![]() |
Tocynnau Blynyddoedd 06-09 |
||||||||||||||
|
TYMOR 2008-2009. Mawrth 13eg 2009
Berwyn Jones a Heulwen Evans yn siarad efo Shane Williams ,Rhys Thomas a Huw Bennett yn yr Eidal Mawrth 13eg 2009 *********************** Chwefror 27ain 2009 Mae’r oll o’r ticedi ar gyfer gêm Cymru yn erbyn Yr Iwerddon wedi’u gwerthu ac ni fydd mwy ar gael. Unwaith eto mae’r gofyn wedi bod llawer yn hwy na’r cyflenwad a gafwyd. Ymddiheuriadau i unrhyw aelod sydd wedi colli allan. Dim ond 16eg o dicedi dderbyniwyd ar gyfer y gêm yn Rhufain ac mae’r rhain hefyd wedi gwerthu allan ers beth amser.
************* Tachwedd 18fed 2008 Mae gan Alan Gwallt ddau diced debenture i'r gêm yn erbyn Seland Newydd pnawn Sadwrn. Cysylltwch yn uniongyrchol ag Alan ar 01758 61 2126.
************* Medi 22ain 2008 Mae ticedi'r gêm yn erbyn De Affrica wedi gwerthu allan.
************* Medi 8fed 2008 Yn dilyn ymholiadau diweddar ynglyn â dosbarthu ticedi gemau rhyngwladol, amlinellir isod y polisi fel y mae’n cael ei weithredu ar hyn o bryd.
Dylai unrhyw un sydd angen trafod y polisi gysylltu'n gyda unrhyw aelod o'r Pwyllgor neu Bryn Martin yn uniongyrchol. **** Mae yna nifer bach o dicedi ar gyfer y gêm yn erbyn De Affrica ar gael. Ni fydd cyflenwad ychwanegol wedi i’r rhain werthu allan.
***************
Mehefin 10fed 2008 Cyfres Invesco Perpetual 2008
Mae ticedi ar gyfer gemau rhyngwladol yr Hydref yn awr ar gael o'r Clwb. Ffoniwch y Clwb ar 01758 613676 neu cysylltwch â Wil Martin yn uniongyrchol.
Prisiau'n amrywio rhwng £40 a £55 yn ddibynol ar y galw. Peidiwch a cholli allan, prynwch diced cyn iddyn nhw ddiflanu. Tâl gweinyddol bychan yn ychwanegol a thaliad llawn gyda'ch archeb os gwelwch yn dda. Ni fydd y Clwb yn gallu cyflewni ticedi ar gyfer y gêm yn erbyn Canada os fe ddylai rhai fod ar gael yn uniongyrchol gan yr Undeb.
**************** TYMOR 2007-08
Ionawr 29ain 2008 Manylion gweithgareddau yng Nghaerdydd ar y nos Wener cyn gemau rhyngwladol yn erbyn Yr Alban a Ffrainc. Clwb Trydan, Pontcanna. CAERDYDD. Elw tuag at Eisteddfod Genedlaethol Cymru Nos Wener Chwefror 8fed - Twmpath Dawns a Ceilidh 7.30 yr hwyr - tocynnau £6 o flaen llaw Nos Wener Mawrth 14eg - Bryn Fon a'r Band 8.00 yr hwyr - tocynnau £10
*******************************
Ionawr 5ed 2008
Mae ticedi ar gyfer gemau yn erbyn yr Eidal a Ffrainc yn Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ar gael rwan. Gan fod y gem Gynghrair yn erbyn Rhos wedi'i ail threfnu ar gyfer y diwrnod yma mae yna nifer bychan o dicedi ychwanegol ar gael. Cyntaf i'r felin. Cysylltwch â Wil Martin. Costau fydd £55 a £50 yngyd a'r ffi gweinyddol arferol.
****************************
Tachwedd 14eg 2007
Gyda chwaraewyr a swyddogion oll yn paratoi ac yn edrych ymlaen yn fawr at daith y Clwb i'r Weriniaeth Czech a Slovakia ym mis Mai 2008, cymrwch eiliad neu ddwy i ddarllen sut oedd pethau'n cael eu gwneud yn yr hen ddyddia, ugain a mwy o flynyddoedd yn ol. Ychydig iawn sy' wedi newid yn y cyfnod yma mae'n amlwg!
