Logo Clwb Rygbi Pwllheli

Y Tim Cyntaf, Adran 1 y Gogledd ,2010-2011.

 

Mai 7,2011.

C.R.BRO FFESTINIOG  13  C.R. PWLLHELI  17.

Sgorwyr-David LLooyd Williams -Cais.

Deio Brunelli--Cais.

Dylan Llyr c -Cic Cosb.

Nick Buttrworth - Trosgais.

__________________________________________________________________________

 

Mai 4,2011.

C.R. NANT CONWY  24  C.R. PWLLHELI  22

Sgorwyr-Dylan Llyr -cais.

David Lloyd Willimas -2 gais.

Gethin Roberts-Cic Cosb.

Dylan Llyr-2 Trosgais.

______________________________________________________________________

Ebrill 23,2011.

C.R.BETHESDA  27  C.R. PWLLHELI  17

Sgorwyr-Mike Hughes-Cais.

Owain Thomas-Cais.

Gethin Roberts -Cic Cosb.

Gethin Roberts-2 Trosgais.

___________________________________________________________________________

Ebrill 16,2011.

C.R. PWLLHELI  10    C.R.  Y WYDDGRUG  9 .

O'R DIWEDD !!!!!!!!!!!!!!

SGORWYR--Cais-ARWEL ROBERTS

Trosgais-Gethin Roberts

Cic  Gosb-Dylan Llyr.

_________________________________________________________________________

Ebrill 9,2011.

C.R.LLANGEFNI  17  C.R. PWLLHELI 12.

SGORWYR-Cais-Emyr Jones -Deio Brunelli.

Trosgais-  Nick Butterworth.

____________________________________________________________________

Ebrill 2 ,2011.

C.R.PWLLHELI  16  C.R.BETHESDA 26

Er y dilyw tros nos ‘roedd yr amodau’n ffafriol ar gyfer rygbi ym Modegroes ddydd Sadwrn. ‘Roedd y dorf gartref yn llwyr werthfawrogi arwtyddocad y gem i’r tîm cartref a phwysigrwydd buddigoliaeth er mwyn gwella’u cyfle o osgoi’r gwymp. ‘Roedd Bethesda ar y llaw arall yn eistedd yn daclus yn yr ail-safle.

Mwynhaodd Pwllheli’r dechrau delfrydol; daliwyd gafael ar y bel o’r gic gyntaf a gorfodwyd Bethesda I ildio cic gosb yn dilyn cyfnod o bwyso. Trosodd y cefnwr Gethin Roberts. Wrth i’r gem fynd yn ei blaen death blaenwyr grymus Bethesda fwyfwy i mewn i’r gem gan beri problemau i Bwllheli yn y sgrym a’r sgarmesi. Wedi pwyso am gyfnod gorfododd Bethesda gais cosb ar bedwar munud ar ddeg wedi cyfres o giciau cosb. Ychwanegwyd y trosiad yn rhwydd.

Wrth fwynhau meddiant edrychai Pwllheli’n dim galluog, ond er iddynt fylchu ar sawl achlysur, methont guro’r amddiffyn. Defnyddiodd Bethesda’r gwynt yn llwyddiannus i orfodi Pwllheli’n ol ac o lein lwyddiannus gyrrwyd trosodd am ail gais Pesda. Ychwanegwyd y trosiad drwy gic gelfydd o ongl gas. Newidiodd Bwllheli bersonel ac arddull wedi’r hanner. Gydag Owain ‘Ffrenshi’ Williams fel maswr chwaraeont ar dempo uwch a thalodd hyn ar ei ganfed. Bum’ munud i mewn I’r hanner llithrodd ffrenshi drwy’r amddiffyn cyn rhoi’r bas allweddol I’r asgellwr de Tomos Henri.

‘Roedd cynffonau Pwllheli I fyny, ac ychwanegwyd at y momentwm pan yrrwyd un o chwaraewyr Bethesda i’r gell cosb am dacl beryglus. O fewn munud ‘roedd Pwllheli wedi manteisio wrthi’r wythwr Huw Hen Williams ffrwydro’r ffordd tros y gwyngalch. Tarodd y trosiad y postyn. Dri munud o ddiwedd y deugain tarodd Roberts gol gosb hirbell gan ddod a’r sgor yn un ar bymtheg I bedwar ar bymtheg.

‘Roedd Pwllheli yn brwydro’n galed ac ymddangosai pwynt bonws am golli oleiaf yn sicr. Fodd bynnag, bum munud I’r amser ychwanegwyd am anafiadau gyrrwyd un o chwaraewyr Pwllheli o’r maes ar gyhuddiad o ymyrryd a llygaid gwrthwynebydd. Er protestio’r cyhuddiad I’r eithaf rhaid oedd I’r chwaraewr adael y maes.

O gofio hanes diweddar Pwllheli, ‘roedd yr hyn a ddilynodd yn anochel: dyfarnwyd sgrym yn erbyn Pwllheli mewn camgymeriad ac yn uniongyrchol o’r sgrym manteisiodd Bethesda ar ddiffyg taclo I sgorio ‘dan y pyst.


‘ Roedd Bethesda yn enillwyr teilwng ond bydd Pwllheli’n gresynu colled gyfle arall. Wrth I Fae Colwyn sicrhau dau bwynt bonws am golli, mae Pwllheli dri phwynt ar ei hol hi ar waelod y tabl a chyfleodd I sicrhau’r fuddugoliaeth holl bwysig yn prinhau. Trafeilia Pwll I Langefni ddydd Sadwrn.

______________________________________________________________

Mawrth 26,2011.

C.R.RHUTHUN 20  C.R. PWLLHELI   19

_____________________________________________________________

Mawrth 19,2011.

C.R.PWLLHELI  0  C.R. LLANGEFNI 12

'Roedd hon yn gem enfawr i'r ddau glwb wrth i'r ddau gwffio am eu heinoes yng ngwaelodion y tabvl. 'Roedd cyflwr y cau'n ardderchog ac awel gryf oedd yr unig elfen i ddylanwadu ar yr ymryson. Amlygwyd mantais bwysau sylweddol blaenwyr Llangefni yn gynar a gyda'r gem yn frith o sgrymiau manteisiodd yr ymwelwyr i'r eithaf. 'Doedd hon ddim yn gem o'r safon uchaf ond ymroddodd y ddau dim yn llwyr i'r achos. Dangosodd amddiffyn Pwllheli welliant sylweddol ac roedd nifer y tarclau yn dystiolaeth o'r ymdrech, ond er gwaethaf eu ymdrechion derbynniodd olwyr Pwllheli'r helyw ou pel ar y droed ol a methont ddylanwadu ar y gem. Trosodd Llangefni gic gosb wedi pedwar munud. Prin fu 'r sgorio weddill yr hanner, methodd Pwllheli gyda dwy ymdrech at y pyst er i un daro'r pyst a dyblodd Llangefni eu mantais bum munud i fewn i amser ychwanegwyd am anafiadau yn yr hanner cyntaf.

