Llangoed. Diwrnod llwyddiannus gyda'r tîm yn cyrraedd y rownd derfynol. Curo Llandudno, Congleton, Caernarfon a Llangefni ar y ffordd. Roeddynt ar y blaen yn y ffeinal o 14-0 cyn colli yn y diwedd o chwe cais i ddwy.
*************************
Mae gwelliannau i'r ystafell codi pwysau'n parhau. Rydym newydd dderbyn peiriant 'Concept 2 Dyno' i ychwanegu at y dewis eang sydd ar gael yn barod. Cofiwch na chaniateir i neb o dan 16 oed ddefnyddio'r cyfarpar. Mae angen i bawb arall dderbyn hyfforddiant aelod cymwys cyn gwneud defnydd. Cysylltwch â Wil Bing neu David Martin cyn defnyddio'r pwysau am y tro cyntaf.
*************************
Tryfan Edwards ydi capten newydd y Clwb am y tymor 2006-07.
Cymer drosodd oddiwrth Lee Oliver a dreuliodd dair blynedd yn y swydd gan lywio'r Clwb drwy amser caled. Yn gefn i Tryfan fel is-gapten ag arweinydd y pac bydd Richard Hughes. ************************** Cliciwch isod i weld tymor
|
|||