Roedd taith gynta’ Pwllheli dramor ym mis Chwefror 1977 yn llwyddiant cymdeithasol diamheuol. Teithiodd dim llai na 78 i Baris ar drên a fferi i wylio’r gêm Pencampwriaeth Pum Gwlad yn erbyn Ffrainc. Colli oedd hanes Cymru’r diwrnod hwnnw a cholli wnaethom ninnau hefyd - ar y maes rygbi beth bynnag!
Sgoriodd Pwllheli ddau gais ond fe sgoriodd Prifysgol Paris lawer mwy yn eu buddugoliaeth o 48-8. Wnaethon ni ddim chwarae’n ddrwg o gwbl mae’n rhaid deud, ond be oedd yn anffodus oedd lleoliad y cae - roedd yn syth o dan lwybr awyrennau’n mynd a dod o Faes Awyr Orly. Pob tro'r ai awyren dros ben mynnodd hogiau Pwllheli stopio chware i syllu ar yr olygfa. Roedd Orly yn le llawer rhy brysur y diwrnod hwnnw.
Gwnaeth yr hogiau eu gorau i hybu entente cordialle ar ôl y gêm. Roedd yna wen ar wyneb arferol sarrug ambell i Ffrancwr wrth ffarwelio.
Bu’n rhaid disgwyl pum mlynedd cyn i’r Clwb fentro dramor wedyn. Ym mis Hydref 1982 treuliodd 45 o chwaraewyr a swyddogion wythnos yn Nantes, Llydaw. Roedd pedair gem wedi’u threfnu. Dim ond tair cafodd ei chwarae yn y diwedd. Gyda Muscadet yn costio dim ond 30 ceiniog y botel roedd y demtasiwn yn ormod.
Ecole Nationale Veterenaire oedd y gwrthwynebwyr cynta’. Cafwyd perfformiad gwych gan Bwllheli, gyda rygbi agored hyderus a gwefreiddiol yn cael ei chwara ar adegau. Aeth popeth o’n plaid y diwrnod hwnnw gyda buddugoliaeth o 48-10 a setio’r don am daith fythgofiadwy'r un ffordd.
Yn dilyn yr ail fuddugoliaeth yn erbyn Clwb Rygbi Basse Goulaine daeth yr holl bentref allan i’n croesawu a’n trin i wledd o letygarwch. Roedd gwasanaeth cyfieithu campus Mary Rickards - merch Doctor Caradog yn afraid ar ôl 9 yr hwyr; erbyn hynny roedd meimio’n fwy na allai rhan fwyaf o’r criw ei wneud.
Aeth y daith a’r crwsâd celfyddydol ymlaen yn dilyn buddugoliaeth yn erbyn A.S.P.T.T.
Llai na blwyddyn yn ddiweddarach dychwelyd i Ffrainc i chwarae yn Rennes, Normandy a Nantes. Colli o drwch blewyn fu’r hanes yn Rennes, ond roedd y croeso gafodd pawb yn wych; trefnodd yr heddlu lleol i’n tywys i ffin y ddinas wrth ymadael hyd yn oed. Cymerodd rhai aelodau hyn y parti'r arwydd o groeso ychydig yn rhy lythrennol a threulio’r noson yng nghwmni Gendarmerie lleol. Rhyfedd iawn o gysidro moethusrwydd y Gwesty!
Eto roedd y croeso a gafwyd yn Nantes yn anhygoel gyda derbyniad ffurfiol yn cael ei threfnu ar ein cyfer yn Neuadd y Ddinas, yn cynnwys gweinyddion yn eu lifrau a’u wigiau powdwr. Cafwyd cyfle i ymweld â chyrchfeydd o’r gorffennol adnewyddu hen gyfeillgarwch, sefydlu rhai o’r newydd a chael tasd o brofiadau gwahanol. Ie wir ysgol rygbi ydi’r ysgol orau! Llwyddwyd i guro’r ddwy gêm yn Nantes, y gynta’ yn erbyn y Brifysgol a’r ail yn erbyn Clwb Rygbi Carequefeu.