Wrth i Bwllheli ildio cyfres o giciau cosb am wrthod rhyddhau'r bel 'roedd cardyn melyn yn anochel. Trosodd Llangefni'r gic gosb ddilynodd i ymestyn eu mantais i naw. Er clod iddynt, tyrchodd Pwllheli'n ddyfn a goroeswyd gweddill y 10 munud o gosb. Daethpwyd ac eilyddion Pwllheli ymlaen ac er ymdrechion glew y tim cartref seliodd llangefni'r fuddigoliaeth ar 68 o funudau gyda pedwaredd cic gosb.


Gwadwyd yr un cyfle clir i sgorio grewyd gan Bwllheli iddynt pan ddyfarnwyd, yn anghywir fod y bel wedi ei tharo 'mlaen. Digwyddodd hyn pan oedd Pwllheli'n parhau ofewn un sgor ac y fath benderfyniadau dibyna canlyniadau gemau clos fel yma. Daeth Llangefni'n agos sawl tro, ond 'roedd diffyg awch ar symiudiadau eu olwyr ac 'roedd gwell tren ar amddiffyn Pwllheli nac sydd wedi bod.

'Redd Llangefni'n llawn haeddu eu buddigoliaeth, ac mae'r pedwar pwynt yn gyfraniad sylweddol i'w ymdrech i osgoi'r cwymp. Mae Pwllheli ar y llaw arall yn wynebu talcen caled, ond gyda'r ysbryd yn y garfan yn parhau'n gryf mae unrhywbeth yn bosib. Sylweddola'r hyfforddwyr Richard Hughes a Lee Oliver faint y dasg o'u blaenau ond parhant i edrych ymlaen am 6 gem sy'n weddill.

_____________________________________________________________

Mawrth 5,2011.

C.R.CAERNARFON  43         C.R.PWLLHELI  3

_______________________________________________________

Chwefror 19,2011.

C.R.PWLLHELI  18  C.R. BAE COLWYN 16.

SGWAD-ALWYN TRENHOME(CAPTEN)-ALAN ROBERTS-AARON OWEN-GERAINT PARRY-HUW WILLIAMS-TOM PARRY-DAFYDD ANWYL-IFAN ROBERTS-NICK BUTTERWORTH-DYLAN LLYR-ELGAN ROWLANDS-DAFYDD BRUNELLI-GETHIN ROBERTS-TOMOS HENRI-OWAIN WILLIAMS.

EILYDDION-OWAIN THOMAS-ALED GRIFFITH-EMYR JINES-PERDEDUR JONES

SGORWYR-CAIS -OWAIN WILLIAMS-TOM PARRY.

CIC-COSB X 2  TROSGAIS  X 1 -GETHIN ROBERTS.

________________________________________________________

 

Ionawr 22,2010.

C.R. PWLLHELI  14  C.R.LLANDUDNO 18

SGWAD-ALWYN TRENHOLME (CAPTEN )-ALAN ROBERTS-AARON OWEN-GERAINT PARRY -IFAN ROBERTS-TOM PARRY-HUW WILLIAMS-CHRIS STUDT-NICK BUTTERWORTH-DYLAN LLYR-ELGAN ROWLANDS -DEIO BRUNELLI-MIKE HUGHES-GETHIN ROBERTS-TOMOS HENRI WILLIAMS.

EILYDDION-DAFYDD WILLIAMS-OWAIN THOMAS-TUDUR GRIFFITHS-ALED GRIFFITHS.

____________________________________________________________

Ionawr 8,2011.

SWALEC

C.R. PWLLHELI   18   C.R. CAERNARFON 47

Hon oedd gem gyntaf Pwllheli ers canol Tachwedd a’r gyntaf i Gaernarfon ers mis Hydref, a rhaid talu teyrnged i’r ddau dîm am gynhyrchu gem cystal wedi’r toriad estynedig. ‘Roedd yr amodau bron yn berffaith ym Modegroes a lleisiwyd cefnogaeth frwd i’r ddau dîm gan y dyrfa sylweddol.

Mwynhaodd Caernarfon y dechrau delfrydol gan fanteisio ar bêl rydd yn eu hanner eu hunain, ymosodwyd lawr yr ochr dywyll crëwyd cyfle i ddau wr yn erbyn un a sgoriwyd cais da dan y pyst. Ymatebodd Pwllheli yn gadarnhaol a mwynhawyd y gorau o’r hanner awr nesaf, gyda’r sgrym yn feistrolgar er i’r llinell wegian ambell waith. Lleihaodd y tîm cartref fantais Caernarfon trwy gais gwych gan y mewnwr Nick Butterworth ar ei ymddangosiad cyntaf: Ymatebodd yn gyflym wedi i lwybr ei bas gael ei gau; gwelodd fwlch a thorrodd trwy’r amddiffyn i sgorio o hanner can’ medr. Ychwanegodd Gethin Roberts y trosiad. Ddeuddeng munud i mewn a Phwllheli wnaeth y mwyaf o’r ochr dywyll. Aeth Martin, y maswr i’r dde a rhoddodd cyfres o basys byrion y lathen angenrheidiol i’r asgellwr de Roberts i groesi yn y gornel.

Cyfnewidiwyd ciciau cosb wedi un deg saith a dau ddeg ac un o funudau i roi mantais o bymtheg i ddeg i Bwllheli. Caeodd Caernarfon y bwlch gyda chic gosb arall cyn manteisio ar gamgymeriad gan Bwllheli ar yr hanner i sgorio cais annisgwyl. Doedd y sgôr ar yr hanner o bymtheg i ugain ddim adlewyrchiad o’r gêm.

Collodd Pwllheli’r allweddol Geraint Parry i anaf wedi tri munud o’r ail-ddechrau a gwelodd Pwllheli golli ei gario grymus a’i waith amddiffynnol. Dechreuodd trefn a chydweithio gwell Caernarfon ddangos. Cynyddon eu mantais i saith pwynt ar hugain wedi pum deg a thri o funudau a chadarnhawyd eu hagwedd ymarferol gan y penderfyniad i fynd am y pyst ar yr awr.