Yn 1985 cafwyd cyfle i ymweld â’r Iseldiroedd a gemau yn Amsterdam, Sessenheim a’r Haig. Er i ni golli’r dair gêm rhoddodd y trip ystyr newydd i ‘window shopping’ - ychydig yn wahanol i gerdded strydoedd Pwllheli neu Fangor hefo’r wraig ar ‘bnawn Sadwrn.
Roedd yna gryn bryder o fewn y Clwb pan ddechreuwyd son am y daith fwya' uchelgeisiol eto; a hynny i Ganada yn 1989. Y teimlad oedd y byddai ymrwymiad yn cael effaith andwyol ar weithgareddau gartra’ ac y byddai canlyniadau’n dioddef cyn ac ar ôl y daith. Fel mae’n digwydd doedd gan neb unrhyw le i boeni o gwbwl. Gweithiodd pawb a oedd ynglyn â’r daith yn ofnadwy o galed gyda sesiynau ymarfer wedi’u trefnu bob bore yn ogystal â phedair gem ‘A’ yn ystod cyfnod prysur o bythefnos. Enillwyd oll o’r gemau yng Nghanada a daeth y garfan yn ôl yn lawer mwy ffit ac yn llawn hyder.
Roedd Neil Sorbie cynrychiolydd ’Chwaraeon Tramor’ ar y daith yn ofnadwy o weithgar ac yn barod iawn ei gymwynas bob amser. Roedd y croeso a gafwyd gan y Canadiaid yn gynnes a diffuant. Roedd y croeso gafodd Ceiri Jones hyd yn oed yn gynhesach - cyhoeddodd ei ddyweddïad gyda Maureen, gweithwraig Banc o Toronto ym mis Rhagfyr 1991.
Ar y maes chwara’ cafwyd buddugoliaeth yn erbyn Toronto Buccaneers ar lan Llyn Ontario gyda Mark Roberts yn sgorio tri chais. Cafodd y gronfa ddirwyon gryn hwb yn ystod y gêm, diolch i Nick Reed Jones , wrth i bawb a ganfuwyd yn llygru’r Llyn gael dirwy ariannol. Byr iawn o amser fu’r masgot ym meddiant y tîm wrth i Wil Martin roi’r ddraig goch tair troedfedd i blentyn bach dyflwydd oed. Roedd mam y plentyn yn edrych fel rhywun oedd yn gweithio yn y ‘Brass Rails’ ar Stryd Young. (One of the most respected gentleman’s clubs in Canada.) yn ôl yr hysbyseb.
Doedd gan Lewod Toronto fawr o siawns yn yr ail gêm wrth i Bwllheli chwara rygbi gwerth ei weld. Tybed a'i o enau di-winyddol y Parchedig W B Owen y daeth yr ysbrydoliaeth.
Wythnos yn ddiweddarach a thrafeilio lawr i Niagra a chael croeso cynnes a lletygarwch hael Tony Jones a’i ffrindia yng Nghlwb Rygbi Niagara Wasps. Er bod y lle wedi cael ei or-fasnacheiddio mae prydferthwch naturiol yn rhyfeddol. Cafwyd buddugoliaeth agos yn erbyn y Wasps.
Clwb Rygbi Buffalo Old Boys, talaith Efrog Newydd oedd y gwrthwynebwyr nesa. Teimlo’n orhyderus ynte ceisio glynu at ryw syniad rhamantaidd o’r ysbryd Corinthiad wnaeth Pwllheli wrth ddewis tîm cryn dipyn gwannach nag oedd rhaid, does dim posib dweud ond talu’n ddrud am y penderfyniad wnaed. Mewn tywydd erchyll ac yn erbyn asgellwyr 6’3” collwyd y gêm.
Yn gwylio’r gêm oedd Eirian Jane Muse o’r Bala a’i gwr a chawsom eu cwmnïaeth yn y dathlu ar ôl y gêm. Cafwyd gwledd o fwyd a diod - nid gorchwyl hawdd oedd bodloni parti o 53 ynghyd â’r nifer cynyddol o gefnogwyr. Drannoeth y parti ac yn teimlo’n fregus i ddeud y lleia’ ac ar ôl dychwelyd i’r gwesty yn Toronto. Roedd gêm olau’r daith yn erbyn tîm cryf Cymru Toronto a dyma ni’n chwara rygbi gorau’r daith ac yn curo o 30-0.
Ar gyfer y noson olaf penderfynwyd hurio ystafell mewn tafarn Wyddelig leol a gwahodd ffrindiau Cymru Canada. Ymysg y rhain oedd nanis dagreuol a hiraethus o Gymru heb anghofio Dei Jones, brodor o Bwllheli a’i wraig Iona, yn wreiddiol o’r Bala oedd wedi setlo i fywyd newydd yng Nghanada. Roedd y landlord yn llawn canmoliaeth o’i westeion. Yr unig ddifrod ddaeth i’w ran y noson honno oedd malu dau wydr a choes un stôl; a digwyddodd hynny wrth iddo wneud ffwl ohono’i hyn yn trio’r irish jig. Yr unig ddigwyddiad amheus ag ychydig yn bryderus oedd clywed fod Wyn Isaac yn mynnu iddo gael ei gario’n ôl i’r Gwesty mewn chariot!
I’w barhau...........................
**********************
Hydref 22ain 2007 Cymru v De Affrica Tachwedd 24ain 2007
Mae ticedi i weld y gêm yn erbyn De Affrica ar gael rwan. Mae dyddiad cau archebu ticedi newydd ddod i law. DALIER SYLW Mae'n rhaid i chi archebu ticedi dim hwyrach na hanner dydd Dydd Gwener Hydref 26ain 2007. Cysylltwch yn uniongyrchol a Wil Martin ar 01758 61 3212 neu 0791 999 0869.
********************
Medi 25ain 2007 Pencampwriaeth y Chwe Gwlad
Rydym yn dal i ddisgwyl cadarnhad ynglyn a nifer a phrisiau'r ticedi fydd ar gael ar gyfer gemau yn y bencampwriaeth eleni. Byddwn yn rhoi manylion ar y wefan cyn gynted ag sydd bosib. Yn ôl yr arfer bydd ticedi ar gael i aelodau a noddwyr yn unig. Cofiwch fod rhaid talu'n llawn wrth archebu, gyda'r gost yn cynnwys swm o £2.00 am dreuliau gweinyddol ble mae hyn yn briodol. NI FYDD ticedi ar gael ar gyfer y gemau yn Twickenham a Dulyn y tymor hwn.
**************************
Mehefin 19eg 2007
SIALENS
Gem i baratoi ar gyfer Cwpan y Byd 2007 Lloegr v Cymru Awst 4ydd 2007 Twickenham, Llundain
Ticedi i aelodau ar gyfer y gem yma. Unrhyw nifer ar gael. Cost £47 neu £27 - yn cynnwys ffi gweinyddu. Siec yn daladwy i Clwb Rygbi Pwllheli erbyn 30ain Mehefin fan bellaf.
Mai 24ain 2007
Taith y Clwb i Wlad Pwyl a'r Weriniaeth Czech. Cyrraedd Krakow yn brydlon am 8.45pm ar y 9fed o Fai a throsglwyddo mewn bws i’r llety. Ar ôl bwcio i mewn mynd am dro i weld y dref. Roeddym yn ffodus iawn o gael Radim Fajkus gyda ni. Gan ei fod wedi byw a chwarae rygbi yn y wlad ac felly'n dallt y lingo roedd ei bresenoldeb yn fendith i ddweud y lleiaf. Dyn yn unig a wyr be fysa wedi digwydd i ni hebddo fo.
Fydd hi fawr o syndod i chi glywed i ni stopio yn y bar cyntaf a daeth lefel trethi'r Canghellor, Gordon Brown yn amlwg yn syth - 50 ceiniog a llai am gwrw da. Ar ôl awr neu ddwy roedd nofelti a chynnwrf naturiol y daith yn dechrau gwegian - i ni’r teithwyr profiadol beth bynnag - a doedd dim amdani ond ei heglu hi’n ôl i’r Gwesty - tacsi i bedwar, trip o filltir yn costio £1.50! Gadawyd y gweddill i’w dyfeisiadau eu hunain.