Ychwanegodd Pwllheli eu cais eu hunain trwy droed Butterworth ar chwedeg pum munud ond gwastraffwyd dau gyfle da arall i sgorio. Caernarfon oedd perchen y chwarter awr olaf a sgoriwyd ceisiau wedi chwedeg naw, saithdeg with ac wythdeg o funudau.

Bydd Caernarfon yn falch o’r canlyniad ac ‘roeddent yn llawn haeddu eu buddugoliaeth. Foddbynnag, bydd Pwllheli yn falch o fod wedi profi’r cyfuniadau newydd yn yr haneri ac yn y rheng ôl. Da oedd gweld dychweliad David Lloyd ‘sick-note’ Williams wedi pedwar mis ac roedd perfformiad y rheng flaen ifanc yn galonogol.

Mae angen i’r tîm hyfforddi wneud y gorau o’r sylfaen yma wrth frwydro i aros yn y gynghrair. Er, tydi pethau’n mynd ddim haws gydag ymweliad i Nant Conwy'r penwythnos nesaf.

Mae’r ail-dim yn parhau i hedfan yn uchel yng Nghynghrair Gwynedd. Maeddwyd tim cryf Bethesda o dri deg i bump gyda dau gais gan Sam Parry Jones ac un bob un gan Jones, Dylan Morris Williams a Mike Roberts. Ychwanegodd Gwilym Parry Jones cic gosb a throsiad.

SGWAD-ALWYN TRENHOLME (CAPTEN_-KEVIN MORRIS-AARON OWEN-GERAINT PARRY-IFAN ROBERTS-CHRIS STUDT-TOM PARRY-HUW WILLIAMS-NICK BUTTERWORTH-GERAINT MARTIN-ELGAN ROWLANDS-DEIO BRUNELLI-GETHIN ROBERTS-TOMOS HENRI-DAVID LLOYD WILLIAMS

EILYDDION-ALAN ROBERTS- TUDUR GRIFFITHS (T.I.T.S.)-MEIC HUGHES-OWAIN THOMAS.

Sgorwyr-Cais-NICK BUTTERWORTH-GETHIN ROBERTS.

COSB-GETHIN ROBERTS-NICK BUTTERWORTH.

Trosgais-GETHIN ROBERTS.

Lluniau o'r gêm yma

Lluniau Dewi Wyn

___________________________________________________________

Hydref 30,2010.

SWALEC

C.R. PWLLHELI 17  C.R.BAE COLWYN 0

SGWAD-ALWYN TRENHOLME (CAPTEN)-KEVIN MORRIS-AARON OWEN-GERIANT PARRY-CARL STUDT-SAM PARRY JONES-HUW WILLIAMS-HARRI PARRI-WILLIAM HUGHES-GARETH HODGSON-ELGAN ROWLANDS-GWILYM PARRY JONES-GARETH WRIGHT-MIKE HUGHES-TOMOS HENRI .

EILYDDION-NIC LAKE-DEIO BRUNELLI-ALAN ROBERTS-IFAN ROBERTS.

Sgorwyr-cais-Geraint Parry-Gwilyn Parry Jones-Gareth Wright

Trosgais -Gareth Hodgson.

__________________________________________________________________________

Hydref 23,2010.

C.R. PWLLHELI 19  C.R. RHUTHUN 39.

Er gwaetha’r glaw trwm gafwyd tros nos, ‘roedd yr amodau ym Modegroes yn ddelfrydol ar gyfer rygbi unwaith eto bnawn Sadwrn. Ar bapur ymddangosai tîm Pwllheli yn un cytbwys a gyda llai o newidiadau nac arfer, ‘roedd angen perfformiad da i ail-adeiladu hyder.

Yn anffodus, cychwynnodd Pwllheli’n wael gan ildio dwy gic gosb hawdd ofewn y chwe’ munud agoriadol. Golygodd anaf i’r maswr Owain Williams wedi deuddeg munud fwy o amhariad ar gynlluniau’r tîm. Ildiodd Pwllheli gic-gosb am drosedd dechnegol dila ac ymestynnodd Rhuthun eu mantais ymhellach.

‘Roedd gwaeth i ddod, pan yrrwyd yr ail-reng Geraint Parry i’r gell cosb am drosedd gan y tîm. Manteisiodd Rhuthun I’ eithaf ar y dyn ychwanegol drwy sgorio trosgais cyffyrddus wedi tri deg a phump o funudau. Ymatebodd Pwllheli yn gadarnhaol, a sgoriwyd cais da gan Gethin Roberts gan ddod a’r sgôr i bump i un a'r bymtheg o blaid yr ymwelwyr.

Rheolodd Pwllheli funudau agoriadol yr ail hanner, ond codwyd y pwysau drwy ddyfarniad dwy gic-gosb o blaid Rhuthun ac enillwyd safle da drwy’r gic i’r ystlys. Doedd dim addewid i’r symudiad canol cae nes i Bwllheli saethu o’r llinell amddiffynnol am y rhyng-gipiad. Agorodd hynny fwlch clir i Ruthun a sgoriwyd cais yn gwbl groes i rediad y chwarae.

Gyrrwyd chwaraewr gorau Rhuthun; y mewnwr Wil Davies i’r gell cosb am dacl hwyr wedi pedwar deg a naw o funudau. Yn ei absenoldeb chwaraeodd Pwllheli eu cyfnod gorau o rygbi ers wythnosau a sgoriwyd dau gais da, gyda Gethin Roberts yn ychwanegu’r trosiadau; y gyntaf wrth i’r eilydd o faswr Elgan ‘dito’ Rowlands ddadlwytho’n ddeuheig i yrru’r asgellwr Gareth Wright dan y pyst. A’r ail, dri munud yn ddiweddarach wrth i’r prop Kevin Morris guro’r amddiffyn i sgorio’n llydan.

Gyda’r bwlch lawr i ddau bwynt, ‘roedd y gêm yna I’w churo a’r dorf sylweddol yn lleisio eu cefnogaeth. Enillodd Pwllheli bel lan o’r llinell yng nghanol cae, ond yn anffodus i Bwllheli aeth y gic-groes yn syth I ddwylo asgellwr Rhuthun ac o hynny deilliodd trydydd cais Rhuthun. Methodd Pwllheli ac adennill eu momentwm, ychwanegodd Rhuthun ddwy gic gosb cyn taro’r hoelen olaf wedi saithdeg a phump o funudau drwy sgorio eu pedwerydd cais am y pwynt bonws. Y trosiad ardderchog o’r ystlys oedd sgôr diwethaf Rhuthun, ond ‘roedd tro pellach yng nghynffon y gêm:

Ar y chwib derfynol, tynnwyd chwaraewyr y ddau dîm i mewn i gwffas. Dangoswyd pedwar cerdyn coch; dau i bob ochor mewn gem nad oedd ar ei hyd wedi body n fudur.