Roedd brecwast bwffe wedi’i drefnu o flaen llaw. Roedd lefel y gwasanaeth a sylw manwl staff y Gwesty wedi pery syndod i ambell un mae’n debyg. Gwers yma na ddylai unrhyw un gael rhagdybiaeth efallai.
Yn dilyn cadarnhad fod y gêm yn erbyn Krakow i gychwyn am 6.15pm cafwyd ychydig o amser i weld canol y ddinas. Syfrdanol yw’r unig air i‘w ddisgrifio. Roedd arwyddocâd hanesyddol y ddinas yn gweiddi allan arnoch gyda’r prif sgwâr yn wirioneddol drawiadol. Gadawyd pawb i blesio eu hunain ond mae’n debyg i ran fwyaf o’r hogia ymweld a’r castell nodedig Wawel a’r Chwarter Iddewig.
Gyda’r ddinas yn ganolbwynt i oresgyniad y Naziaiad ym Mholand mae’n rhyfeddol sut y bu i’r ‘nazi psyche’ adael rhan helaeth o’r Synagogs Iddweig a’r adeiladau eraill yn gyflawn wrth ddinistrio’n gyfan gwbwl y gymuned Iddewig. Gyda’r amser yn hedfan gwnaeth y grwp eu ffordd tuag at Glwb Rygbi Juvenia Krakow.
Roedd y cyfleusterau yn drawiadol o gysidro newydd-deb y gêm yn y wlad. Roedd y stafelloedd newid, cawodydd a’r ystafell codi pwysau gyda’r gorau ac roedd y maes chwarae yn amgaeedig ac yn rhannol gyda therasau o'i amgylch. Wrth i chwaraewyr Krakow ddechrau cyrraedd fesul un roedd hi’n amlwg fod tipyn o frwydr o’n blaenau. Chwaraeodd JUVENIA ddau dîm llawn yn ystod y gêm. Go brin fod gan Bwllheli bymtheg ffit i gyd. Yn ffodus gyrrodd Radim Pavlasek ddwy awr o’r Weriniaeth Czech i gryfhau’r tîm.
Dechreuodd y Pwyliad yn gryf iawn ond synnwyd pawb gyda dycnwch a chydlyniad Pwllheli. Roedd ‘game plan’ Pwllheli yn ddigon syml ‘don’t give anything away’ ac am unwaith fe weithiodd. Ciciodd Pwllheli yn wych drwy gydol y gêm, gyda’r tîm i gyd yn chwarae’n dda a Charwyn Rowlands ar yr asgell yn chwarae rhan lawn. Gallwn gymryd balchder yn y modd y chwaraeodd y tîm i gyd gan ennill y gêm o 31-19.
Profodd y Pwyliadid yn westywyr penigamp. Yn dilyn y gêm aeth pawb am bryd o fwyd i ROOTERS. Er yn dda doedd o ddim patch ar HOOTERS yn America. Cyrhaeddodd pawb adref yn saff er yn flinedig ac ychydig yn gleisiog.
Roedd y diwrnod canlynol yn llawer mwy llesol ac yn brofiad ysgytwol wrth i ni ymweld â Auchwitz a Birkenau. Nid yw’r ymadrodd ‘creulondeb dyn i’w gyd-ddyn’ yn mynd yn agos i ddisgrifio’r erchyllterau ddigwyddodd yn yr Uffern yma. Roedd gweld dwy dunnell o wallt dynol yn ddigon i ddistewi’r mwyaf trydar o’r grwp. Roedd ehangder Birkenau yn drawiadol dros ben - 135 acer - a siambrau nwy yn dal 2000 ar y tro yn dysteb i’r gyflafan ddynol ar raddfa ddiwydiannol. Roedd yna boblogaeth o 90000 ar gyfartaledd yno, gyda marwolaeth yn beth cyffredin a nifer y dioddefwyr yn barhaol cael ei ailgyflenwi drwy gydol amser y Reich. Roedd pawb o dan deimlad yn gadael. Serch hynny fe ddylai dod i wybod am hyn fod yn rhan o’r Cwriciwlwm Cenedlaethol. Daliwn y gobaith fod y sawl gyflawnodd y troseddau hyn yn uffern.