Mae methiant Pwllheli I droi cyfnodau o chwarae safonol mewn i berfformiadau am y pedwar ugain yn destun poeni. Diau, mae llawer o waith i’w wneud, ond ni fydd dim o’r newidiadau sydd, yn y gorffennol wedi ansefydlogi’r clwb. Mae’r hyfforddwr Wyn Isaac wedi trefnu I Bryn Martin gynorthwyo gyda’r olwyr a bydd Richard Hughes yn rhannu ei brofiad gyda’r rheng ôl.

Bae Colwyn fydd yr ymwelwyr I Barc Bodegroes ddydd Sadwrn mewn gem Cwpan Swalec ac mae’r chwaraewyr a’r hyfforddwyr yn edrych ymlaen at y cyfle i gael cywiro camgymeriadau a chyflwyno perfformiad teilwng o ennill gem yn erbyn tîm y ‘Bae’ sydd a’r i fyny.

SGWAD ALWYN TRENHOLME (CAPTEN)-KEVIN MORRIS-AARON OWEN-GERAINT PARRY-OWAIN THOMAS-HUW WILLIAMS-TOM PARRY-IFAN ROBERTS-WILLIAM N. HUGHES-OWAIN WILLIAMS-ELGAN ROWLANDS-DEIO BRUNELLI-GARETH WRIGHT-MIKE HUGHES.

EILYDDION -NIC LAKE-CARL STUDT-BLEDDYN DAVIES-GETHIN ROBERTS.

SGORWYR-CAIS-GARETH WRIGHT-GETHIN ROBERTS-KEVIN MORRIS.

TROSGAIS-GETHIN ROBERTS 2.

Llunia' o'r gêm yma

Llunia' Dewi Wyn

_______________________________________________________________________

Hydref 16,2010.

C.R. PWLLHELI  19  C.R. CAERNARFON  50

SGWAD-ALWYN TRENHOLME (CAPTEN)-KEVIN MORRIS-NIC LAKE-CARL STUDT-OWAIN THOMAS-SAM PARRY JONES-HUW WILLIAMS-TOM PARRY-WILLIAM HUGHES-ELGAN ROWLANDS-DEIO BRUNELLI-GWILYM PARRY JONES-GARETH WRIGHT-MIKE HUGHES-GETHIN ROBERTS.

EILYDDION-ALAN ROBERTS-BLEDDYN DAVIES-IFAN ROBERTS-OWAIN WILLAIMS.

SGORWYR-CAIS-DEIO BRUNELLI-GARETH WRIGHT-ELGAN ROWLANDS

TROSGAIS-GETHIN ROBERTS  X  2.

__________________________________________________________________

 Hydref 2,2010

C.R. Bae Colwyn  14   C.R.Pwllheli 3

SGWAD-ALWYN TRENHOLME-KEVIN MORRIS-NIC LAKE-GERIANT APRRY-CARL STUDT-TOM PARRY-HUW WILLIAMS-SAM JONES-TOMOS HENRI WILLIAMS-ELGAN ROWLANDS-GARETH WRIGHT-GWILYM PARRY JONES-GETHIN ROBERTS-IFAN ROBERTS-- DAVID LLOYD WILLIAMS.

EILYDDION-DEIO BRUNELLI-BLEDDYN DAVIES-ALAN ROBERTS-CHRIS STUDT.

SGORWR-CIC COSB-GETHIN ROBERTS.

 

___________________________________________________________________

Medi 25,2010.

C.R.Pwllheli  36  C.R.Bro Ffestiniog 7

SGWAD-ALWYN TRENHOLME-KEVIN MORRIS-NIC LAKE-GERAINT PARRY-CARL STUDT-SAM PARRY JONES-HUW WILLIAMS-CHRIS STUDT-TOMOS HENRI-ELGAN ROWLANDS-GARETH WRIGHT (CAPTEN)-GWILYM PARRY JONES-GETHIN ROBERTS -DAVID LLOYD WILLIAMS.

EILYDDION-BLEDDYN DAVIES-ALAN ROBERTS-EMYR JONES-OWAIN THOMAS

SGORWYR -CAIS-HUW WILLIAMS-CARL STUDT-GETHIN ROBERTS-DAVID LLOYD WILLIAMS-ELGAN ROWLANDS.

COSB-GETHIN ROBERTS.TROSGAIS (3)-GETHIN ROBERTS.

____________________________________________________________________________

 

  Medi 18,2010.

C.R.Llandudno  23  C.R. Pwllheli 20

SGWAD-GETHIN ROBERTS-DEIO BRUNELLI-GARETH WRIGHT (CAPTEN)-DAVID LLOYD WILLIAMS-GWILYM PARRY JONES-ELGAN ROWLANDS-TOMOS HENRI-CHRIS STUDT-HUW WILLIAMS-DAFYDD MYRDDIN-SAM PARRY JONES-CARL STUDT-ALWYN TRENHOLME-KEVIN MORRIS-NIC LAKE.

EILYDDION-DEIO PARRY JONES-DANIEL OWEN- PEREDUR JONES-ALAN ROBERTS.

SGORWYR -CAIS-HUWILLIAMS(2)-NIC LAKE.

                   -CIC GOSB A THROSIAD GAN GETHIN ROBERTS.

______________________________________________________________________

Medi 11,2010

C.R. Pwllheli  17  C.R. Nant Conwy 18

   

Dim ond saith o’r pedwar ar bymtheg chwaraewr yn y garfan ar gyfer gem hon oedd yng ngharfan Pwllheli ar gyfer gem gynta’r tymor diwetha’. Wedi ei lethu gan anafiadau ac absenoldebau eraill, ‘roedd gwedd anghyfarwydd iawn ar y tîm. Fodd bynnag, da yw nodi mae newydd-ddyfodiad; Sam Jones ar y blaenasgell oedd Chwaraewr y Gem a bod Sion Jones, Alan Roberts, Tom Parry a Gwilym Jones  wedi disgleirio. O’r diwedd, penbleth pleserus fydd dewis tîm i hyfforddwr Pwllheli Wyn Isaac.

Dechreuodd y tîm cartref yn gryf a gorfu i Nant ddibynnu ar bob arf yn eu meddiant i atal Pwllheli rhag croesi’r gwyngalch. Rhybuddiwyd y tîm cyfan ar ôl ugain munud am arafu’r bel. Fodd bynnag, yn raddol death Nant yn ôl i’r gêm yn gryf; sgoriwyd cais trwy’r bachwr Eryl Jones ac ychwanegwyd y trosiad a dwy gol-gosb gan y mewnwr Ifan Jones mewn cyfnod o bwyso. Er i Nant fygwth torri’n rhydd, llwyddodd Pwllheli i aros yn y gêm trwy ddoniau cicio Gethin Roberts wrth iddo daro dwy gol-gosb.

Trawyd Pwllheli oddi ar eu hechel ar hanner amser pan yrrwyd Elgan ‘dito’ Rowlands i’r gell cosb am “drosedd y tîm” o ladd y bel. ‘Roedd y penderfyniad yn un technegol gywir, ond o gofio’r hyn ddigwyddodd o flaenllaw; hefyd yn rhwystredig.  Cododd gwyr Llyn eu gem eto yn yr ail hanner. Gorfodwyd Nant i amddiffyn, ac wrth i Nant ildio cyfres o giciau-cosb heb ddioddef cosb lymach, cynddeiriogwyd y dorf sylweddol gan y diffyg cysondeb yn y modd y dyfarnwyd y gêm.

Cosbwyd Nant deirgwaith o fewn munudau am ladd y bel, ac er rhybuddio’r Capten eisoes, arhosodd y cardiau ym mhoced y dyfarnwr. Fel y bu, death Pwll yn ôl i mewn i’r gêm drwy gais gan Huw Williams hynny wedi i sgôr ymddangosai’n sicr gael ei gwrthod gan y dyfarnwr gan na thiriwyd y bel. Fodd bynnag, wrth i Gethin Roberts gicio dwy gol-gosb, arweiniai Pwllheli o’r diwedd o ddau ar bymtheg i dri ar ddeg.

Gyda’r cloc tu hwnt i’r wythdeg, yn haeddiannol gyrrwyd clo Pwllheli i’r gell cosb am daro’r bel ymlaen yn fwriadol.  Pwysodd Nant ond gyda’r amser ychwanegol yn cyrraedd pump, chwech ac yna saith o funudau ymddangosai Pwllheli’n sicr o ddal ymlaen am y fuddugoliaeth. Yn ôl y chwaraewyr, dywedodd y dyfarnwr fod y gêm yn y cymal olaf ddwywaith, ond parhaodd y cloc i dician. Am bedwar munud ar ddeg wedi pedwar torrodd Nant amddiffyn Pwll I sgorio cais da drwy’r asgellwr chwith Tristan Sion yn llydan.

Mae Nant yn dîm da sy’n chwarae’r gêm ar eithafion y rheolau. Mae eu ffydd yn eu gallu i achub gemau tu hwnt i’r wythdeg i’w ganmol a gwobreuwyd y ffydd yna ddydd Sadwrn.

Mae pawb yng nghlwb Pwllheli yn cefnogi swyddogion ac yn llwyr werthfawrogi’r anawsterau wynebir wrth ddyfarnu. Fodd bynnag, ni ddylai dweud yr amser beri’r fath sialens. ‘Doedd pedwar munud ar ddeg o amser ychwanegol tros y ddau hanner ddim yn adlewyrchiad o’r gêm yma. Collodd Pwllheli gem yr haeddent ennill. ‘ Cam ’ heb os.

Lluniau o'r gêm yma

Lluniau Dewi Wyn

SGWAD-

OWAIN WILLIAMS-GETHIN ROBERTS-GARETH WRIGHT (CAPTEN)-ELGAN ROWLANDS-GWILYM JONES-DYLAN LLYR-TOMOS HENRI-NIC LAKE-ALAN ROBERTS-ALWYN TRENHOLME-GERAINT PARRY-HUW WILLIAMS-SAM JONES-TOM PARRY-CHRIS STUDT

EILYDDION-TUDUR GRIFFITHS-PEREDUR JONES-BLEDDYN DAVIES-SION WYN JONES

SGORWYR-CAIS -HUW WILLIAMS,CIC COSB  X  4  GETHIN ROBERTS.

_______________________________________________________________

                                                              Medi 4,2010

C.R. Y Wyddgrug 40  C.R.Pwllheli 10

Wrth i Bwllheli drafeilio i'r Wyddgrug hefo tim eithaf dibrofiad fe gymerodd y tim gartref pob mantais.Sgorwyd pump cais yn ein herbyn yn yr hanner cyntaf.Fe fu gwellhad yn ein perfformiad yn yr ail hanner  ond doedd hyn ddim yn ddigon i arbed ddipyn o gweir.

Sgorwyd cais i'r Clwb gan Huw Williams a cafodd Gethin Roberts cic gosb a throsiad llwyddiannus.

Hefo Nant Conwy yn cael eu croseawu i Fodegroes ar Medi 11 mae'r hogia yn gwybod fod gwaith caled o'n blaen.

SGWAD-

OWAIN WILLIAMS-DAVID LLOYD WILLIAMS-ARWEL ROBERTS-ELGAN ROWLANDS-GETHIN BODLAS-DYLAN LLYR-TOMOS HENRI-BLEDDYN DAVIES-KEVIN MORRIS-ALWYN TRENHOLME-IFAN ROBERTS-HUW WILLIAMS-DILWYN JONES-TOM PARRY-HARRI PARRI ( CAPTEN).

EILYDDION-TUDUR GRIFFITHS-SION WYN JONES-PEREDUR JONES-ALAN ROBERTS.

SGORWYR

CAIS-HUW WILLIAMS-CIC COSB A THROSIAD GAN GETHIN ROBERTS.

               

________________________________________________________________________

                                                      

                                                         TYMOR 2009-2010

                                                              Ebrill 24,2010.

                                               C.R. Pwllheli 36  CR Bae Colwyn 20

Fe oedd hon yn gem pwysig i Bwllheli guro wrth paratoi am y ffeinal mis nesaf.Yr hogia yn fuddugol ond Bae Colwyn-hefo carfan o pwmtheg yn unig- yn rhoi gem galed i ni ar ol cychwyn addawol iawn .

Lluniau y gêm yma   

______________________________________________________________________

                                                  

                                                            Ebrill 15,2010

                                           CR Nant Conwy  31   CR  Pwllheli 0

Er fod Nant yn fuddugol nid oedd y sgor yn adlewyrchu'r perfformiad. Cyfnodau calonogol iawn hefo'r blaenwyr yn gystadleuol iawn.