Dechrau cynnar i ddydd Sadwrn gyda thaith bws pedair awr i gyrraedd y ganolfan am y tridiau nesaf - OSTRAVA yn y Weriniaeth Czech. Os am gam yn ôl mewn amser tra’n derbyn gwasanaeth heb ei ail ewch i’r Gwesty POLSKY DUM. Mae wedi’i leoli’n ganolog, yn westy tair seren gyda baddon ym mhob ystafell. Roedd y gwesty hefyd yn dda iawn gyda phrisiau fyddai ein teidiau a neiniau wedi’i dalu. Ewch yno cyn i bethau newid ac iddi ddod yn fwy poblogaidd a'r prisiau godi. Siaradwch efo JITKA yn y dderbynfa - merch hynod o ffeind.
Ar ôl gollwng y pacs, cyfarfod a’r bws. Tydwi ddim yn gwybod pa mor hen oedd y bws ond dwi’n siwr mai glo oedd yn ei gynnal. Beth bynnag am y bws, gwnaeth y dreifar i fyny am unrhyw wendidau yn y cludiant. Gwr mawr, addfwyn aeth allan o’i ffordd i’n gwneud yn gartrefol drwy gydol y tridiau y cawsom y fraint o’i gwmni. Roedd y lletygarwch a dderbyniwyd drwy gydol ein hymweliad yn rhagori. Dinas newydd, greuwyd yn y 1950au yn y steil Sovietaidd yw HAVIROV - calon ddiwydiannol yng Ngogledd y Weriniaeth.
Llethwyd pawb gyda’r croeso dderbyniwyd. Bwyd a diod diddiwedd a thywydd bendigedig yn cyrraedd 30 gradd. Gwylio Litchfield yn curo twrnament veterans yn y prynhawn. Roedd y banter rhwng y Saeson a’r Gymru yn diferu.
Mae pawb wedi clywed y jôc fod gan y Cymru ddiddordeb rhywiol mewn defaid. Cafwyd distawrwydd llethol pan wnaed y pwynt mai eu paratoi i gael eu bwyta gan y Saeson oedd y Cymru.
Yn dilyn y twrnament veterans cafwyd cyfle i wylio gêm Gynghrair bwysig rhwng Havirov a Prague gyda’r tîm cartref yn colli o drwch blewyn mewn gêm ddiddorol. Y bonws oedd cael cyfarfod Michel Pukas a fu’n propio ym Mhwllheli ychydig amser yn ôl.
Ar ôl peint neu ddau a chadarnhad trefniadau'r gêm yn erbyn Havirov y diwrnod canlynol dychwelyd i Ostrava a’r siawns gyntaf i bawb weld Stryd Stodloni, Ostrava - adloniant da, tai bwyta gwych a chwrw Czech bendigedig, a hyn i gyd am gostau’r 1950au. Roedd y profiad yn agoriad llygad o safbwynt safonau ag ansawdd. Llwyddodd y chwaraewyr gadw rheolaeth gan noswylio’n weddol gynnar. Roedd pethau’n wahanol gyda’r hen ddynion, ond roedd JITKA yno i ddymuno nos da - neu fore da hyd yn oed, pan ddychwelodd y gweddill i’r Gwesty.
Cyn symud ymlaen mae’n rhaid i mi ganmol Roy Kip - seren go iawn drwy gydol y trip.
Brecwast hyfryd y bore canlynol - chwech o ferched ifanc mewn iwnifform yn tendio arnom ni. Cychwyn am 12.00 ar y bws ac o fewn hanner awr cyrraedd cae Havirov. Gyda’r tymheredd yn cyrraedd 33 gradd roedd hi’n mynd i fod yn brynhawn hir a phoeth. Yn ffodus cytunodd rhai o hogia Litchfield fod wrth law petai angen. Daeth Aled Griffiths drwy brawf ffitrwydd cyn y gêm ond bu’n rhaid i Radim Pavlasek dynnu allan oherwydd anaf i'w law yn y gêm yn Poland.