________________________________________________________________________

                                                       

                                                            Ebrill 10,2010

                                               CR Rhuthun 58  CR Pwllheli 8.  

Tim eithaf di brofiad yn teithio i Rhuthun a chael crasfa hollol annisgwyl.

_________________________________________________________________

                                                                                                                                                                                                                   

                                                             Ebrill 7,2010       

                                             C.R.Pwllheli 20  CR Dolgellau10.

                                                  Cwpan Gogledd Cymru

Er fod Pwllheli yn haeddu curo fe wnaeth Dolgellau gystadlu i'r chwiban olaf.

                                  Lluniau y gêm yma                                                            

                                                                                          

                                                            Ebrill 3,2010.                 

                                               CR Pwllheli 55  CR Dinbych 16    

Gem eithaf cyffurddus yn erbyn y tim ar waelod y Gynhrair.Rygbi agored a chryf ar adegau a'r ymwelwyr heb ddim ymateb i bumtheg Pwllheli.   

                                

                                                          27/03/2010.

                                          C.R.Y Wyddgrug 30   C.R.Pwllheli  24

 

                                                      17-3-2010                                                                      
                      C.R. Bro Ffestiniog 18    13 C.R.   Pwllheli                                                                                               

                 Perfformiad gwan gan y tim yn y gem Nos  Fercher yma.                                                                        Bro i weld yn eisiau curo mwy na ni a buom yn lwcus iawn i ddod                                            Blaenau hefo pwynt bonws.                                                                                                                                                                                                                               

                                                                                                                                                                                                                                                                   

                                                     

                                                          

4/03/2010                                                                  
C.R.Pwllheli 15     C.R Ruthin   8.                                                             

Mike AdamsGem wedi ei chwarae o dan y llif oleuadau oedd hon. Roedd y gem yn llawn ciciau cosb a gwnaeth Pwllheli waith caled o gurro'r gwrthwynebwyr. Unwaith eto cafwyd sawl cerdyn melyn.Cafodd Elgan Rowlands a Dylan Llyr gardiau melyn yn yr ail hanner .

Er hyn roedd Pwllheli yn fuddigol wrth amddiffyn yn arwrol ar brydiau. Cafwyd y sgor holl bwysig gan Mike Adams yn ei gem gyntaf ers blwyddyn.Wedi dod ymlaen fel eilydd sgoriodd cais ar ol ei gyffwrddd gyntaf i'r bel.Fe oedd Gethin Roberts yn llwyddiannus hefo cic anodd o'r ystlys.Gem fawr yn erbyn Bro Ffestiniog ar nos Fercher nesaf felly.

 

 

_____________________________________________                                                   

                                                     Mawrth 6ed 2010
                                      Pwllheli RFC 39  Llandudno RFC 7.

Gethin BodlasDiwrnod bendigedig ar gyfer y gem, y ddau dim heb chwarae ers mis Ionawr, bu i Bwllheli gurro yn gyfforddus.

 

 

 

 

 


Ionawr 30,2010                                                                    
Pwllheli RFC 13  Caernarfon RFC 22

Sgwad a Sgorwyr:
BLEDDYN DAVIES-KEVIN MORRIS-ALWYN TRENHOLME-GERAINT PARRY (C)-HUW WILLIAMS-HARRI PARRI-RICHARD HUGHES-MEILIR HUGHES -DAFYDD ANWYL-DYLAN LLYR-EUROS T
HOMAS-DYLAN MORRIS-GARETH WRIGHT -DAVID LLOYD-WILLIAMS -OWAIN WILLIAMS.

SUBSTITUES-DAFYDD MYRDDIN-CARL STUDT-AARON OWEN-TOMOS HENRI WILLIAMS

CAIS-GARETH WRIGHT,HUW WILLIAMS.

CIC COSB-DYLAN LLYR.

Lluniau o'r gêm yma.


Ionawr 23, 2010 .

        Pwllheli RFC 19 Llangefni RFC 10                                                                              

Er bod record wael gan Pwllheli yn erbyn Llangefni dros y blynyddoedd diwethaf braf iawn oedd cael curro gartref dydd Sadwrn.

Caernarfon fydd yn ymweld gyda ni wythnos nesaf, pob hwyl i'r hogia.

Roedd yr ail dim yn arbennig o dda hefyd yn curro tim cryf iawn Bangor. Llongyfarchiadau i'r hogia, dim ond un cais sydd wedi mynd yn erbyn yr ail dim drwy gydol y tymor hwn hyd yma.

Sgorwyr;

Cais-Harri Parry,Owain Williams,Richard Hughes .

Trosgais-Dylan Llyr (2).

Lluniau o'r gêm yma


 Rhagfyr 12,2009.

                                               Ail Rownd Cwpan Swalec                                                                                                                   

                                               Ruthin RFC  15  Pwllheli 24                                                                            

Sgwad a Sgorwyr

HUW HUGHES-BLEDDYN DAVIES-ALWYN TRENHOLME-GERAINT PARRY-CARL STUDT-MEILIR HUGHES-HARRI PARRY -DAFYDD ANWYL-TOMOS HENRI WILLIAMS-DYLAN LLYR-ELGAN ROWLANDS-EUROS THOMAS-GARETH WRIGHT-DYLAN MORUS WILLIAMS-DAVID LLOYD WILLIAMS.

EILYDDION-JACK ROBERTS-MARK SAYNOR-CHRIS STUDT -IFAN ROBERTS

CAIS-EUROS THOMAS

TROSIAD-Dylan Llyr.

CIC COSB--Dylan Llyr -2.


                                                        Rhagfyr 5ed, 2009.                                                                  
                                            Bae Colwyn 9 Pwllheli RFC 23                                                                       

Er bod tywydd yn ddifrifol curro oedd hanes Pwllheli yn erbyn Bae Colwyn. Pwllheli oedd y tim gorrau drwy'r gem, er bod llawer o gamgymeriadau yn y gem yma.


                                                                                                                                                                                                          Tachwedd14,2009

                                         Dinbych 28  Pwllheli24                                                                                                                                     

Pwllheli yn mynd ymlaen i ail rownd Cwpan Gogledd Cymru Scottish Power gyda sgor dros y ddwy gem yn 84 -28.

Sgorwyr a sgwad.

BLEDDYN DAVIES-KEVIN MORRIS--DILWYN JONES-GERAINT PARRY (C)-HUW WILLIAMS-SAM JONES-RICHARD HUGHES-CARL STUDT-TOMOS HENRY-DYLAN LLYR-ELGAN ROWLANDS-EUROS THOMAS-GETHIN ROBERTS-GWILYM JONES -TUDUR TRENHOLME

SUBS-HARRI PARRY-DEIO JONES-DAVID JONES .