Dechreuodd Havirov gyda thîm tipyn yn wahanol i’r diwrnod cynt yn erbyn Prague ond cymaint oedd uchafiaeth Pwllheli buan iawn y gwelwyd eilyddio.
Parhau mae anlwc Pwllheli hefo anafiadau - tro Carwyn Rowlands oedd hi y tro hwn wrth iddo ddatgymalu ei ysgwydd. Methodd dau feddyg oedd gyda Litchfield wneud dim. Doedd dim amdani felly ond mynd a Carwyn i’r ysbyty. O fewn 45 munud roedd wedi’i asesu, wedi cael x-ray, pigiad cortison a’r ysgwydd wedi’i rhoi yn ôl yn ei lle, a hyn i gyd yn ddi-dâl.
Mewn gêm galed yn byrlymu o daclo grymus ar y ddwy ochr daeth Pwllheli allan yn fuddugol o 38-17 gan ddod ag ychydig o gysur ar ddiwedd tymor trychinebus i’r Clwb.
Yn dilyn y gêm a’r cyflwyniadau diolchwyd i KAREL GAMAN Llywydd/Ysgrifennydd Havirov am ei gyfraniad hynod, a wnaeth y daith yn bosib ac yn llwyddiant ysgubol.
Ychydig yn drist, ffarweliwyd ag Ostrava a dechrau'r daith gartref gyda siwrna tren pedair awr i Prague. Gwnaed y daith gymaint yn fwy pleserus gan y bwyd ardderchog gan JLV ar y tren. Gellid gweld olion rheolaeth Rwsia yn achlysurol ar y ffordd mewn tomeni anferth o gerbydau militaraidd a gweddillion awyrenau rhyfel wedi'u gadael ar ochr y trac. Ymhen dim o amser gadawyd arwyddion diwydiant trwm ar ôl wrth i ni yrru drwy gefnwlad y Weriniaeth. Ar ôl cyrraedd Prague bwcio i fewn i'r Gwesty Kristal - adeilad 12 llawr o bensaerniaeth Sovietaidd, er hynny lle digon cyfforddus gydag en-suite yn mhob ystafell. Allan yn syth i weld beth oedd gan Prague i'w gynnig. Aeth y rhai hyn ohonom i weld y castel a'r Eglwysi Cadeiriol. Golygfeydd trawiadol dros ben. Aeth y chwaraewyr rywle arall. Mae'n rhaid eu bod wedi mynd ar goll yn rhywle - chyrhaeddo nhw ddim yn ôl tan oedd y tren yn barod i adael fore trannoeth!!!!! Cafwyd amser i wneud ychydig o siopa a chael pryd o fwyd cyn gadael HAVIROV am y maes awyr yn Krakow. Roedd hon yn daith bwysig iawn i'r Clwb. Aethom i Wlad Pwyl a'r Weriniaeth wedi colli'n statws fel Clwb Adran Pedwar. Llwyddodd y daith a'r perfformiadau ar y cae i godi ysbryd pawb a'n gwneud gymaint yn fwy penderfynol i wneud yn dda y tymor nesaf. Mae cynlluniau ar gyfer y daith nesaf yn 2008 - i Galifornia mae'n debyg, wedi cychwyn yn barod.
Wil Martin.
*****
Mai 13eg 2007
Diolch i Aleš Milerský am y lluniau yma o'r gêm.
*****
Mai 10eg 2007
19 31 Diolch i Filip Liguzinski am y lluniau yma o'r gêm.
***** Mai 9fed 2007 Mae’r daith ar gychwyn. Cyfarfod ym Mhwllheli am 12.15pm pnawn Mercher y 9fed a thrafeilio i Faes Awyr John Lennon, Lerpwl er mwyn dal yr awyren am Wlad Pwyl. Cyrraedd Krakow o gwmpas 8.45pm. Trafeilio i Westy Krakowiak, fydd yn ganolfan i’r trip am dair noson.
Krakow yw ail ddinas Gwlad Pwyl ac un o’r rhai hynaf yn y wlad. Mae iddi boblogaeth o 780,000. Mae hanes y ddinas yn mynd yn ôl mwy na mil o flynyddoedd ac erbyn heddiw yn ganolfan twristiaeth yn denu dros saith miliwn o ymwelwyr yn flynyddol.
Trannoeth ar ôl bore o ymlacio trafeilio efo bws ar gyfer gêm gyntaf y daith yn erbyn Clwb Rygbi Juvenia Krakow.
Mae rygbi rhyngwladol yn bodoli yma ers 1958 ag erbyn heddiw saif y wlad yn safle 31ain yn nhabl y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol. Curwyd eu dwy gêm ddiwethaf, yn erbyn Croatia 12-11 a 33-9 yn erbyn Latvia'r wythnos diwethaf.
Mae yna 26 o glybiau yn y wlad mewn dau gynghrair gyda Clwb Rygbi Juvenia Krakow yn chwarae yn yr Uwch Gynghrair.
Bore Sadwrn trafeilio i Ostrava yn y Weriniaeth Czech ac ar ôl bwcio i mewn i’r Gwesty Maria trafeilio i Havirov. Ffurfiwyd Havirov yn dilyn yn yr Ail Ryfel Byd fel tref lofaol. Hi yw ail ddinas fwyaf yr ardal gyda phoblogaeth o 85,000 ar fwyaf yn y Weriniaeth heb Brifysgol.
Dechreuodd y Weiriniaeth chwarae rygbi yn 1993 ar ôl torri i ffwrdd oddi wrth Czechoslovakia. Maent yn 33ain safle tabl y Bwrdd Rygbi ac ar hyn o bryd yn cystadlu yng Nghwpan Cenhedloedd Ewrop.
Mae yna 19 o glybiau gyda 3640 o chwaraewyr wedi’u cofrestru. Mae Havirov yn aelodau o’r Extraliga, prif gynghrair y wlad.
Mae penwythnos prysur wedi’i threfnu yn Havirov gyda 3ydd Twrnament y Vets yn cymryd lle cyn gêm Gynghrair rhwng RC Havirov a Tatra Smichov. Mae ail gêm Pwllheli wedi’i threfnu ar gyfer y diwrnod canlynol yn erbyn RC Havirov. Trefnir ymweliad i'r grwp â phwll glo brynhawn Llun, rhywbeth sydd yn siwr o fod yn brofiad newydd ac yn agoriad llygad i bawb. Daw'r daith i ben gyda siwrna tren i Prague a siawns i bawb gael eu gwynt atynt cyn trafeilio'n ôl i Gymru'r diwrnod canlynol.
**********************
Mai 3ydd 2007
Mae'r rhaglen wedi newid ychydig ers cael ei chyhoeddi gyntaf. Mae Undeb Rygbi'r Weriniaeth wedi trefnu fod RC Havirov yn chwarae gêm Gynghrair yn erbyn RC Tatra Smichov ar 12fed o Fai 2007 felly bydd y gêm rhwng RC Havirov a Chlwb Rygbi Pwllheli'n cael ei chwarae'r diwrnod canlynol. Bydd y tîm yn hedfan allan dydd Mercher Mai 9fed ac yn chwarae yn erbyn KRAKOW y diwrnod canlynol. Mae ymweliadau ag Auchwitz/Birkenau wedi'u trefnu ar gyfer y dydd Gwener cyn trafeilio i'r Weriniaeth Czech ar y Sadwrn.
********************* Ebrill 23ain 2007 Ar y 12fed o Fai 2007 bydd Clwb Rygbi Havirov yn cynnal eu twrnament Twrci am y drydedd gwaith yn rhan o gyfres Golden Oldies Ewrop - twrnament i chwaraewyr dros 35 oed. Yn dilyn y gystadleuaeth bydd Clwb Rygbi Pwllheli'n chwarae yn erbyn Clwb Rygbi Havirov. Hwn yw Clwb Pavel a Radim 1 a 2 yn ôl yn y Weriniaeth Czech.
Radim yn chwarae i RC Havirov yn 2005. Linc i wefan RC Havirov. |
|||||||||||||||