Sgorwyr-

Cais-HUW WILLIAMS (2),TOMOS HENRY,GETHIN ROBERTS.

Trosgais-DYLAN LLYR (2).


                                                                           TACHWEDD,4,2009                                                                

Gem nesaf yn erbyn Dinbych-14/11/2009.


Hydref 31, 2009                                                              
C.R. PWLLHELI  60  v  C.R DINBYCH  0                                                                    

 

Sgorwyr a sgwad.
BLEDDYN DAVIES -KEVIN MORRIS -MARK SAYNOR-GERAINT PARRY (c)- HUW WILLIAMS-CHRIS STUDT-CARL STUDT-RICHARD JOHN HUGHES-TOMOS HENRI WILLAINMS-ELGAN ROWLANDS-EUROS THOMAS-DYLAN MORRIS WILLIAMS-GETHIN ROBERTS-IFAN ROBERTS-DAVID LLOYD WILLIAMS.

SUBS-HARRI PARRY-DAFYDD ANWYL WILLIAMS-COLIN PAUL JONES -MEILIR HUGHES

SCORERS-

CAIS-RICHARD HUGHES-CARL STUDT-ELGAN ROWLANDS (2),HUW WILLIAMS,DYLAN MORRIS WILLIAMS,HARRI PARRY,GETHIN ROBERTS.

CIC COSB-GETHIN ROBERTS

TROSIAD -GETHIN ROBERTS-6.

LLuniau ar gael yma.


Hydref 24, 2009                                                             
C.R. PWLLHELI RFC  42 v  C.R. RHUTHUN  6                                                            

SGWAD A SGORWYR

CAIS-KEVIN MORRIS-HJUW WILLIAMS-DAVID LLOYD WILLIAMS-CHRIS STUDT.

TROSIAD-DYLAN LLYR (2).

CIC GOSB-DYLAN LLYR (6).

HUW HUGHES-KEVIN MORRIS-ALWYN TRENHOLME-GERAINT PARRY -HUW WILLIAMS-RICHARD JOHN HUGHES- MEILIR HUGHES-HARRI PARRY-DAFYDD ANWYL-DYLAN LLYR-ELGAN ROWLANDS-EUROS THOMAS-DYLAN MORRIS WILLIAMS-TOMOS HENRI WILLIAMS-DAVID LLOYD WILLIAMS.

EILYDDION-MARK SAYNOR-CHRIS STUDT-CARL STUDT-BLEDDYN DAVIES.

 


                                 Hydref 17eg, 2009                                                  

                                       DINBYCH  7   C.R.PWLLHELI 24                                                           

SGWAD A SCORWYR.

CAIS-DAVID LLOYD WILLIAMS (2),MARK SAYNOR A EUROS THOMAS.

TROSIAD-DYLAN LLYR (2).

BLEDDYN DAVIES-KEVIN MORRIS-ALWYN TRENHOLME-GERAINT PARRY-HUW WILLIAMS-CHRIS STUDT-MEILIR HUGHES-CARL STUDT-DAFYDD ANWYL-DYLAN LLYR-EUROS THOMAS-GETHIN ROBERTS -TOMOS HENRI-ELGAN ROWLANDS-DYLAN MORUS.

EILYDDION-RICHARD JOHN HUGHES-BERWYN JONES-MARK SAYNOR


Hydref 10fed,2009                                              

C.R. PWLLHELI 21  C.R.  Y WYDDGRUG 18                                                 

Roedd y cae mewn cyflwr bendigedig ar gyfer ygem gyda'r glaw y nos Wener wedi gwneud lles iddo. Cyrrhaeddodd y Wyddgrug Bodegroes ddwy awr cyn y gem. Cychwynodd Pwllheli y gem ar dan wrth fynd drwy amddiffyn y gwrthwynebwyr. Cawsant ei cosbi am slofi'r bel a Dylan Llyr yn cymryd mantais ar hyn gyda cic rydd. .

Roedd y blaenwyr yn llawer gwell na rhai y Wyddgrug, yn gynt i'r bel. Er hyn roed dyr amddiffyn yn dal. Roedddent yn llwyddo i droi amddiffyn i ymosod a cafodd Pwllheli ei cosbi am ladd y bel. 3 pwynt yr un felly.

Yna rhoddodd Pwllheli anrheg i'r WYddgrug, y cais cyntaf. Ar ol curro pel yn 22ain ei hunain collwyd y bel yn ganol cae a cymerodd y Wyddgrug y cyfle i sgorio.

Cosbwyd Pwllheli am gam sefyll a doedd hi ddim yn hir nes iddyn nhw sgorio eto. Cicwyd y bel lawr yr asgell, a llamodd y bel heibio chwaraewyr Pwllheli a throswyd y cais o ochr y cae.

Ar ddiwedd yr hanner cyntaf cafodd Pwllheli gic rhydd ac roedd Dylan Llyr yno i drosi unwaith eto a chadw Pwllheli yn y gem. Pwllheli 6 Wyddgrug 18 ar hanner amser.

Roedd blaenwyr Pwllheli ar dan yn yr ail hanner gan ennill 20 medr o linell ar y 22ain. Roedd Alwyn Trenholme fel cawr arbennig yn croesi am ei gais cyntaf o'r tymor. Methwyd y gic yn anffodus.

Roedd Pwllheli rwan yn mynd ymlaen ac yn edrych yn addawol iawn, a croesodd Harri Parry ar yr asgell am gais, roedd hwn yn gyswllt gwych rhwng y cefnwyr a'r blaenwyr.

Rhyngipiodd Pwllheli'r bel wrth i'r Wyddgrug ymosod, ond gollyngwyd y bel. Credwn mai Pwllheli oedd y tim gorau ar y diwrnod ac yn curro yn haeddianol iawn felly. Lluniau o'r gem.

Oddi cartref i Ddinbych dydd Sadwrn nesaf .

SGWAD A SGORWYR.

HUW HUGHES-KEVIN MORRIS-ALWYN TRENHOLME-GERAINT OWEN PARRY(C)-HUW WILLIAMS-RICHARD JOHN HUGHES-MEILIR RHUN HUGHES-HARRI PARRY-DAFYDD ANWYL WILLIAMS-DYLAN LLYR JONES-ELGAN ROWLANDS-DYLAN MORRIS WILLIAMS-TOMOS HENRI WILLIAMS-EUROS THOMAS-DAVID LLOYD WILLIAMS

Eilyddion-CARL STUDT-CHRIS STUDT-AARON OWEN-BLEDDYN DAVIES


CAIS-ALWYN TRENHOLME-HUW WILLIAMS-HARRI PARRY

CIC COSB-DYLAN LLYR 2


                                   Hydref 3ydd,2009                                               

                                       C.R LLANDUDNO 6  V   C.R. PWLLHELI 60

C.R. LLANDC.R.c LLANDUDNO  6 UDNO 6   C.R. PWLLHELI   60 .

BLEDDYN DAVIES-KEVIN MORRIS-ALWYN TRENHOLME-GERAINT PARRY (C)-HUW WILLIAMS-RICHARD JOHN HUGHES-MEILIR HUGHES-HARRI PARRY-

DAFYDD ANWYL WILLIAMS-DYLAN LLYR-ELGAN ROWLANDS-DYLAN MORRIS WILLIAMS-TOMOS HENRI WILLIAMS-EUROS THOMAS-DAVID LLOYD WILLIAMS

Eilyddion-CARL STUDT-CHRIS STUDT-GETHIN ROBERTS-AARON OWEN.

Sgorwyr:
CAIS-DAVID LLOYD WILLIAMS 2-MEILIR HUGHES 2 -DYLAN LLYR-HARRI PARRY-EUROS THOMAS-DYLAN MORRIS WILLIAMS-HUW WILLIAMS

CIC COSB-DYLAN LLYR 2

TROSIAD-DYLAN LLYR 6


                                                       Medi 26,2009.

                                 C.R.   PWLLHELI 25    C.R. NANT CONWY 30 

SGWAD A SCORWYR

HUW HUGHES  -BLEDDYN DAVIES-ALWYN TRENHOLME-GERAINT PARRY (C)-MARK SAYNOR-RICHARD JOHN HUGHES-HUW WILLIAMS-HARRI  PARRY-DAFYDD  ANWYL-DYLAN LLYR JONES-ELGAN ROWLANDS-EUROS THOMAS-DYLAN MORRIS WILLIAMS-TOMOS HENRI WILLIAMS-DAVID LLOYD WILLIAMS.

Eilyddion-CARL STUDT-MEILIR HUGHES-KEVIN MORRIS-OWAIN WILLIAMS

Sgorwyr-DYLAN LLYR JONES 2 CIC COSB  2 TROSIAD

CAIS-HARRI PARRY-HUW HUGHES-DYLAN MORRIS WILLIAMS

Lluniau o'r gem    


                                                    Medi 19,2009

                                  C.R. CAERNARFON 18  C.R. PWLLHELI 3

SGWAD A SCORWYR
AARON LEWIS OWEN-ALWYN TRENHOLME-KEVIN MORRIS-GERAINT PARRY(C)-HUW WILLIAMS-MEILIR HUGHES-RICHARD JOHN HUGHES-CARL STUDT-DAFYDD ANWYL WILLIAMS-DYLAN LLYR JONES-ELGAN ROWLANDS-DYLAN MORRIS WILLIAMS-TOMOS HENRI WILLIAMS-TOM BENBOW-DAVID LLOYD JONES

Eilyddion-HUW HUGHES-LEE OLIVER-HARRI PARRY-BLEDDYN DAVIES

Sgorwyr-DYLAN LLYR-1 CIC COSB.

Lluniau o'r gem


                                                     Medi 12,2009.

                       

                             C.R. LLANGEFNI   15  V   C.R. PWLLHELI    14

SGWAD A SCORWYR
AARON LEWIS OWEN-BLEDDYN DAVIES-ALWYN TRENHOLME-GERAINT PARRY (C)-HUW OWEN WILLIAMS-CARL ARTHUR STUDT-RICHARD JOHN HUGHES-LEE OLIVER-DAFYDD ANWYL WILLIAMS -ELGAN ROWLANDS-EUROS THOMAS-DYLAN MORRIS -TOMOS HENRI WILLIAMS -THOMAS BENBOW-DAVID LL. WILLIAMS

Eilyddion-DILWYN JONES-MEILIR HUGHES-MARK SAYNOR -WILLIAM N.HUGHES


CAIS-EUROS THOMAS.

CIC COSB-DAFYDD ANWYL (3).


                                                      Medi 5, 2009.

                            C.R.  PWLLHELI 60    C.R.   BRO FFESTINIOG 22

SGWAD A SCORWYR
HUW HUGHES-KEVIN MORRIS-ALWYN TRENHOLME-GERAINT PARRY (CAPTAIN)-HUW WILLIAMS -LEE OLIVER-RICHARD HUGHES-HARRI PARRY-DAFYDD ANWYL-DYLAN LLYR-DYLAN MORRIS WILLIAMS-ELGAN ROWLANDS -TOMOS HENRI -EUROS THOMAS-DAVID LLOYD WILLIAMS

Eilyddion-CARL STUDT-MEILIR HUGHES-TOM BENBOW-ALED GRIFFITHS.

Sgorwyr;
CAIS-DAVID LLOYD WILLIAMS (3),LEE OLIVER,HARRI PARRY,EUROS THOMAS,DYLAN LLYR,CARL STUDT.

CIC COSB-DYLAN LLYR (2).

TROSIAD-DYLAN LLYR (7).

Lluniau o'r gem


                                                            Awst 15,2009.

                                 CLWB RYGBI WALLASEY 10  CLWB  RYGBI PWLLHELI 51

Curo wnaeth yr hogia yn eu gem cyfeillgar cyntaf o'r tymor. Sawl chwaraewr wedi cael perfformiad safonnol  hefo Huw Williams yn disglerio.Er ei fod yn fuddigoliaeth eithaf rhwydd fe wnaeth y gem godi sawl man lle mae angen fwy o waith cyn i'r tymor cychwyn yn Modegroes ar Sadwrn 5 Medi .

Bro Ffestiniog  sydd yn dod i Efailnewydd yn eu gem gyntaf yn y Gynghrair yma.Gem yn cychwyn am 2.30.   

Cyn hynny mae Wallasey yn dod i Fodegroes Sul nesaf-23 Awst.Gem gyfeillgar i gychwyn am 2.00.                                       


                                                            AWST 10,2009.

The preparations for the season start in earnest with two pre season matches against English opposition.Pwllheli travel away on Saturday August 15 to Wirral side Wallasey RFC.The same side travel to Bodegroes for the return  fixture on Sunday 23 August.Further details from the Club.

Tymor 2008-2009.

Tymor 2007-08.